Peirianneg Sifil - Diploma Cenedlaethol Uwch (Cymhwyster Ychwanegol i’r Dystysgrif)
Ffôn: 01792 284098 E-bost: he@gcs.ac.uk
Trosolwg
Corff dyfarnu: Pearson
Eisoes wedi cwblhau HNC neu CertHE mewn Peirianneg Sifil ac yn barod i gwblhau'r Diploma llawn?
Gallwch gwblhau’r cymhwyster ychwanegol (un diwrnod yr wythnos) hwn i symud o Lefel 4 i Ddiploma Cenedlaethol Uwch Pearson.
Trwy astudio’r cwrs hwn byddwch yn adeiladu ar eich gwybodaeth dechnegol gymhwysol mewn dylunio a dadansoddi strwythurol, peirianneg, rheoli adeiladu a phrosiectau grŵp, a byddwch yn mynd i'r afael â phroblemau mwy cymhleth, gan werthuso eich atebion eich hun trwy arddangos yr ymreolaeth a ddisgwylir ar y lefel hon.
Mae'r Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) yn gyfatebol i flwyddyn gyntaf gradd BEng mewn Peirianneg Sifil. Mae'n rhoi mynediad i chi i ystod o rolau adeiladu a dylunio ar y safle a rolau swyddfa gan gynnwys gyrfaoedd fel peiriannwr, peiriannwr gosod, Rheolwr Prosiectau Peirianneg Sifil, technegydd CAD a gallwch hefyd barhau i astudio er mwyn sicrhau Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) neu radd BEng neu MEng llawn.
Byddwch yn cael eich addysgu mewn grwpiau bach, rhyngweithiol gan arbenigwyr a fydd yn defnyddio dulliau addysgu a fydd yn cynnwys astudiaethau achos yn y byd go iawn. Byddwn ni yn gweithio gyda chi fel unigolyn i sicrhau eich bod yn derbyn cymorth sgiliau penodol, boed hynny'n cynyddu hyder mathemategol, sgiliau cyflwyno neu sgiliau ysgrifennu ffurfiol. Mae cynnwys y rhaglen yn cael ei ddewis gan Banel, gyda chynrychiolwyr yn cynnwys Andrew Scott, Tai Tarian a chyflogwyr lleol a chenedlaethol eraill. Rydym yn gwneud hyn er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn dulliau dysgu cyfoes sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr.
Pa Ddiploma Cenedlaethol Uwch (DCU) ddylwn i ei hastudio?
Mae dau lwybr ar gyfer y Diploma Cenedlaethol Uwch, dewiswch yr un sy’n gweithio i chi:
- Rheolaeth Adeiladu - Diploma Cenedlaethol Uwch (Cymhwyster Ychwanegol i’r Dystysgrif) - Os ydych chi eisiau rhedeg prosiectau, bydd y cwrs yma yn dysgu sgiliau cynllunio i chi a byddwch yn darganfod sur i ddod â gwahanol dimau at ei gilydd ar brosiectau adeiladu. Byddwch yn dysgu sut i gyflawni prosiect ar amser (ar gyllideb) a sut i reoli risg.
- Peirianneg Sifil - Diploma Cenedlaethol Uwch (Cymhwyster Ychwanegol i’r Dystysgrif) - Os ydych chi'n mwynhau cymhwyso mathemateg a gwyddoniaeth i broblemau go iawn, mae’r cwrs hwn yn ffordd o adeiladu'r wybodaeth dechnegol i sydd ei angen arnoch i greu prosiectau peirianneg sifil.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn rhan-amser ac fel prentisiaeth.
Gwybodaeth allweddol
Rydym yn cydnabod cymwysterau ffurfiol a/neu brofiad gwaith perthnasol fel llwybrau mynediad i’r cwrs Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Peirianneg Sifil.
Mae gofynion mynediad cyffredinol yn cynnwys HNC neu CertHE mewn Peirianneg Sifil.
Fel arall, byddwn yn croesawu eich cais os oes gennych brofiad gwaith perthnasol yn y diwydiant a’ch bod yn gallu dangos hyfedredd mewn sgiliau Saesneg llafar ac ysgrifenedig a sgiliau mathemateg Lefel 5.
Darparwch gopïau o’ch tystysgrifau academaidd neu dystiolaeth o brofiad gwaith wrth wneud cais. Bydd ein tîm Derbyn yn adolygu pob cais yn ofalus i sicrhau eich bod yn addas ar gyfer y cwrs.
Addysgir y cwrs hwn drwy gyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai ymarferol, a phrosiectau grŵp. Byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaethau rhyngweithiol, astudiaethau achos, ac ymweliadau â safleoedd i weld peirianneg sifil ar waith. Bydd ein tiwtoriaid profiadol yn mynd â chi drwy gynnwys y cwrs, gan ddarparu cymorth ac adborth cynhwysfawr.
Modiwlau:
- Prosiect Grŵp
- Datblygiad Proffesiynol Personol
- Dylunio Strwythurol Uwch
- Mathemateg Uwch ar gyfer Adeiladu
- Deunyddiau Uwch
- Dulliau Adeiladu Cynaliadwy
- Rheoli Costau a Gwerth Peirianneg
- Dylunio Prosiectau Adeiladu.
Asesu:
Mae dulliau asesu wedi’u cynllunio ochr yn ochr â’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y diwydiant. Mae dulliau asesu yn cynnwys aseiniadau gwaith cwrs, gwaith ymarferol a chyflwyniadau. Mae meini prawf graddio wedi’u hamlinellu’n glir yn llawlyfr y cwrs, gan roi modd i chi ddeall y disgwyliadau a’r meini prawf ar gyfer pob asesiad.
Mae cwblhau’r Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Peirianneg Sifil yn agor y drws i ystod o gyfleoedd dilyniant ar gyfer eich gyrfa. Mae’r cymhwyster HND hwn yn rhoi modd i chi fanteisio ar rolau fel:
- Uwch Dechnegydd Peirianneg Sifil (ystod cyflog £28,000 i £35,000)
- Technegydd Peirianneg (ystod gyflog £28,000 i £35,000)
- Technegydd Priffyrdd/Draenio (ystod gyflog £28,000 i £35,000)
- Technegydd CAD (ystod cyflog £28,000 i £35,000).
Ar ôl cwblhau’r cwrs, gallwch ddilyn cymhwyster lefel uwch fel Gradd mewn Peirianneg Sifil neu faes cysylltiedig.
Wrth i chi ennill profiad ac arbenigedd neu drwy ddysgu pellach, gallwch symud ymlaen i swyddi fel Uwch Rheolwr Safle neu Reolwr Prosiect (ystod gyflog £40,000-£60,000).
Costau’r cwrs:
£2,340* y flwyddyn ond mae hefyd ar gael trwy lwybr prentisiaeth. I gael gwybodaeth am gymorth ariannol – gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu – ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.
Hyd y cwrs:
Addysgir y cwrs hwn dros ddwy flynedd academaidd ar Gampws Tycoch. Bydd y cwrs yn dechrau ym mis Medi. Cynhelir y dosbarthiadau rhwng 9am a 5pm ar ddydd Mawrth.
Ffioedd ychwanegol:
- Teithio i’r Coleg, neu’r lleoliad ac yn ôl
- Costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. cofau bach)
- Prynu esgidiau diogelwch
- Argraffu a rhwymo
- Gynau ar gyfer seremonïau graddio.
* Gallai’r ffioedd dysgu a nodir gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol.
