Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol – i Ddechreuwyr
Ffôn: 01792 284021 E-bost: abe@gcs.ac.uk
Trosolwg
Ydych chi’n gobeithio cael mwy allan o’ch dyfeisiau ar-lein, aros yn ddiogel ar-lein a chysylltu â’r byd modern? Nod ein cyrsiau Llythrennedd Digidol am ddim (yn amodol ar gymhwystra) yw eich helpu i adeiladu sgiliau hanfodol, yn enwedig os ydych yn newydd i dechnoleg neu’n ddysgwr hŷn.
Bydd y cyrsiau hyn, wedi’u hachredu gan AGORED, yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i chi lywio’r byd digidol yn hyderus.
Rydym yn cynnig dau opsiwn wedi’u teilwra i weddu i’ch anghenion:
Llythrennedd trwy TGCh (gliniaduron a chyfrifiaduron):
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar sgiliau digidol sylfaenol ond hanfodol i’r rhai sy’n defnyddio gliniaduron neu gyfrifiaduron pen bwrdd. Dysgwch hanfodion defnyddio cyfrifiadur, llywio meddalwedd, rheoli ffeiliau a llawer mwy.
Llythrennedd trwy lechi a ffonau symudol:
Mae’r cwrs hwn yn berffaith i’r rhai sydd am fod yn fwy cyfforddus wrth ddefnyddio eu llechen neu eu ffôn symudol. Darganfyddwch sut i ddefnyddio apiau, pori’r rhyngrwyd pan fyddwch chi allan, rheoli eich gosodiadau a llawer mwy.
Addysgir y cyrsiau hyn mewn lleoliadau amryfal ar draws Abertawe. Darllenwch yr adran ‘dull addysgu’r cwrs’ i wybod mwy.
E-bost: abe@gcs.ac.uk
Ffôn: 01792 284021
Gwybodaeth allweddol
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig cyrsiau Llythrennedd Digidol Sgiliau Hanfodol Cymru, sydd yn gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.
Yn ogystal, gall dysgwyr symud ymlaen i gyflogaeth, hyfforddiant a phrentisiaethau trwy dîm prentisiaethau Coleg Gŵyr Abertawe.
Am ddim (yn amodol ar gymhwystra).