Trosolwg o’r Cwrs
Hyd: Dwy flynedd
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer y rhai sydd am ennill cymhwyster ffurfiol sy’n cyfuno gweithgareddau seiliedig ar waith ac astudio academaidd. Mae’r radd gan mwyaf yn seiliedig ar waith.
Bydd yr asesiad yn seiliedig ar aseiniadau ysgrifenedig ac arfer a arsylwyd yn yr ystafell ddosbarth.
15/3/22
Gofynion Mynediad
Cymhwyster Lefel 3 cysylltiedig gyda sgiliau llythrennedd a rhifedd da, yn ddelfrydol gyda gradd C neu gyfwerth mewn TGAU Saesneg a Mathemateg.
Yn ystod y cwrs, bydd gofyn i chi ymgymryd ag o leiaf 300 awr o ddysgu yn y gwaith bob blwyddyn (h.y. Cyfnod Sylfaen 3-7 mewn ysgolion neu ofal dydd, meithrinfeydd dydd, gofal sesiynol. gofal, grwpiau Dechrau’n Deg ac ati.
Dull Addysgu’r Cwrs
Addysgir y cwrs dros ddwy flynedd academaidd. Ym Mlwyddyn 1, byddwch yn dod i’r Coleg bob nos Fawrth (4pm-9pm) a bob nos Iau (3pm-9pm.)
Modiwlau Lefel 4 (blwyddyn un):
- sgiliau academaidd i fyfyrwyr
- damcaniaethau a datblygiad
- ymarfer seiliedig ar waith mewn gwasanaethau plant a phobl ifanc
- diogelu plant a phobl ifanc
- iechyd a lles plant a phobl ifanc
- gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd: egwyddorion
Modiwlau Lefel 5 (blwyddyn dau):
- amlieithrwydd, aml-feddwl
- plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol: cynhwysiant
- ymarfer seiliedig ar waith uwch mewn gwasanaethau plant a phobl ifanc
- dulliau ymchwil mewn addysg a gofal
- arwain gwaith mewn gwasanaethau plant a phobl ifanc
- y cyfryngau a llythrennedd digidol
Cyfleoedd Dilyniant
Ar ôl graddio, bydd myfyrwyr yn cael cyfle i symud ymlaen i flwyddyn olaf y cwrs BA (Anrh.) Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Gwybodaeth Ychwanegol
Achrediad Dysgu Blaenorol
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol. Mae rhagor o fanylion i’w gweld yn y Swyddfa Academaidd | PCDDS
Cod cwrs UCAS: 5G12
Y ffioedd dysgu yw £9,000 y flwyddyn. Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020/21, bydd rhaid i fyfyrwyr gael benthyciad ffioedd dysgu am y swm llawn. Mae’r Coleg yn cynnig bwrsari o £1,000 y flwyddyn tuag at gyrsiau AU amser llawn sy’n dechrau ym mis Medi 2020 (mae hyn yn dibynnu ar ddilyniant boddhaol ar y cwrs). I gael gwybodaeth am gymorth ariannol – gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu – ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Rydym yn awyddus i ystyried ceisiadau yn seiliedig ar gydnabyddiaeth o ddysgu blaenorol. Os ydych yn sylweddoli, adeg gwneud cais, eich bod wedi cwblhau rhan o’r dysgu mewn sefydlaid arall ac mae gennych ardystiad ar gyfer y dysgu hwn rhowch wybod i’r Swyddfa Dderbyn.
Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs hwn, h.y.:
- teithio i ac o’r Coleg, neu’r lleoliad
- costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
- argraffu a rhwymo
- gynau ar gyfer seremonïau graddio
- £38 am wiriad DBS ar gyfer yr elfennau lleoliad o’r cwrs