Skip to main content

Chwaraeon: Hyfforddiant a Pherfformiad Pêl-droed (Pro:Direct) Lefel 3 - Diploma

Amser-llawn
Lefel 3
BTEC Diploma
Tycoch
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

 Mae’r cwrs dwy flynedd hwn yn berffaith i’r rhai sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau a’u perfformiad pêl-droed eu hunain ac sydd am astudio hyfforddi.  

Mae’n cynnwys Tystysgrif Estynedig (ym Mlwyddyn 1) sy’n newid i’r Diploma Cenedlaethol (ym Mlwyddyn 2), gyda Bagloriaeth Cymru yn rhan ohono hefyd sy’n rhoi modd i’r myfyrwyr ennill cymhwyster cyfwerth â thair Safon Uwch. 

  • Cewch gipolwg gwerthfawr ar dechnegau hyfforddi ar gyfer amrywiaeth o boblogaethau pêl-droed, o blant ifanc i chwaraewyr proffesiynol elit. 
  • Mae meysydd astudio’n cynnwys datblygu sgiliau pêl-droed, hyfforddi ar gyfer perfformiad, dadansoddi, cynllunio ac arwain rhaglenni pêl-droed a chyfleoedd eraill cysylltiedig â'r diwydiant a modiwlau arholiad mewn Anatomeg, Hyfforddiant a Rhaglenni Ffitrwydd (Blwyddyn 1) a Busnes mewn Chwaraeon (Blwyddyn 2) 
  • Byddwch chi’n datblygu sgiliau diwydiant trwy amrywiaeth o leoliadau gwaith lleol dan oruchwyliaeth tiwtorial ac ennill sgiliau bywyd gwerthfawr trwy ein hymweliad addysgol dros bythefnos â Chlwb Pêl-droed Benfica, Lisbon. 

Gwybodaeth allweddol

  • Pum gradd C neu uwch ar lefel TGAU neu Lefel 2 mewn Chwaraeon neu Gwasanaethau Cyhoeddus (proffil Teilyngdod). 
  • O leiaf radd C mewn TGAU Saesneg Iaith a Mathemateg. 
  • Bydd rhaid dangos eich sgiliau pêl-droed a’ch dealltwriaeth o bêl-droed yn nhreialon Academi Pro:Direct cyn y cwrs. 

Asesu: 

  • Arholiadau seiliedig ar senario (darperir nodiadau) 
  • Aseiniadau  
  • Asesiadau ymarferol 
  • Cyflwyniadau. 

Meini Prawf Graddio: 

  • Gwaith cwrs ac arholiadau  

  • Byddwch yn ennill cymhwyster hyfforddiant pêl-droed Lefel 1 FAW a chael cyfleoedd i symud ymlaen i gymwysterau hyfforddi pellach.
  • Gallwch gael lle prifysgol i astudio ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd mewn addysg gorfforol, hyfforddi, rheoli chwaraeon, dadansoddi chwaraeon.
  • Bydd cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn rhoi modd i chi ennill sgiliau gwerthfawr a allai gefnogi gwaith yn y diwydiant hamdden.
  • Yn aros yn y Coleg, gallech chi symud ymlaen i’r cwrs gradd Sylfaen mewn Datblygu a Rheoli Chwaraeon
  • Gallech barhau â’ch astudiaethau dramor yn America ar ysgoloriaethau chwarae neu addysgol.

Rhaid i fyfyrwyr brynu pecyn cit Academi Pro:Direct ar gyfer y cwrs.