| Dyddiad Cyhoeddi | Gorffennaf 2024 |
| Dyddiad Adolygu | Gorffennaf 2027 |
| Awdur | Mike Glover, Dirprwy Bennaeth Cyllid a MIS |
| Cymeradwywyd | Uwcg Dîm Arwain – 20.06.2024 |
| Fersiwn | 4.0 |
| Categori | Cyhoeddus |
1. Cyflwyniad
1.1 Mae’r Polisi Ffioedd yn ofynnol i sicrhau bod dull teg a chyson yn cael ei fabwysiadu ar gyfer codi ffioedd ar ddysgwyr yn y Coleg.
1.2 Er mwyn cynnal dichonoldeb ariannol bydd y Coleg yn:
- Cynllunio’r ddarpariaeth bresennol, yn ôl cwrs, fel ei bod yn ddichonol yn ariannol (lle mae incwm uniongyrchol o leiaf yn talu costau uniongyrchol a chostau cyffredinol a ddyrennir)
- Cynllunio darpariaeth newydd, yn ôl cwrs, fel ei bod yn ddichonol yn ariannol o fewn 3 blynedd (lle mae incwm uniongyrchol o leiaf yn talu costau uniongyrchol a chostau cyffredinol a ddyrennir)
Mae gosod ffioedd ar gyfer pob cwrs felly yn allweddol bwysig i sicrhau dichonoldeb ar lefel cwrs.
1.3 Bydd ffioedd gwahanol ar gyfer pob cwrs fel y nodir ym Mhrosbectws y Coleg, a bydd hyn yn cael ei adolygu bob blwyddyn.
1.4 Mae’n bosibl y bydd ffioedd gwahanol ar gyfer unigolion yn dibynnu ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i ariannu’r unigolyn – fel dysgwyr Rhyngwladol neu ddysgwr o oedran ysgol gorfodol (unrhyw oedran rhwng 5 ac 16).
1.5 Nid yw’r polisi hwn yn cynnwys codi ffioedd ar sefydliadau ar gyfer addysg a dysgu a ddarperir i’w cyflogeion. Bydd ffioedd o’r fath yn dibynnu ar alw a grymoedd y farchnad.
2. Polisi Ffioedd
2.1 Fel rheol bydd y Coleg yn codi ffioedd ar ddysgwyr am y cyrsiau mae’n eu darparu.
2.2 Nid yw’r Coleg yn gwahaniaethu ar sail oedran. Felly ni fydd ffioedd yn cael eu gosod ar sail oedran ac eithrio’r rhai a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.
2.3 Bydd unrhyw gonsesiynau a gynigir felly yn cael eu cynnig ar sail gallu i dalu yn hytrach nag oedran.
2.4 Mae’r ffi yn ffi “cwrs” ac nid yw yn ffi “dysgu” yn unig. Gall ffi’r cwrs gynnwys cofrestru, dysgu, arholiad (heblaw am ailsefyll arholiadau) ac ardystio.
2.5 Gall fod costau ychwanegol i’w talu ar rai cyrsiau ond dylai hyn gael ei nodi yn y prosbectws a’i esbonio yn ystod cofrestru a’r cyfweliad. Gall y costau hyn gynnwys costau adnoddau.
2.6 Mae’r ffi ar gyfer y cwrs cyfan ac mae’n sefydlog. Os bydd oriau’r cwrs yn newid ar ôl cyhoeddi’r prosbectws bydd rhaid esbonio hyn i’r dysgwyr ond ni fydd newid i’r ffi.
2.7 Ni chodir ffi dysgu ar gyfer addysg bellach amser llawn neu ran-amser a ddarperir i ddysgwyr y Deyrnas Unedig sydd wedi cwblhau eu haddysg ysgol orfodol, ac sydd o dan 19 oed ar 31 Awst cyn dechrau’r flwyddyn academaidd.
2.8 Yn ogystal, ni fydd y Coleg yn codi ffi dysgu ar gyfer addysg bellach amser llawn a ddarperir i ddysgwyr y Deyrnas Unedig o unrhyw oedran (y dysgwyr hynny sy’n astudio rhaglen amser llawn fel y diffinnir gan Lywodraeth Cymru).
