Skip to main content

Polisi Derbyn

Dyddiad CyhoeddiTachwedd 2024
Dyddiad AdolyguHydref 2027
AwdurMarie Szymonski, Cyfarwyddwr Marchnata, Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cymeradwywyd ganUwch Dim Arwain – 20.02.2025
Fersiwn4.0
CategoriCyhoeddus

Os ydych chi am gael y polisi hwn mewn fformat arall - cysylltwch â'r tîm Derbyn admissions@gcs.ac.uk

 

1. Cyd-destun

Nod y polisi hwn yw sicrhau triniaeth gyfartal i bawb sydd am gael eu derbyn fel dysgwyr i'r Coleg.

2. Cwmpas

Mae'r polisi hwn yn gymwys i ddysgwyr amser llawn a rhan-amser sydd am gofrestru yn y Coleg.

3. Datganiad o Bwrpas

Pwrpas y polisi hwn yw sicrhau triniaeth deg i bob ymgeisydd.

Mae'r Coleg yn croesawu ceisiadau o bob sector o'r gymuned. Byddwn yn ystyried pob cais ar sail teilyngdod a gallu, ac ni fyddwn yn gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, anabledd, oedran, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, ailbennu rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil.

4. Y Polisi

Gwneud cais i'r Coleg

4.1 Gall pob ymgeisydd gael gwybodaeth gywir a chyfredol gan y Coleg trwy gyrchu’r wefan (llawn amser a rhan amser) neu drwy ofyn am Ganllawiau i Ymadawyr Ysgol cyfredol (amser llawn) gan dîm derbyn y Coleg.

4.2 Bydd pob cwrs amser llawn a rhai cyrsiau rhan-amser yn cynnwys cyfweliad fel rhan o'r broses dderbyn.

4.3 Bydd gofynion derbyn eu hunain gan raglenni, yn seiliedig ar gymwysterau, profiad ac addasrwydd. Bydd dysgwyr yn cael gwybod am y rhain yn gynnar yn y broses ymgeisio.

4.4 Gall ymgeiswyr sy'n ffugio cymwysterau derbyn wynebu camau disgyblu neu gellir gwrthod lle iddynt.

4.5 Mae'r Coleg wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl ag anableddau neu Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn cael eu trin yn deg. Bydd pob addasiad rhesymol i ddarpariaeth yn cael ei wneud i sicrhau bod dysgwyr heb fod o dan anfantais sylweddol. Bydd pob datgeliad o anabledd neu Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael ei drin yn sensitif a'i ddefnyddio dim ond er budd posibl y dysgwr.

4.6 Gall y Coleg redeg dosbarthiadau ar gyfer cyrsiau a phynciau dim ond os oes nifer ddigonol o fyfyrwyr. Os nad yw'n ymarferol i gynnal cwrs neu gynnig pwnc caiff dysgwyr wybod am y dewisiadau eraill sydd ar gael.

4.7 Rhaid i ymgeiswyr:

  • bodloni gofynion derbyn penodol unrhyw raglen neu gwrs;
  • cytuno i dalu unrhyw ffioedd gofynnol;
  • cytuno i ddilyn Siarter Dysgwyr y Coleg ac ymgysylltu’n llawn â’u rhaglen astudio;
  • cadarnhau eu bod yn derbyn neu'n gwrthod unrhyw le a gynigir erbyn y dyddiad a nodwyd;
  • cwblhau datgeliad meddygol a ffurflen gydsyniad ar-lein os ydynt yn fyfyrwyr amser llawn.

4.8 Ymgeiswyr mewnol

  • Rhaid i ymgeiswyr mewnol fodloni’r un meini prawf mynediad ag ymgeiswyr allanol amser llawn
  • Disgwylir i ddysgwyr sy’n symud ymlaen i faes cwricwlwm arall fynychu unrhyw ddiwrnodau croeso a drefnir
  • Os oedd gan ymgeiswyr mewnol bresenoldeb, berfformiad neu ymddygiad gwael, gellir penderfynu y byddant yn cael cyfnod prawf gydag amodau ar ddechrau eu cwrs.

4.9 Caiff lleoedd eu rhoi ar sail:

  • y dysgwr yn bodloni'r amodau derbyn
  • y lleoedd sydd ar gael

4.10 Fel arfer, ni chaniateir mynediad i raglenni amser llawn i ymgeiswyr dan 16 oed. Mewn amgylchiadau eithriadol, pan na fydd yn bosib diwallu anghenion addysgol yr ymgeisydd yn yr ysgol, caiff y cais ei ystyried.

Mae'n rhaid i bob disgybl ysgol 14-16 oed Cyfnod Allweddol 4 sy'n gwneud cais i ddilyn cyrsiau yn y Coleg fel rhan o'u hastudiaethau Blwyddyn 10 ac 11 ddilyn y broses gofrestru 14-16 (Atodiad 4).

