Skip to main content

Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol a Thechnoleg: Graffeg a Ffotograffiaeth Lefel 3 - Diploma Estynedig

Amser-llawn
Lefel 3
UAL
Gorseinon
two years
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Mae’r cwrs dwy flynedd hwn yn cynnig cyfle cyffrous i ennill y sgiliau sydd eu hangen i symud ymlaen i addysg uwch neu gael cyflogaeth mewn amrywiaeth mawr o lwybrau yn y diwydiannau creadigol.

Bydd meysydd astudio’n cynnwys: Dylunio Graffig a Ffotograffiaeth

Byddwch yn dysgu am bob agwedd ar y broses greadigol o’r cyn-gynhyrchu i’r ôl-gynhyrchu. Byddwch yn gweithio ar gynyrchiadau mewn astudiaethau ymarferol, damcaniaethol a chyd-destunol, gan gynhyrchu portffolios ar-lein a dangos riliau o’ch gwaith. Caiff myfyrwyr gyfle i ymweld â stiwdios cynhyrchu, digwyddiadau gyrfaoedd arbenigol, diwrnodau agored prifysgol a bydd gweithdai ymarferol, gan gynnwys sgiliau cyflogadwyedd. 

Y diwydiannau creadigol yw un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yn y DU ac yn enwedig yng Nghymru, gyda throsiant blynyddol o dros £1.9 biliwn. Mae’n cyflogi dros 58,000 o bobl, 52% yn fwy na deng mlynedd yn ôl. Mae Cymru bellach yn cael ei chydnabod yn eang fel canolfan ar gyfer cynhyrchu teledu a ffilmiau. Mae hefyd yn gartref i glwstwr technoleg ddigidol sy’n tyfu. Maen nhw’n cwmpasu amryw byd o swyddi gan gynnwys y Cyfryngau Digidol, Marchnata, Teledu, Ffilm, Hysbysebu ac Animeiddio.   

Bydd y cwrs hwn yn cefnogi myfyrwyr sydd am ddilyn y gyrfaoedd canlynol: Dylunydd Graffig, Dylunydd Hysbysebu, Ffotograffiaeth, Artist 2D, Darlunydd Digidol, Animeiddiwr 2D, Artist Cysyniad, Cynllunydd Set, Animeiddiwr Fesul Ffrâm, Cynhyrchu Fideo, Datblygwr y Cyfryngau Cymdeithasol, Creawdwr Cynnwys, Dylunydd Gwefannau.  

Corff Dyfarnu: Prifysgol y Celfyddydau Llundain (Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol a Thechnoleg) 

Gwybodaeth allweddol

Pum gradd A-C ar lefel TGAU neu’r Diploma Lefel 2 mewn Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol.

Bydd rhaid i chi gyflwyno portffolio o waith celf yn eich cyfweliad. Bydd myfyrwyr hŷn â’r sgiliau neu’r profiad perthnasol hefyd yn cael eu hystyried. Mae diddordeb yn y cyfryngau a chreadigrwydd hefyd yn hanfodol.

Asesir y cwrs drwy asesiadau parhaus. Bydd myfyrwyr yn gweithio ar brosiectau yn unigol neu mewn timau, sydd â’r nod o atgynhyrchu arferion y cyfryngau proffesiynol. Mae rhai prosiectau yn cynnwys creu cynhyrchion y cyfryngau ar gyfer cleient. Caiff aseiniadau eu cyflwyno gan ddefnyddio’r system rheoli cyrsiau ar-lein.

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gallech symud ymlaen i’r cwrs Gradd Sylfaen mewn VFX a Graffeg Symudol 

Astudiaethau pellach yn y brifysgol.

Mae ffi stiwdio £25 ar gyfer y cwrs hwn.

Dilynwch ni ar Instagram: gcs.creativemedia

Explore in VR