2.9 Bydd y Coleg yn codi ffi gofrestru ar ddysgwyr addysg bellach amser llawn i dalu am y canlynol:
- costau gweinyddu cysylltiedig â’u cofrestru
- defnyddio Canolfannau Adnoddau Dysgu’r Coleg
- mynediad i, a defnydd o, gyfleusterau cyfrifiadurol y Coleg
- cynhyrchu a chyflenwi cerdyn adnabod y myfyriwr
- prosesu arholiadau
- cyfraniad at gostau rhedeg gweithgareddau UCM
- costau rhedeg Grŵp Rheoli Undeb y Myfyrwyr a gweithgareddau
Nid yw’r ffi cofrestru addysg bellach yn daladwy gan geiswyr lloches a ffoaduriaid.
Fel rheol mae’r Coleg yn caniatáu i rywun ailsefyll arholiad am ddim. Yn achos ailsefyll arholiadau pellach byddwn fel rheol yn trosglwyddo’r ffi gysylltiedig i’r ymgeisydd ar gyfer yr arholiad. Gallai’r ffi hon gynnwys cyfraniad at y gost weinyddu am gynnal ailsefyll yr arholiad. Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld ym Mholisi Arholiadau’r Coleg.
2.10 Ni fydd y Coleg yn codi ffi dysgu ar gyfer addysg bellach ran-amser a ddarperir i ddysgwyr y Deyrnas Unedig o dan 19 oed ar 31 Awst cyn dechrau’r flwyddyn academaidd, ond bydd yn codi ffi cwrs (h.y. ar gyfer y dysgwyr hynny nad ydynt yn dilyn rhaglen ddysgu amser llawn) sy’n cynnwys cofrestru, arholiad (heblaw am ailsefyll arholiadau), costau ardystio, a rhai costau adnoddau ar gyfer pob blwyddyn astudio. Bydd y dysgwyr hyn hefyd yn gymwys i gael consesiynau ar gyrsiau sy’n cynnig consesiynau.
2.11 Bydd y Coleg yn codi ffi cwrs a rhai costau adnoddau ar gyfer pob blwyddyn astudio ar gyfer addysg bellach ran-amser i ddysgwyr y Deyrnas Unedig hŷn na 19 oed.
2.12 Pan fydd disgybl ysgol yn mynychu cwrs astudio y tu allan i oriau ysgol nad yw’n gysylltiedig â rhaglen amser llawn y dysgwr yn yr ysgol, (e.e. cofrestru ar gwrs nos), bydd yn gymwys i gael cyllid Llywodraeth Cymru, ar yr amod ei fod/ei bod yn hŷn na’r oedran ysgol gorfodol.
2.13 Pan fydd sefydliad addysgol yn dymuno cofrestru dysgwr o oedran ysgol gorfodol ar gwrs Coleg, bydd y Coleg yn codi ffi ar y sefydliad addysgol am gost y cwrs hwnnw.
2.14 Yn gyffredinol, nid yw’r Coleg yn cofrestru myfyrwyr dan 16 oed ar ei raglenni (amser llawn neu ran-amser). Rhaid i’r Dirprwy Bennaeth ar gyfer Cwricwlwm, Ansawdd Addysgu a Dysgu gymeradwyo unrhyw eithriadau.
2.15 Bydd y Coleg yn codi ffi ar ddysgwyr addysg bellach nad ydynt yn gymwys i gael cyllid Llywodraeth Cymru (fel dysgwyr nad ydynt o’r Deyrnas Unedig), ffi sydd o leiaf yr incwm a fyddai wedi cael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru ynghyd ag unrhyw ffi a fyddai wedi cael ei chodi ar ddysgwr o’r Deyrnas Unedig.
2.16 Bydd y ffioedd hyn yn cael eu gosod yn flynyddol a gellir eu cael gan y Swyddfa Ryngwladol.
2.17 Bydd y Coleg yn penderfynu, fesul achos, a fydd yn codi ffi cwrs rhan-amser, ar ddysgwr amser llawn Coleg Gŵyr Abertawe. Dylai staff gysylltu â’r Dirpwrwy Bennaeth ar gyfer Cyllid a Systemau Gwybodaeth Rheoli a fydd yn rhoi cyfarwyddyd ar y mater hwn.