Ni ellir cofrestru myfyrwyr dan 16 oed ar gyrsiau rhan-amser.

4.11 Ymgeiswyr nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt: Gellir gofyn i'r ymgeiswyr hyn ddarparu tystiolaeth o'u cymwysterau ESOL, neu gwblhau asesiad Saesneg i asesu a yw lefel eu sgiliau Saesneg yn briodol ar gyfer y cwrs.

4.12 Caiff myfyrwyr rhyngwladol eu derbyn ar sail y meini prawf canlynol:

  • Sgôr IELTs ar gyfer UKVI, mae’n rhaid i hyn fodloni gofynion mynediad penodol y cwrs
  • Cymwysterau estron – rhaid i’r rhain fod yn gyfwerth â gofynion mynediad penodol y cwrs (defnyddir UKNARIC er mwyn cymharu)
  • Rhaid i fyfyrwyr fodloni’r holl feini prawf a osodwyd yn nghanllaw polisi haen 4 yr UKVI sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd. 

Safonau’r Gymraeg

4.13 Gall ymgeiswyr sy’n dymuno trafod eu cais yn Gymraeg wneud hynny gydag aelod o staff sy’n siarad Cymraeg o’r Tîm Derbyn/A&G.

4.14 Bydd pob ymgeisydd yn derbyn gohebiaeth ddwyieithog.

4.15 Rhoddir yr opsiwn i ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod yn siaradwyr Cymraeg neu sy’n dod o ysgol uwchradd Gymraeg gael eu cyfweliad yn Gymraeg.

4.16 Hyrwyddir diwylliant a naws Gymreig yn rhagweithiol yn y Coleg.

4.17 Gall ddysgwyr gwblhau eu gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt dymuno gwneud hynny a bydd cymorth ar gael i unrhyw un sy’n dymuno cwblhau pob darn o waith/darnau penodol o waith yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.

4.18 Rhestrir y cyrsiau/modylau y gellir eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ar y wefan ac fe’u hamlygir yn y canllawi i ymadawyr ysgol.

Yr Hawl i Wrthod Cais

4.19 Mae'r Coleg yn cadw'r hawl i wrthod derbyn unrhyw ymgeisydd:

  • os nad yw'n gallu bodloni'r gofynion derbyn (fodd bynnag, nid yw hyn yn dileu hawliau’r dysgwr i Addasiadau Rhesymol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010)
  • os oes collfarn droseddol 'berthnasol' gan yr ymgeisydd sydd naill ai heb ddarfod neu ni all byth ddarfod (gweler Adran 5 isod)
  • os yw wedi cael ei wahardd o'r blaen neu os yw wedi bod yn destun Gweithdrefn Disgyblu’r Coleg. Os felly, bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ar ôl cynnal cyfweliad dychwelyd i astudio
  • os oes dyledion heb eu talu gan yr ymgeisydd gyda'r Coleg
  • os yw'n darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol ar ffurflen gais neu ffurflen gofrestru.

4.20 Mae’r Coleg yn cadw’r hawl i wneud penderfyniad terfynol ar dderbyn cais neu gofrestriad i’r Coleg neu beidio.

4.21 Os yw'r Coleg yn cynnig lle ac yna'n darganfod bod yr ymgeisydd wedi ymrwymo i weithredu a fyddai'n cael ei ystyried yn gamymddwyn dybryd o dan Weithdrefnau Disgyblu'r Coleg, mae'r Coleg yn cadw'r hawl i dynnu'r cynnig yn ôl.

4.22 Bydd ymgeiswyr sydd heb lwyddo i gael lle ar y cwrs y maen nhw wedi gwneud cais amdano yn cael cynnig cyngor ac arweiniad priodol i drafod dewisiadau eraill.

Collfarnau Troseddol a Gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

4.23 Os yw'r Coleg yn gwybod am gollfarn droseddol bydd yn dilyn y broses a amlinellir yn y Polisi Cyn-droseddwyr (dysgwyr).

4.24 Mae'n rhaid i bob myfyriwr ar gyrsiau sy'n cynnwys lleoliadau gyda phlant neu oedolion agored i niwed gael tystysgrif DBS gyfredol a gyflawnwyd yn y tri mis diwethaf (os gan sefydliad arall) neu o fewn y tair blynedd ddiwethaf os cafodd ei gyflawni gan y Coleg.

4.25 Disgwylir i ddysgwr dalu am dystysgrif DBS eu hunain, ond ni fydd gofyn i ddysgwyr sy’n derbyn Cyllid o’r Gronfa Wrth Gefn dalu am un oherwydd bydd y gronfa yn gwneud hyn ar eu rhan.

