Skip to main content

Safon Uwch Sbaeneg

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Mae Safon Uwch Sbaeneg yn ddewis perffaith i ddysgwyr sydd am gael dealltwriaeth ddyfnach o’r iaith Sbaeneg, ei diwylliant, a’i chymdeithas. Yn ystod y cwrs, bydd myfyrwyr yn ymarfer y pedwar sgìl iaith draddodiadol - siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu - tra hefyd yn dod i gysylltiad ag agweddau diwylliannol gwledydd Sbaeneg eu hiaith. Bydd cyfranogwyr hefyd yn cael cyfle i ymwneud â phynciau a materion cyfoes yn Sbaeneg. 

Mae’r cwrs hwn yn opsiwn gwych i’r rhai sydd am ychwanegu at eu gwybodaeth bresennol o Sbaeneg, yn ogystal â’r rhai sydd angen defnyddio’r iaith ar gyfer astudio, gwaith neu hamdden. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar bedwar pwnc (bod yn berson ifanc yn y byd Sbaeneg ei iaith, deall y byd Sbaeneg ei iaith, amrywiaeth a gwahaniaeth, Sbaen yn ystod cyfnod Franco). Trwy’r pynciau hyn byddwch yn datblygu eich rhuglder iaith a’ch gwybodaeth o’r byd Sbaeneg ei iaith. 

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU 
  • Gan gynnwys gradd B (argymhellir) yn Sbaeneg a Saesneg Iaith
  • Bod yn barod i gymryd rhan lawn mewn gwersi bywiog a diddorol.

  • Byddwch yn dysgu gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys gwaith unigol a gwaith grŵp, dadleuon, a gweithgareddau gwrando rhyngweithiol
  • Credwn mai dim ond yn ei hamgylchedd diwylliannol y gellir dysgu iaith, felly rydym yn defnyddio deunyddiau dilys fel llenyddiaeth, ffilmiau, cerddoriaeth a’r cyfryngau i ddeall cyd-destunau hanesyddol, diwylliannol, cymdeithasol ac artistig gwledydd lle siaredir Sbaeneg. Bydd y myfyrwyr hefyd yn elwa drwy dreulio 30 munud ychwanegol yr wythnos gyda’r Cynorthwyydd Sbaeneg i ymarfer eu sgiliau llafar
  • Mae CBAC yn gosod yr arholiadau UG a Safon Uwch, sy’n cael eu sefyll yn yr haf.

Gallai myfyrwyr fynd ymlaen i astudio yn y brifysgol, p’un a ydynt yn arbenigo mewn Sbaeneg neu gyfuno’r iaith â phwnc arall. Mae ieithoedd yn Safon Uwch bob amser yn ddeniadol i diwtoriaid derbyn prifysgolion. 

Mae ieithoedd hefyd yn ddefnyddiol mewn llawer o yrfaoedd fel hamdden a thwristiaeth, newyddiaduraeth, busnes, gwleidyddiaeth. 

Ymhlith y prifysgolion y mae myfyrwyr wedi symud ymlaen iddynt mae Caerdydd, Abertawe, Bryste, Caerwysg, Llundain (King’s, UCL), Rhydychen a Chaergrawnt. Gall astudio iaith agor llawer o gyfleoedd ar gyfer dilyniant gyrfa. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi ieithoedd oherwydd eu bod yn dangos profiad diwylliannol eang yn ogystal â sgiliau trosglwyddadwy uchel eu parch megis cyfathrebu, datrys problemau a bod yn ddigymell.