3. Strwythur Ffioedd
3.1 Bydd ffioedd yn cael eu gosod gan ystyried unrhyw gydweithredu â darparwyr eraill a/neu ffynonellau eraill o gymorth ariannol y bydd yr unigolyn yn gallu eu cyrchu.
3.2 Er mwyn gwella sgiliau cyflogadwyedd, bydd cyrsiau Sgiliau Sylfaenol ynghyd â chyrsiau Sgiliau Bywyd ESOL rhan-amser yn cael eu darparu am ddim.
3.3 Mae cyrsiau TGAU Mathemateg a TGAU Saesneg yn rhoi cymwysterau allweddol lefel 1/2 i ddysgwyr er mwyn eu helpu i symud ymlaen i lefelau uwch. Fel arfer cynigir consesiynau ar gyfer y cyrsiau hyn.
3.4 Mae cyrsiau eraill, gan mwyaf, yn gymwysterau proffesiynol a chyrsiau hamdden/adloniadol/anachrededig. Bydd y ffioedd hyn yn cael eu codi ar sail cyfradd y farchnad ac fel arfer ni fydd consesiynau’n cael eu cynnig.
3.5 Gall rhai cyrsiau addysg bellach gael eu cynnig fel rhan o gonsortiwm ehangach neu drefniant is-gontractwr. Bydd y ffioedd ar gyfer y cyrsiau hyn yn amodol ar y trefniadau penodol sydd ar waith.
3.6.1 Yn achos cyrsiau addysg uwch amser llawn a rhan-amser, bydd y Coleg yn adolygu lefel y ffioedd i’w codi bob blwyddyn. Efallai y bydd y Coleg yn cynnig bwrsariaethau i fyfyrwyr.
3.6.2 Os yw myfyriwr yn ystyried gadael cwrs addysg uwch mae’n bwysig eu bod yn ceisio cyngor cyn gynted ag y bo modd i sicrhau eu bod yn penderfynu gan wybod yr holl oblygiadau. Rhaid iddynt hysbysu eu tiwtor a’r Adran Systemau Gwybodaeth Rheoli (MIS) yn syth o’u penderfyniad i dynnu’n ôl neu ohirio eu hastudiaethau, gan gadarnhau eu dyddiad presenoldeb olaf. Os yw’n briodol, dylent hefyd gysylltu â Chyllid Myfyrwyr Cymru (neu eu Hawdurdod Addysg Lleol yn achos myfyrwyr sy’n parhau) oherwydd mae’n bosibl y bydd tynnu’n ôl yn peryglu eu hawl i gael cymorth ariannol yn y dyfodol neu y bydd rhaid ad-dalu’r cymorth ariannol a gafwyd.
3.6.3 Mae Ffioedd AU yn daladwy yn unol â thelerau talu'r brifysgol freinio gysylltiedig. Mae cyfarwyddyd ar gyllid myfyrwyr amser llawn AU a ffioedd ar gael ar wefan y Coleg.
Cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau bod ganddynt ddigon o gyllid cyn dechrau astudiaethau yn y Coleg i dalu ffioedd.
Bydd myfyrwyr nad ydynt wedi sicrhau cymorth gan Gyllid Myfyrwyr yn gyfrifol am dalu eu holl ffioedd dysgu eu hunain.
Gofynnir i fyfyrwyr ddarparu prawf o gyllid adeg cofrestru. Os ydynt yn dal i fod yn y broses o hawlio cymorth, gofynnir iddynt ddarparu’r wybodaeth ofynnol o fewn y 28 diwrnod canlynol. Os na fydd yr wybodaeth yn cael ei darparu erbyn yr adeg honno byddant yn cael eu hanfonebu’n llawn am y ffioedd i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’u rhwymedigaeth ffi i’r Coleg.
Bydd y Coleg yn gwrthbwyso unrhyw gostau, e.e. adnoddau, costau arholiadau, y mae wedi eu codi yn erbyn unrhyw ad-daliad o ffioedd dyledus.
Mae’r Coleg yn cadw’r hawl i wrthbwyso unrhyw fwrsariaeth ddyledus yn erbyn unrhyw ffioedd sydd heb eu talu.
