Skip to main content

Gweinyddiaeth Feddygol Lefel 2 (Agored Cymru) – Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 2
AGORED
Llys Jiwbilî
18 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae prentisiaeth Gweinyddiaeth Feddygol Lefel 2 yn gymhwyster alwedigaethol sydd wedi’i ddylunio i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i weithio’n effeithiol mewn rôl weinyddol mewn lleoliad gofal iechyd neu feddygol.

Mae’r cymhwyster wedi’i anelu at ddysgwyr sy’n gweithio mewn, neu’n paratoi ar gyfer, rolau megis swyddog gweinyddol meddygol, clerc ward, derbynnydd, clerc bwcio, swyddog gweinyddol gofal cleifion, ysgrifennydd, cydlynydd gofal neu swyddog gweinyddol llif cleifion.

Gwybodaeth allweddol

Addysgir y brentisiaeth gan ddefnyddio dull cyfunol o addysgu wyneb yn wyneb ac addysgu carfan.

Unedau

  • Sgiliau gweinyddol meddygol
  • Sgiliau gweinyddol mewn amgylchedd meddygol
  • Sgiliau cyfathrebu mewn amgylchedd meddygol
  • Gweithio yn GIG Cymru fel swyddog gweinyddol meddygol.

Byddwch hefyd yn astudio amrywiaeth o unedau opsiynol fel rhan o’r brentisiaeth.

Agored Cymru Diploma Lefel 3 ar gyfer Ysgrifenyddion Meddygol.

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.