Skip to main content

Canva ar gyfer Elusennau

Rhan-amser, GCS Training
Llys Jiwbilî
Un diwrnod
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Nod y gweithdy ymarferol hwn yw helpu pobl sy’n gweithio mewn elusennau i ddefnyddio Canva yn hyderus er mwyn creu deunyddiau clir a diddorol ar gyfer eu sefydliad. Mae’r sesiwn yn canolbwyntio ar ddefnyddiau pob dydd fel hyrwyddo digwyddiadau, rhannu gwybodaeth, cefnogi ymgyrchoedd a chyfathrebu â chynulleidfaoedd gwahanol.

Byddwn ni’n tywys dysgwyr trwy offer, templedi a nodweddion allweddol Canva, gan gynnwys opsiynau AI, a cewch amser i greu ac addasu dyluniadau sy’n berthnasol i’ch gwaith elusennol eich hun. Does dim angen profiad dylunio, dim ond parodrwydd i roi cynnig arni a dysgu drwy wneud.

Bydd y gweithdy yn cwmpasu Canva Pro ar gyfer elusennau, sydd ar gael am ddim i elusennau cofrestredig sy’n defnyddio cyfeiriad e-bost elusen, a sut i gyrchu a gwneud y gorau o’r nodweddion ychwanegol hynny.

Gwybodaeth allweddol

Gwybodaeth o ddefnyddio offer digidol.

Addysgir y gweithdy hollol ymarferol hwn wyneb yn wyneb ar Gampws Llys Jiwbilî. Bydd dysgwyr yn gweithio yn Canva drwy gydol y dydd.

Mae’r sesiwn yn canolbwyntio ar sut all elusennau ddefnyddio Canva i greu defnyddiau clir a diddorol ar gyfer eu gwaith.  Bydd dysgwyr yn archwilio templedi, offer dylunio, a nodweddion defnyddiol (gan gynnwys AI), a chymhwyso’r rhain i gyd-destunau elusennol go iawn fel digwyddiadau, ymgyrchoedd, codi arian a chyfathrebu. 

Mae cymorth ar gael drwy gydol y dydd a bydd dysgwyr yn gadael gyda mwy o hyder wrth ddefnyddio Canva a dyluniadau y gallan nhw eu haddasu a’u hailddefnyddio ar gyfer eu sefydliad.

Edrych ar gyrsiau eraill yng Ngholeg Gŵyr Abertawe fel Diwrnodau Darganfod Digidol mewn:

  • AI a Chynhyrchedd yn y Gweithle
  • Cydweithredu a Chyfathrebu Digidol
  • Offer AI a Digidol am ddim ar gyfer Addysg
  • Hygyrchedd Digidol
  • Cynnwys Digidol Creadigol. 

Cyrsiau achrededig yng Ngholeg Gŵyr Abertawe fel:

  • Cwrs byr Llythrennedd Digidol Lefel 2 (2 ddiwrnod)
  • Cwrs byr Llythrennedd Digidol Lefel 3 (5 diwrnod)
  • Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes Lefel 2
  • Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes Lefel 3.

Tystysgrif bresenoldeb. 

Dewch â’ch gliniadur eich hun os yw’n bosibl, fel y gelli di ddefnyddio a chofrestru ar gyfer offer digidol ar eich dyfais eich hun. Os nad oes gliniadur gennych, gallwn ddarparu un.

Canva for Charities
Cod y cwrs: YA344 SJ10
07/07/2026
Llys Jiwbilî
1 day
Tue
9.30am - 4.30pm
£0