4. Cymwysterau Nad Ydynt yn Rhai Adran 97
4.1 Yn achos dysgwyr 19 oed a hŷn nad ydynt yn astudio ar gyfer cymwysterau a gymeradwyir o dan adran 97 o’r Ddeddf Dysgu a Sgiliau, defnyddir cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer yr addysgu yn unig, ac nid ar gyfer ffioedd asesu’r corff dyfarnu.
4.2 Rhaid i’r ffioedd (neu’r ffi gonsesiynol os cynigir hon) ar gyfer y cyrsiau hyn fod yn ddigonol i dalu ffi asesu’r corff dyfarnu (gan gynnwys costau cofrestru ac arholiadau).
5. Consesiynau
5.1 Bydd consesiynau ar gael ar gyrsiau penodol (fel y nodwyd yn Adran 3.2 ac Adran 3.4) i ddysgwyr penodol.
5.2 Mae’r Coleg yn cynnig consesiynau ar sail y gallu i dalu. Rhaid bod dysgwyr yn derbyn un o’r budd-daliadau seiliedig ar incwm a nodwyd isod.
Credyd Cynhwysol, sydd wedi disodli rhai o’r canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Credydau Pensiwn
- Credyd Treth Gwaith
- Budd-dal y Dreth Gyngor
- Budd-dal Tai
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
5.3 Fodd bynnag, wrth gyflawni ein goblygiadau i Lywodraeth Cymru, bydd dysgwyr o dan 19 oed hefyd â’r hawl i gael consesiynau ar gyfer y cyrsiau hynny sy’n cynnig consesiynau.
5.4 Rhaid i ddysgwyr ddarparu tystiolaeth eu bod yn derbyn y budd-dal cymwys (neu oedran neu statws addysg). Ni fydd y dysgwyr na allant ddarparu tystiolaeth ddilys adeg cofrestru yn gymwys i gael consesiynau a rhaid iddynt dalu cost lawn y cwrs.
5.5 Dim ond y Dirprwy Bennaeth Cyllid ac MIS sy’n gallu cymeradwyo diwygiadau i ffioedd.
6. Cymorth Grantiau
6.1 Bydd y Coleg yn hyrwyddo a chynorthwyo dysgwyr i wneud cais am gymorth grantiau tuag at ffioedd.
6.2 Mae’r grantiau hyn yn cynnwys Grantiau Dysgu’r Cynulliad, Cyllid Myfyrwyr Cymru a Chyllid ReAct.
6.3 I gael rhagor o wybodaeth am y grantiau hyn dylai dysgwyr gysylltu â’r Tîm Cyllid Myfyrwyr.
7. Disgowntiau a Chymelliadau
7.1 Efallai y bydd y Coleg yn cynnig rhai disgowntiau neu gymelliadau ar rai cyrsiau i annog dysgwyr i wneud cais yn gynnar neu i annog galw am gyrsiau penodol.
7.2 Y Deon Cyfadran perthnasol fydd yn nodi ac yn cytuno ar y math o ddisgownt neu gymhelliad. Mae’r holl ddisgowntiau neu gymelliadau hyn i’w cymeradwyo gan y Dirprwy Bennaeth Cyllid ac MIS.
8. Cynlluniau Rhandaliadau
8.1 Mae’r Coleg yn cynnig cynlluniau rhandaliadau fel cyfleuster fel bod y dysgwr yn gallu lledaenu cost y cwrs.
8.2 Bydd y Coleg yn parhau i gynnig cynlluniau rhandaliadau ar gyfer cyrsiau nad ydynt yn rhai AU (yn amodol ar y trefniadau eraill a nodwyd uchod) sy’n costio £100 neu fwy. Telir y ffioedd fel a ganlyn:
- Telir 50% o’r ffi adeg cofrestru
- Telir 25% o’r ffi un mis ar ôl cofrestru
- Telir 25% o’r ffi dau fis ar ôl cofrestru (ar yr amod bod y tâl llawn yn cael ei dderbyn un mis cyn diwedd y cwrs)
8.3 Bydd ffi weinyddu o £10 yn cael ei chodi am unrhyw gynlluniau rhandaliadau.
8.4 Os bydd dysgwr yn tynnu’n ôl o ddosbarth cyn bod y rhandaliadau yn ddyledus, bydd cost lawn y cwrs yn ddyledus o hyd a disgwylir i’r taliadau gael eu hanrhydeddu. Os na dderbynnir tâl ar y dyddiadau gofynnol neu os bydd taliadau’n cael eu canslo mae’n bosibl y bydd ffi weinyddu ychwanegol yn cael ei chodi.