5. Apeliadau

5.1 Os yw ymgeisydd yn anghytuno â phenderfyniad i beidio â'i dderbyn i'r Coleg, gall apelio drwy ddefnyddio Gweithdrefnau Apelio'r Coleg. Bydd y penderfyniad gwreiddiol yn cael ei ailystyried dim ond os nad oedd wedi dilyn Polisi Derbyn y Coleg neu bolisi perthnasol arall a/neu mae'r ymgeisydd wedi darparu tystiolaeth oedd heb ei datgelu yn gynharach yn y broses dderbyn.

6. Dogfennau Cysylltiedig

6.1 Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd â'r dogfennau canlynol:

  • Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol
  • Polisi Datganiad Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • Siarter Dysgwyr
  • Gweithdrefnau Disgyblu Myfyrwyr
  • Polisi Cyn-droseddwyr
  • Polisi Ffioedd
  • Gweithdrefnau Apelio'r Coleg
  • Hysbysiadau Preifatrwydd y Coleg
  • Polisi Atal
  • Polisi Diogelu Plant ac Oedolion Agored i Niwed.

7. Dyddiad y Polisi ac Adolygiad

7.1 Dyddiad y polisi hwn yw Tachwedd 2024. Caiff y polisi hwn ei adolygu bob tair blynedd. Dyddiad yr adolygiad nesaf yw mis Hydref 2027.

7.2 Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ymrwymedig i hyrwyddo’r iaith Gymraeg, yn unol â Safonau’r Iaith Gymraeg a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Atodiad 1: Y Broses Dderbyn ar gyfer Ymgeiswyr Amser Llawn

1. Mae ffurflen gais yn cael ei derbyn trwy wefan y Coleg.

1.1 Mae ceisiadau a dderbyniwyd trwy wefan y Coleg yn cael eu cydnabod yn awtomatig.

1.2 Gall ymgeiswyr ddatgelu eu dewis iaith, eu hanableddau neu eu hanghenion dysgu ychwanegol ar y ffurflen gais amser llawn a gofyn am addasiadau i'r broses gyfweld.

1.3 Eithriadau:

  1. Mae pob cais ar gyfer cyrsiau Addysg Uwch amser llawn yn cael eu prosesu trwy system ymgeisio UCAS.
  2. Os yw collfarnau troseddol yn cael eu datgelu mae'r polisi Cyn- droseddwyr yn cael ei weithredu.

2. Trefnir Cyfweliadau Maes Dysgu gyda’r aelod o staff priodol.

2.1 Anfonir gwahoddiad i gyfweliad i’r ymgeisydd gan roi o leiaf saith niwrnod o rybudd. Anfonir gwahoddiadau drwy e-bost fel arfer oni bai fod yr ymgeisydd wedi gofyn am lythyr.

2.2 Yn ystod y broses Derbyn, mae’r ymgeisydd yn derbyn yr wybodaeth ganlynol am y rhaglen:

  • Gofynion derbyn
  • Cynnwys a math o asesiad
  • Asesiad cyn-gofrestru
  • Cyfleoedd dilyniant
  • Disgwyliadau'r Coleg e.e. Siarter Dysgwyr
  • Y cymorth sydd ar gael i'r ymgeiswyr hynny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol
  • Gwybodaeth am gymorth ariannol
  • Costau cwrs ychwanegol e.e. offer, llyfrau ac ati
  • Cymwysterau a gaiff eu hennill os yw'r cwrs yn cael ei gwblhau'n llwyddiannus.

2.3 Eithriadau:

  1. Os yw’r ymgeisydd wedi’i wahardd yn y gorffennol, byddant yn dilyn y broses aildderbyn wedi gwaharddiad.
  2. Mae’r adran ILS yn trefnu eu cyfweliadau’n uniongyrchol. Addaswyd y broses i fod yn hyblyg i ddiwallu anghenion myfyrwyr unigol.
  3. Efallai y bydd angen sgrinio ymlaen llaw ar gyfer rhai meysydd dysgu.

3. Yr ymgeisydd yn mynychu'r cyfweliad cyfadran.

3.1 Ar y cam hwn bydd y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn cael cynnig lle ar y cwrs o'u dewis ac yn cael llyfryn cynnig cwrs.

3.2 Mae cadarnhad o'r cynnig hwn hefyd yn cael ei anfon trwy e-bost. Mae'r ymgeisydd yn derbyn ei gynnig o gwrs ac yn cwblhau'r datgeliad meddygol a'r ffurflen gydsyniad ar-lein.

