Rheoliadau Gwifrau 18fed Argraffiad (City and Guilds) - Cwrs
Trosolwg
Mae cwrs Rheoliadau Gwifrau Argraffiad 18fed yn addas yn bennaf ar gyfer trydanwyr ac ymarferwyr eraill yn y diwydiant sydd angen y cymhwyster hwn i ymgymryd â'u gwaith dyddiol.
Mae'n darparu gwybodaeth ymarferol i ymgeiswyr am Reoliadau IET cyfredol ar gyfer Gosodiadau Trydanol, BS 7671:2008(2018), at ddibenion cydymffurfio â safonau a gofynion y diwydiant.
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus byddwch yn gymwys i ddiwallu gofynion y JIB o ran graddio ac ailraddio.
Rheoliadau Gwifrau 18fed Argraffiad 2382-18 City and Guilds.
Gwybodaeth allweddol
Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar gymhwyster perthnasol a/neu feddu ar wybodaeth ymarferol am y diwydiant trydanol.
Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried yn unigol, ond efallai na fydd angen cymwysterau ffurfiol arnoch - yn dibynnu ar brofiad.
Yn dibynnu ar eich sgiliau a'ch cymwysterau, effallai y bydd angen i ni gynnal cyfweliad dros y ffôn.
Mae'r cwrs yn cynnwys sesiynau addysgu yn yr ystafell ddosbarth ac arholiad llyfr agored dwy awr o hyd.
O ran y ddarpariaeth, gallwn gynnig tri diwrnod yn olynol, neu nosweithiau am 10 wythnos, 6pm i 9pm (yn amodol ar y galw).
Cost y cwrs hwn yn £350 (wedi'i eithrio rhag TAW), fodd bynnag, efallai y bydd cyllid ar gael yn amodol ar gymhwysedd. Cysylltwch â training@gcs.ac.uk neu 01792 284400 am ragor o wybodaeth.
Bydd angen i ymgeiswyr brynu llyfr Diwydiag 2 o Reoliadau Argraffiad 18fed IET (copi brown). Byddwch yn ei ddenfyddio yn ystod y cwrs ac ar gyfer yr arholiad.
Bydd angen i chi hefyd brynu cyfrifiannell, beiro a llyfr nodiadau.