8.5 Os bydd y Coleg yn canslo cwrs rhaid i’r Gyfadran a’r Adran System Integredig a Gwybodaeth Rheoli roi gwybod i’r Adran Gyllid i sicrhau na chyflwynir unrhyw sieciau ôl-ddyddiedig i’w talu.
8.6 Mae gan rai cyrsiau AU rhan-amser gynlluniau rhandaliadau gwahanol. Gellir cael manylion gan yr Adran Gyllid neu’r Rheolwr AU.
9. Datblygu Staff a Disgowntiau Staff
9.1 Bydd y Coleg yn annog a hyrwyddo staff i ddilyn cyrsiau yn y Coleg trwy’r Adran Datblygu Staff a Disgowntiau Staff.
9.2 Er bod yr Adran Datblygu Staff neu Ddisgowntiau Staff efallai yn ariannu rhan o’r cwrs, neu’r cwrs cyfan, rhaid i staff ddilyn yr holl bolisïau a gweithdrefnau derbyn a chofrestru safonol.
9.3 Rhaid i’r holl geisiadau am gyrsiau sydd i’w hariannu trwy’r Adran Datblygu Staff gael eu cymeradwyo gan y Pennaeth Gwasanaethau Adnoddau Dysgu cyn cofrestru.
9.4 Bydd lefel y Disgowntiau Staff yn cael ei chytuno bob blwyddyn – lefel y disgownt cyfredol yw £120.
9.5 Mae gan yr holl staff a gyflogir yn y Coleg hawl i ddefnyddio’r Disgownt Staff yn erbyn unrhyw un cwrs.
9.6 Os yw cost y cwrs yn fwy na’r disgownt rhaid i’r aelod o staff dalu’r gwahaniaeth adeg cofrestru.
9.7 Nid yw’r disgownt hwn yn ymestyn i gyrsiau y mae’r Adran Datblygu Staff eisoes wedi darparu cyllid ar eu cyfer.
9.8 Mae’r Disgownt Staff hefyd ar gael i staff gwirfoddoli sy’n gweithio yn y Coleg.
10. Ad-daliadau
10.1 Os bydd y Coleg yn canslo dosbarth neu’n symud grŵp i ddiwrnod, amser neu leoliad gwahanol ac mae hyn yn annerbyniol i’r dysgwr, bydd ffioedd y cwrs yn cael eu had-dalu. Ar wahân i’r amgylchiadau hyn, ni fydd y Coleg, fel rheol, yn ad-dalu ffioedd cyrsiau.
10.2 Yn dibynnu ar yr amgylchiadau mae’n bosibl y bydd ffi weinyddu yn cael ei chodi am ad-daliadau.
10.3 Nid yw ffioedd ond yn gallu cael eu cymeradwyo (ar wahân i ddosbarthiadau wedi’u canslo neu wedi’u symud) yn ôl y tabl isod:
Cymeradwyo Ad-daliadau
Pwyllgor Cyllid dros £20,000
Prif Weithredwr hyd at £20,000
Dirprwy Bennaeth ar gyfer Cyllid ac MIS hyd at £2,000
10.4 Bydd ad-daliadau ar gyfer dosbarthiadau wedi’u canslo neu wedi’u had-drefnu ond gael eu cymeradwyo gan y Dirprwy Bennaeth MIS.
10.5 Mae manylion y Polisi Ad-daliadau cyhoeddedig ar gyfer y cyhoedd i’w gweld yn Atodiad 1.
11. Ffioedd Heb Eu Talu
11.1 Os na thelir ffioedd, bydd y Coleg yn cymryd camau i adennill y swm sy’n weddill, a gall hyn arwain at gamau adennill dyled.