3.3 Eithriadau

  1. Os nad yw ymgeisydd yn cael cynnig lle ar y cwrs o'i ddewis mae cyfweliad cyfadran arall yn cael ei drefnu, os yw'n briodol.
  2. Os nad yw ymgeiswyr yn mynychu'r cyfweliad cyfadran cyntaf, mae un newydd yn cael ei drefnu'n awtomatig iddynt.
  3. Os nad ydynt yn dod i'r ail gyfweliad mae e-bost yn cael ei anfon atynt yn gofyn a ydynt am barhau â’u cais.

4. Wrth gofrestru, os yw’r ymgeisydd yn bodloni’r gofynion mynediad cânt eu cofrestru ar y cwrs.

4.1 Os na chaiff y gofynion mynediad eu bodloni, rhaid i Ddeon y Gyfadran neu’r LAM gymeradwyo’r penderfyniad i gofrestru’r dysgwr ar y cwrs.

4.2 Os nad yw'r ymgeisydd yn bodloni'r gofynion derbyn, cânt eu cyfeirio at gwrs lefel is mewn maes priodol.

4.3 Os yw'r ymgeisydd yn penderfynu nad ydynt am gofrestru ar y cwrs y gwnaethant gais amdano yn wreiddiol, cânt eu cyfeirio at y tîm derbyn.

4.4 Os nad yw'r ymgeisydd yn dod i'r cyfweliad cofrestru, cysylltir â nhw i gael gwybod pam nad ydynt wedi mynychu ac a ydynt am aildrefnu'r cyfweliad.

Atodiad 2: Y Broses Dderbyn ar gyfer Myfyrwyr Rhan-amser

1. Ar gyfer llawer o gyrsiau rhan-amser, gall yr ymgeisydd gofrestru neu wneud cais am drafodaeth galwad yn ôl.

1.2 Gall trafodaethau neu gyfweliadau galwad yn ôl fod dros y ffôn neu yn bersonol, yn ôl yr angen. Pan fydd ar gael, anfonir dolen gofrestru i’w chwblhau er mwyn sicrhau’r lle.

1.3 Eithriadau:

N/A

2. Os oes rhaid cael cyfweliad caiff ei gynnal gan staff y gyfadran.

2.1 Tîm y gyfadran fydd yn penderfynu a oes angen cyfweliad ar gyfer y cwrs.

2.2 Yn ystod y broses Dderbyn mae hawl gan yr ymgeisydd gael yr wybodaeth ganlynol am y rhaglen:

  • Gofynion derbyn
  • Cynnwys a math o asesiad
  • Cyfleoedd dilyniant
  • Disgwyliadau'r Coleg e.e. Siarter Dysgwyr
  • Y cymorth sydd ar gael i'r ymgeiswyr hynny sydd ag anghenion dysgu ychwanegol
  • Gwybodaeth am gymorth ariannol
  • Unrhyw gostau cwrs ychwanegol e.e. offer, llyfrau ac ati
  • Y cymwysterau a gaiff eu hennill ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.

2.3 Eithriadau

  1. Os yw'r ymgeisydd wedi cael gwaharddiad yn y gorffennol, byddant yn cael cyfweliad dychwelyd i astudio cyn y gall eu cais fynd yn ei flaen.
  2. Os yw collfarnau troseddol yn cael eu datgelu mae'r Polisi Cyn-droseddwyr yn cael ei weithredu

3. Ar y cam hwn bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn cael cynnig lle ar y cwrs o'u dewis. Cadarnheir hyn gan y myfyriwr yn cwblhau’r broses gofresrtu ac yn talu’r ffi briodol. Neu, drwy lenwi’r ffurflen gofrestru ran-amser, gyda chaniatâd staff.

Atodiad 3: Y Broses Dderbyn ar gyfer Myfyrwyr Rhyngwladol

1. Rhaid i ddarpar fyfyrwyr gwblhau ffurflen gais ryngwladol yn llawn.

2. Rhaid i fyfyrwyr ddarparu tystiolaeth i fodloni gofynion mynediad cwrs - cyfwerth â Lefel 2 a IELTS ar gyfer Tystysgrif UKVI.

3. Caiff cymwysterau eu gwirio gan y swyddfa rhyngwladol (gwasanaeth gwirio UKNARIC/IELTS). Darperir cyfieithiadau os yw’n berthnasol.

4. Rhaid i fyfyrwyr ddarparu copi o’u pasbort ac unrhyw dudalennau fisa.

5. Os yw’n fodlon bod y myfyriwr yn bodloni ein gofynion academaidd a’i fod wedi darparu dogfennau hunaniaeth dilys, bydd staff Rhyngwladol yn cynnal cyfweliad ar-lein gan ddefnyddio rhestr o gwestiynau credadwyedd/cyfweliad wedi’u paratoi ymlaen llaw.

