Skip to main content

Diploma Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach

Amser-llawn
Lefel 2
AGORED
Tycoch
Un blwyddyn
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Bwriedir y cwrs hwn i fyfyrwyr a hoffai baratoi ar gyfer y rhaglenni Mynediad i AU yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Mae’r rhaglen hon ar gyfer myfyrwyr sydd ag anghenion llythrennedd a rhifedd sylfaenol yn ogystal â’r rhai sydd â diffyg hyder ar gyfer y rhaglen Mynediad blwyddyn sydd wedi bod yn heriol ers cyflwyno’r drefn raddio yn 2009.

Mae’n gwrs amser llawn am flwyddyn ac yn paratoi myfyrwyr yn llawn ar gyfer gofynion addysg Mynediad. Drwy gydol y flwyddyn bydd myfyrwyr yn cael cyfweliadau un-i-un gyda’r Pennaeth Addysg Mynediad i sicrhau eu bod ar y trywydd iawn ac i’w cefnogi yn eu datblygiad academaidd.

Asesir y cwrs gan ddefnyddio arholiadau, traethodau, cyflwyniadau, seminarau, adroddiadau a thrwy asesiadau wedi’u hamseru yn y dosbarth. Gallai’r unedau newid wrth i’r gofynion ar gyfer myfyrwyr a sefydliadau Addysg Uwch newid.

Addysgir y cwrs gan ddefnyddio darlithoedd, siaradwyr gwadd, arddangosiadau/arsylwadau clinigol ynghyd â sesiynau holi ac ateb anffurfiol i helpu myfyrwyr i wneud cynnydd. Mae gan y cwrs amser llawn 14.5 awr yr wythnos o astudio dros dri diwrnod. Neilltuir awr ar gyfer gofal bugeilio a thiwtorial i gefnogi dysgwyr.

Gwybodaeth allweddol

Mae’r rhaglen hon ar gyfer myfyrwyr sy’n gallu ymdopi ag astudio Lefel 2. Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu gan ddefnyddio asesiadau ar-lein, ysgrifenedig a llafar i sicrhau bod y myfyrwyr yn cael eu rhoi ar y rhaglen astudio gywir. Dylai myfyrwyr fod yn ymgeiswyr aeddfed gyda thystiolaeth glir o brofiad bywyd.

Dyma ddadansoddiad o’r unedau i’w hastudio:

TeitlLefelCredydau
Ysgrifennu ffeithiol23
Cyfrifiadau: Ffracsiynau, degolion, canrannau13
Prosiect integredig26
Defnyddio cyfrifiadau: rhifau cyfain, ffracsiynau, degolion a chanrannau13
Atalnodi13
Sgiliau cyflwyno23
Sgiliau astudio: Cymryd nodiadau13
Llên-ladrad21
Rhif a chyfrif13
Cyflwyno prosiect ymchwil26
Darllen a deall23
Cyfathrebu ysgrifenedig23
Ysgrifennu traethawd22
Cymdeithaseg trosedd a gwyriad23
Arferion gwaith cymdeithasol23
Hanes y Wladwriaeth Les hyd at 195023
Cyflwyniad i gymdeithaseg23
Ymwybyddiaeth o amddiffyn a diogelu...13
Seicoleg23
Seicoleg gymdeithasol23
Sgiliau cwnsela a chyfathrebu23
Sgiliau cwnsela23
Cyflwyniad i ddatblygiad plant a phobl ifanc13
 

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu symud ymlaen i’r cyrsiau Mynediad yn y Coleg neu i raglenni Lefel 3 eraill yn y Coleg.

Os nad ydynt yn cael eu cyflogi ym maes iechyd ar hyn o bryd, disgwylir i fyfyrwyr ennill profiad gwaith sy’n addas i’r llwybr dilyniant y maen nhw wedi’i ddewis. Rhoddir cyfle hefyd i fyfyrwyr ymweld â sefydliadau AU lleol ledled Gorllewin Cymru i gwrdd â’r timau derbyn a bydd cost fach i dalu am y teithio.