11.2 Os bydd trydydd parti yn methu â thalu ffioedd ar ran y dysgwr, bydd y dysgwr yn gyfrifol am gost y cwrs.
11.3 Os bydd unrhyw ffioedd yn dal i fod heb eu talu, mae’n bosibl y bydd y Coleg yn atal unrhyw dystysgrifau academaidd, gwrthod rhoi geirda a/neu wahardd y dysgwr o’r Coleg nes bydd y ffioedd hyn yn cael eu had-dalu.
12. Ffioedd Rhyngwladol
12.1 Nid yw dysgwyr ond yn gymwys i dalu ffioedd cartref os ydynt yn bodloni meini prawf Llywodraeth Cymru, sef bod yn ddinesydd y DU neu os nad yw’n ddinesydd y DU (yna yn amodol ar feini prawf penodol) gall fod yn gymwys os yw’r dysgwr:
- yn geisiwr lloches
- yn ffoadur
- â fisa cysylltiedig â gwaith
- â statws preswylydd sefydlog
- â statws preswylydd cyn-sefydlog
Mae’r canllawiau ar gymhwystra yn gymhleth ac mae Llywodraeth Cymru yn eu diweddaru o dro i dro. Dylai unrhyw ddarpar fyfyriwr nad yw’n ddinesydd yn y DU gysylltu â’r Swyddfa Ryngwladol neu’r adran MIS i gael canllawiau ar ei gymhwystra a ffioedd.
12.2 Mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid sydd â cherdyn cofrestru cais y Gwasanaeth Cynnal Cenedlaethol i Geiswyr Lloches hefyd yn gymwys i dalu ffioedd cartref.
12.3 Os oes gan rywun gyfyngiad ar faint o amser mae’n gallu bod yn y Deyrnas Unedig a/neu mae wedi bod yn byw yma am lai na 3 blynedd efallai y bydd yn rhaid talu ffioedd rhyngwladol.
12.4 Os bydd gwybodaeth yn dod i law ar ôl i ddysgwr gofrestru fel dysgwr cartref, sydd yn newid ei statws mewnfudo, efallai y bydd yn rhaid talu ffioedd rhyngwladol llawn.
12.5 Mae rhestr o ffioedd sy’n daladwy gan ddysgwyr Rhyngwladol ar gael o’r Swyddfa Ryngwladol.
12.6 Mae diffinio Dysgwyr Rhyngwladol yn gymhleth – dylai pob Dysgwr Rhyngwladol posibl gael ei gyfeirio at y Swyddfa Ryngwladol i asesu ffioedd.
13. Yr Iaith Gymraeg
13.1 Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ymrwymedig i hyrwyddo’r iaith Gymraeg, yn unol â Safonau’r Iaith Gymraeg a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Atodiad 1
Polisi Ad-Daliadau
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ymrwymedig i hyrwyddo mynediad a chyfranogiad ar ei gyrsiau gan bob aelod o’r gymuned.
Os bydd nifer y dysgwyr sy’n mynychu dosbarth yn cwympo i lefel lle nad yw’r dosbarth yn ddichonadwy mwyach, mae’r Coleg yn cadw’r hawl i uno’r dosbarth â dosbarth arall neu gau’r dosbarth os bydd rhaid.
Wrth bennu ein polisi ad-daliadau ar gyfer dysgwyr sy’n tynnu’n ôl o gyrsiau, mae gan y Coleg ddyletswydd i ystyried dichonoldeb cyrsiau a’n hymrwymiad i’r dysgwyr hynny sydd, yn rhesymol, yn disgwyl i’w cyrsiau barhau tan ddiwedd y cwrs llawn.
Bydd ad-daliad llawn o ffi’r cwrs yn cael ei roi ar gais dim ond os:
- Bydd y Coleg yn canslo cwrs.
- Bydd y Coleg yn newid diwrnod, amser neu ddull addysgu neu leoliad y cwrs.
Fel rheol ni fydd ad-daliadau’n cael eu rhoi mewn unrhyw amgylchiadau eraill.
Bydd y Coleg yn penderfynu ad-dalu ffioedd fel y gwêl yn dda.
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cadw’r hawl i godi ffi weinyddu ar gyfer ad-daliadau.
Bydd unrhyw gais am ad-daliad yn cael ei ystyried a byddwn yn ymateb o fewn 4 wythnos o’i dderbyn.