6. Os yw’r cyfweliad yn foddhaol, byddwn yn anfon cynnig amodol at y myfyriwr.

7. Mae’r amodau’n cynnwys: taliad llawn o flaendal ffioedd dysgu; tystiolaeth o gyllid cynnal; cysyniad rhiant i deithio a byw’n annibynnol yn y DU ac unrhyw wybodaeth benodol sy’n ofynnol i UKVI, e.e. tystysgrifau TB.

8. Rydym hefyd yn datgan ein polisi ad-daliadau yn y llythyr cynnig amodol sy’n datgan na fydd unrhyw fyfyriwr nad yw’n cael ei ystyried yn ddilys gan UKVI yn gymwys am ad-daliad. Bwriad hyn yw rhwystro ceisiadau nad ydynt yn “ddilys”.

9. Unwaith y bodlonir yr amodau a llofnodir y cynnig yn ffurfiol gan y myfyriwr, byddwn yn cyhoeddi CAS, sef ein cynnig diamod.

10. Darperir cefnogaeth fisa i bob myfyriwr os bydd ei hangen.

11. Os ceir fisa, neilltuir darparwr llety mewn cartref (mae gennym bortffolio o deuluoedd cynnal ag asesiad risg ac â gwiriadau GDG). Rydym hefyd yn cyhoeddi pecyn cyn cyrraedd sy’n darparu cyngor ar astudio yn y DU ac opsiynau teithio i sicrhau eu bod yn cyrraedd yn Abertawe yn ddiogel.

12. Os derbynnir fisa’r myfyriwr, y Coleg fydd yn dod yn noddwr haen 4 iddo.

Atodiad 4: Proses Dderbyn ar gyfer y rhaglen ysgolion

1. Academi Iau – llwybr amgen ar gyfer dysgwyr 14-16 oed.

1.1 Yn ystod mis Ebrill a mis Mai, bydd yr ysgol yn cyfeirio dysgwyr cymwys yr Academi Iau i’r Coleg. Byddant yn llenwi ffurflen gais gyda’u hysgol.

1.2 Ym mis Mehefin, gwahoddir yr ymgeiswyr i fynychu cyfres o sesiynau blasu a chânt gynnig cyfweliad. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cynnig lle ar y cwrs. Caiff hwn ei gadarnhau trwy’r ysgol.

1.3 Yn ystod y broses dderbyn, mae hawl gan yr ymgeisydd gael yr wybodaeth ganlynol am y cwrs:

  • Cerdyn gwybodaeth am y cwrs
  • Dillad a chostau
  • Y cymwysterau a enillir
  • Cyfleoedd dilyniant
  • Cynnwys a math o asesiad
  • Unrhyw drefniadau arbennig ar gyfer anghenion cymorth

1.4 Dylai rhieni ddychwelyd unrhyw ffurflenni i gyfadrannau cyn dechrau’r cwrs. Ym mis Gorffennaf, bydd dysgwyr yn mynychu’r Coleg er mwyn cofrestru.

1.5 Gofynnir i rieni ddychwelyd unrhyw ffurflenni angenrheidiol i’r Coleg cyn i’r cwrs ddechrau. Ym mis Gorffennaf, caiff dysgwyr wahoddiad i fynychu’r Coleg ar mwyn cofrestru.

2. Y Coleg Iau – yw’r Rhaglen o gyrsiau a gynigir i ysgolion

2.1 Bydd yr ysgol yn gofyn am gwrs trwy’r Rheolwr Ysgolion. Ar ôl cadarnhau’r archeb, bydd yr ysgol yn derbyn ffurflenni cofrestru a chydsynio. Bydd dysgwyr yn llenwi’r ffurflenni hyn gyda’r ysgolion.

2.2 Bydd yr ysgol yn dychwelyd y ffurflenni i’r Coleg cyn dechrau’r cwrs.

3. Eithriadau:

  1. Os yw myfyriwr wedi cael gwaharddiad yn y gorffennol neu os oes ganddynt gofnod troseddol, trefnir cyfweliad gyda’r Rheolwr Ysgolion a’r Arweinydd Cwricwlwm.
  2. Os na dderbynnir y myfyriwr, rhaid rhoi’r rheswm i’r ysgol yn gyntaf. Gallai’r ysgol apelio trwy ddarparu geirdaon pellach i’r Rheolwr Ysgolion a’r Arweinydd Cwricwlwm.

4. Dilyniant

Ar gyfer dysgwyr ar raglen ddwy flynedd, bydd yr Arweinydd Cwricwlwm yn trefnu ailgofrestru ar ddiwedd blwyddyn 10.

Atodiad 5: Y Broses Dderbyn ar gyfer Myfyrwyr Amser Llawn a myfyrwyr Addysg Uwch Rhan-amser

1. Amser Llawn

1.1 Mae ffurflen gais yn cael ei derbyn gan UCAS. Mae manylion am y cais yn cael eu rhoi ar QL ac mae Rhif Adnabod myfyriwr yn cael ei greu.

