Skip to main content

Safon Uwch Astudiaethau Busnes

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Trosolwg

Bydd Safon Uwch Astudiaethau Busnes yn rhoi cyfle i ddysgwyr:

  • Ennill dealltwriaeth gyfannol o fusnes mewn sectorau, marchnadoedd a chyd-destunau amrywiol
  • Archwilio swyddogaethau craidd unrhyw fusnes - Marchnata, Adnoddau Dynol, Cyllid a Rheoli Gweithrediadau
  • Nodi cyfleoedd sy’n bodoli i entrepreneuriaid o ran ateb anghenion a dymuniadau cymdeithas a darparu nwyddau a gwasanaethau
  • Datblygu dealltwriaeth o bwysigrwydd busnesau bach i economi Cymru
  • Ymchwilio i faterion busnes cyfredol a deall sut mae busnesau’n addasu i weithredu mewn byd deinamig sy’n newid
  • Ennill ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd a’r bygythiadau o weithredu mewn marchnad fyd-eang
  • Clywed sgyrsiau ysbrydoledig gan amrywiaeth o siaradwyr allanol a chael y cyfle i fynd ar deithiau allgyrsiol (yn lleol a thramor!)
  • Datblygu ystod eang o sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer addysg uwch a chyflogaeth.

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU
  • Gradd C mewn TGAU Saesneg a Mathemateg yn hanfodol
  • Nid oes angen profiad o Astudiaethau Busnes arnoch.

Amser llawn yng Ngorseinon. 4.5 awr yr wythnos.

Assessment:

Asesir y cwrs drwy bedwar arholiad ysgrifenedig dros ddwy flynedd.

Blwyddyn 1 (UG):

  • Uned 1 (15% o’r cymhwyster)
  • Uned 2 (25% o’r cymhwyster)

Blwyddyn 2 (Safon Uwch):

  • Uned 3 (30% o’r cymhwyster)
  • Uned 4 (30% o’r cymhwyster)

Mae Astudiaethau Busnes yn briodol ar gyfer nifer diderfyn o feysydd gyrfa! Mae myfyrwyr wedi mynd ymlaen i sefydlu eu busnesau eu hunain, dilyn prentisiaethau neu barhau â’u hastudiaethau yn y brifysgol. Yn aros yng Ngholeg Gŵyr Abertawe gallech symud ymlaen i’r rhaglen HND Rheoli Busnes, sy’n arwain at Radd BA Rheoli Busnes.

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.