1.2 Anfonir y ffurflen gais at arweinydd y cwrs ar ffurf PDF am benderfyniad.

1.3 Mae Arweinydd y Rhaglen yn rhoi cynnig amodol neu ddiamod i’r ymgeisydd ar sail y ffurflen gais. Caiff hyn ei fewnbynnu i UCAS gan y Swyddog Derbyn AB ar gyfer y rhai sydd wedi gwneud cais trwy UCAS ac nid trwy’r llwybr cais uniongyrchol. Caiff yr holl benderfyniadau eu mewnbynnu i daenlen. Anfonir llyfryn cynnig electronig at yr ymgeisydd.

1.4 Datganiad Derbyn Cyd-destunol:

Mewn rhai achosion gall y Coleg roi cynigion derbyn yn eu cyd-destun yn seiliedig ar feini prawf ehangu cyfranogiad. Bydd gofyn i’r Coleg weithredu yn unol â gofynion, canllawiau a pholisi’r brifysgol dan sylw, y sefydliad dyfarnu, y sector cyflogaeth a’r Cyrff Statudol a Rheoleiddio Proffesiynol (PSRB) mewn perthynas ag unrhyw benderfyniadau a wneir.

1.5 Mae mynediad i rai cyrsiau yn gofyn am gyfweliad, trefnir hyn gan y Swyddog Derbyn AB.

1.6 Pan fydd yr ymgeisydd yn ateb ac yn gwneud dewis Cadarn neu ddewis Yswiriant, anfonir e-bost yn amlinellu’r camau nesaf.

1.7 Yn ystod y broses dderbyn a chofrestru, darperir yr wybodaeth ganlynol i’r ymgeisydd:

  • Ffioedd y cwrs a gwybodaeth am Gyllid Myfyrwyr (CMC)
  • Gofynion mynediad
  • Cymwysterau a enillir
  • Cyfleoedd dilyniant
  • Siarter Dysgwyr - Disgwyliadau’r Coleg
  • Y Cymorth sydd ar gael i Ddysgwyr a LFA
  • Y cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr sydd wedi/yn gadael gofal
  • Unrhyw gostau cwrs ychwanegol a Bwrsariaethau
  • Amodau a Thelerau’r Brifysgol a’r Coleg

1.8 Cyn cofrestru, caiff cymwysterau eu gwirio a lleoedd eu cadarnhau. Os nad yw ymgeisydd sydd â cynnig amodol yn bodloni’r gofynion mynediad, cânt wybod am gyrsiau amgen yn y Coleg. Os cynigir lle diamod i ymgeisydd ac nad ydynt yn gallu darparu tystiolaeth o’u cymwysterau, ni fyddant yn gallu cofrestru nes bod y rhain yn cael eu cyflwyno.

1.9 Mae’r cofrestru ar-lein, anfonir y ddolen gofrestru at yr ymgeiswyr cyn dechrau’r cwrs. Ar ôl cofrestru, anfonir gwybodaeth atynt am eu rhaglen sefydlu a’u dyddiad cychwyn.

1.10 Eithriadau:

  1. Dysgwyr Lefel 3 Cyfredol yn CGA
    Mae dwy ffordd o wneud cais am gwrs Addysg Uwch amser llawn yn CGA. Mae cais trwy UCAS a chais uniongyrchol.
    Opsiwn 1 – os yw myfyriwr yn dymuno gwneud cais i nifer o Brifysgolion a Cholegau, gan gynnwys CGA rhaid iddynt wneud cais trwy UCAS.
    Opsiwn 2 – os yw myfyriwr yn dymuno gwneud cais i CGA YN UNIG gallant wneud cais uniongyrchol drwy eu e-ILP.
  2. Os datgelir euogfarnau troseddol, gweithredir Polisi Euogfarnau Troseddol Heb eu Disbyddu.

2. Rhan-Amser

2.1 Derbynnir cais drwy ffurflen addysg uwch ran-amser y coleg (gwefan y coleg). Derbynnir y ffurflen yn awtomatig drwy e-bost gan y Swyddog Derbyn AU, rhoddir manylion am yr ymgeisydd ar QL a chaiff rhif adnabod myfyriwr ei greu.

2.2 Anfonir y ffurflen gais at arweinydd y cwrs mewn PDF.

2.3 Trefnir cyfweliad gydag Arweinydd y Rhaglen – gall hyn fod wyneb yn wyneb, ar Microsoft Teams neu dros y ffôn.

2.4 Mae Arweinydd y Rhaglen yn rhoi cynnig amodol neu ddiamod i’r ymgeisydd a menwbynnir y penderfyniad i daenlen. Anfonir llyfryn cynnig electronig at yr ymgeisydd.

2.5 Datganiad derbyniadau cyd-destunol: Mewn rhai achosion, gall y Coleg wneud cynigion derbyn cyd-destunol yn seiliedig ar feini prawf ehangu cyfranogiad AU. Bydd yn ofynnol i’r Coleg weithredu yn unol â gofynion, canllawiau a pholisi’r brifysgol barter, y sefydliad dyfarnu, y sector cyflogaeth a’r Cyrff Statudol a Rheoleiddio Proffesiynol ynghylch unrhyw benderfyniadau derbyn a wneir.

2.6 Pan fydd yr ymgeisydd yn ateb ac yn derbyn neu’n gwrthod eu lle, anfonir e-bost yn amlinellu’r camau nesaf.

2.7 Yn ystod y broses dderbyn a chofrestru darperir yr wybodaeth ganlynol i’r ymgeisydd:

  • Ffioedd y cwrs a gwybodaeth am SFW
  • Gofynion mynediad
  • Cymwysterau a enillir
  • Cyfleoedd dilyniant
  • Siarter Dysgwyr – disgwyliadau’r Coleg
  • Y Cymorth sydd ar gael i Ddysgwyr a LFA
  • Y cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr sydd wedi/yn gadael gofal
  • Unrhyw gostau cwrs ychwanegol a bwrsariaethau
  • Amodau a Thelerau’r Brifysgol a’r Coleg.

2.8 Cyn cofrestru, caiff cymwysterau eu gwirio a chaiff lleoedd eu cadarnhau. Os nad yw ymgeisydd sydd â chynnig amodol yn bodloni’r gofynion mynediad, cânt wybod am gyrsiau amgen yn y Coleg. Os cynigir lle diamod i ymgeisydd ac nad ydynt yn gallu darparu tystiolaeth o’u cymwysterau, ni fyddant yn gallu cofrestru nes bod y rhain yn cael eu cyflwyno.

2.9 Mae’r cofrestru ar-lein, anfonir y ddolen gofrestru at yr ymgeiswyr cyn dechrau’r cwrs. Ar ôl cofrestru, anfonir gwybodaeth atynt am eu rhaglen sefydlu a’u dyddiad cychwyn.

2.10 Eithriadau:

  1. Prentisiaethau Uwch rhan-amser
  2. Os datgelir euogfarnau troseddol, mae’r Polisi Euogfarnau heb eu Disbyddu yn cael ei weithredu.

Atodiad 6: Y Broses Dderbyn ar gyfer Myfyrwyr Dysgu Seiliedig ar Waith

1. Derbynnir y ffurflen gais drwy wefan y Coleg a chaiff ei phrosesu drwy Wasanaethau Dysgwyr a Thîm Ansawdd DSW.

2. Eithriadau:

  1. Os datgelir euogfarnau troseddol, gweithredir Polisi Euogfarnau Troseddol Heb eu Disbyddu.

3. Os yw’r ymgeisydd yn nodi ar y ffurflen gais eu bod yn gyflogedig, bydd Gwasanaethau Dysgwyr a Thîm Ansawdd DSW yn sicrhau bod yr holl gyfrifon angenrheidiol yn cael eu sefydlu a bod y Prentis yn cael asesydd a/neu aelod o staff DSW sy’n gyfrifol am gwblhau gwaith papur cofrestru prentisiaethau DSW.

4. Trefnir cyfweliadau fel y cytunir gan y partner cyflenwi a Gwasanaethau Dysgwyr a Thîm Ansawdd DSW.

5. Cynhelir asesiadau addasrwydd/cychwynnol/WEST/BKSB cyn i’r dysgwr ddechrau (lle bo’n berthnasol).

6. Ar gyfer y llwybrau adeiladu a’r amgylchedd adeiledig, gwneir gwiriadau cymhwysedd gan Hyfforddwr y Dysgwr cyn dechrau a gwirir amrywiaeth o waith.

6.1 Y gofynion mynediad ar gyfer gwaith coed, gwaith brics a phlastro yw:

Rhestr a, mae’r Brentisisaeth hon yn addas ar gyfer dysgwyr sydd:

  • Yn 16+ oed sy’n gweithio yn y grefft ar hyn o bryd ac sydd wedi
  • cyflawni’r Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu, neu
  • sydd wedi cyflawni’r Cymhwyster Dilyniant mewn Adeiladu lle mae’r brentisiaeth i gael ei chyflawni, neu
  • sydd wedi cyflawni Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 2 neu 3 yn y grefft y mae’r brentisiaeth i gael ei chyflawni ynddi, neu
  • 3 blynedd neu fwy o gyflogaeth brofadwy yn y grefft y mae’r brentisiaeth i gael ei chyflawni ynddi

Rhestr b, ac un neu fwy o’r canlynol, neu gymwysterau cyfwerth, ar lefel, neu’n uwch na lefel y rhestr isod:

  • Diploma Cenedlaethol Bagloriaeth Cymru
  • Cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu
  • Diploma Lefel 2 neu 3 yn y Grefft Adeiladu y mae’r brentisiaeth i gael ei chyflawni ynddi
  • Sgiliau Hanfodol Cymru neu Sgiliau Allweddol lefel 1 neu uwch mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif
  • TGAU gradd A*-D mewn unrhyw ddau o’r canlynol: - pwnc cyfathrebu, mathemateg a naill ai pwnc gwyddoniaeth neu bwnc technegol
  • Gradd A*- D mewn TGAU CBAC Amgylchedd Adeiledig
  • Lefel 2 Teilyngdod - Dyfarniad Galwedigaethol Lefel 1/2 CBAC mewn Adeiladu’r Amgylchedd Adeiledig
  • Gradd Teilyngdod TAG Safon Uwch/UG CBAC mewn Amgylchedd Adeiledig, Dyfarniad Technegol cyntaf BTEC Lefel 1/Lefel 2 Pearson mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig. Dim ond un o’r gofynion mynediad o restr b y bydd angen i ymgeiswyr uniongyrchol i’r llwybr Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu fod wedi eu cyflawni.

O 2023 ymlaen, ni fydd y Cymhwyster Dilyniant mewn Adeiladu yn gymwys fel opsiwn gofyniad mynediad.

Bydd angen cadarnhad gan y cyflogwr fod gan y dysgwr y profiad cyflogaeth angenrheidiol yn y grefft.

6.2 Ar gyfer prentisiaethau trydanol a phlymio, mae’r goyfynion mynediad ar gyfer dysgwyr sydd:

  • yn 16+ oed sy’n gweithio yn y grefft ar hyn o bryd ac sydd wedi
  • pasio’r holl asesiadau mynediad sy’n berthnasol i’r sector (lle bo’n briodol)
  • wedi cyflawni un neu fwy o’r canlynol (neu gymhwyster cyfwerth cydnabyddedig):
    • Cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
    • Cymhyster Lefel 2 Dilyniant mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu
    • Diploma Cenedlaethol Bagloriaeth Cymru
    • Gradd A*-C ar lefel TGAU ym mhob un o’r canlynol: - pwnc cyfathrebu, mathemateg a naill ai pwnc gwyddoniaeth neu bwnc technegol (e.e. Dylunio a Thechnoleg, Electroneg ac ati)
    • Gradd A*-C mewn TGAU CBAC Amgylchedd Adeiledig
    • Cymhwyster Lefel 2 ‘Mynediad i Beirianneg Gwasanaethau Adeiladu a/neu gymwysterau cyfwerth*

      *Gellir ystyried y cymhwyster hwn fel cymhwyster procsi ar gyfer y cymwysterau Sylfaen a Chraidd yn ystod y cyfnod pontio sy’n rhedeg 31 Rhagfyr 2023.

7. Gwahoddir yr ymgeisydd i fynychu Diwrnod Sero (ein diwrnod cofrestru / sefydlu). Mae Diwrnod Sero yn caniatáu i ni groesawu prentisiaid newydd i’r coleg, i’r rhaglen brentisiaeth maen nhw’n ei dilyn, ac i’r gwasanaethau a’r cymorth y gallant eu derbyn. Bydd gwaith papur cofrestru DSW hefyd yn cael ei gwblhau bryd hynny gydag aelod o staff DSW, yr asesydd a’r cyflogwr.

8. Os yw’r ymgeisydd wedi gwneud cais am brentisiaeth ond nad oes ganddynt gyflogaeth, bydd y Swyddog Recriwtio yn Nhîm Canolog DSW yn cysylltu, yn gweithio gyda’r ymgeisydd ac yn cysylltu â Thîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol i ddarparu cyflogaeth a chymorth cyflogadwyedd arall.

9. Os yw’n briodol, cânt eu cyfeirio at y tîm derbyn ar gyfer cyfweliad cwrs amser llawn.

10. Os yw’r ymgeisydd yn ymadawydd ysgol ac nad oes ganddynt gyflogwr, bydd y tîm derbyn yn cysylltu â nhw am gyngor ac arweiniad a chynigir cyfweliad iddynt ar gyfer cwrs amser llawn.

11. Mae’r tîm derbyn yn cadw mewn cysylltiad â’r ymgeisydd felly os ydynt yn penderfynu cael cyfweliad cwrs amser llawn, gellir trefnu un.

12. Unwaith y bydd ymgeisydd wedi sicrhau cyflogaeth, caiff y manylion eu cymryd a’u trosglwyddo i Hyfforddwyr Dysgwyr DSW.