Skip to main content

Peirianneg Drydanol ac Electronig HND

Amser-llawn
Lefel 5
HND
Tycoch
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Corff llywodraethu: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Logo Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Mae’r cwrs hwn yn addas i’r rhai sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn peirianneg drydanol/electronig, gyda chyfrifoldeb am ddylunio, gosod, comisiynu a gweithredu gwasanaethau peirianneg.

Gwybodaeth allweddol

Un o’r canlynol:

  • Mynediad i’r Diploma AU - Pas
  • Safon Uwch - DD/EEE
  • BTEC Diploma Lefel 3 - PPP

A gradd C mewn Mathemateg a phwnc Gwyddoniaeth ar lefel TGAU. 

Modiwlau’r flwyddyn gyntaf yw:

Lefel 4

  • Mathemateg
  • Cymwysiadau peirianneg a sgiliau astudio
  • Egwyddorion trydanol ac electronig
  • Dylunio gododiadau trydanol
  • Micros, perifferolion a rhyngwynebau
  • Dynameg, rheolaeth ac offeryniaeth.

Modiwlau'r ail flwyddyn yw:

Lefel 5

  • PLCs a rheolaeth
  • Prosiect grŵp
  • Prosesau signalau digidol a chyfathrebu
  • Rheoli, arloesi a chynaliadwyedd
  • Pŵer trydanol
  • Damcaniaeth egwyddorion trydanol.

Mae’r cymhwyster yn agor cyfleoedd gyrfa mewn ymgynghori, contractio a gweithgynhyrchu yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Bydd myfyrwyr hefyd yn gallu symud ymlaen i’r cwrs BEng ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Sut i wneud cais

Bydd angen i chi wneud cais drwy UCAS (cod UCAS yw 2H99)

Cliciwch yma i wneud cais

Achrediad Dysgu Blaenorol

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol. Mae rhagor o fanylion i’w gweld yn y Swyddfa Academaidd | PCDDS

Ffioedd dysgu’r cwrs hwn yw £9000. Mae’r Coleg yn cynnig bwrsari gwerth £1000 tuag at hyn ar gyfer cyrsiau amser llawn.

I gael gwybodaeth am gymorth ariannol, gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu a grantiau ffioedd, ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs hwn h.y.:

  • teithio i’r Coleg, neu’r lleoliad, ac yn ôl
  • costau llungopïo, deunydd swyddfa ac offer (e.e. ffyn USB)
  • argraffu a rhwymo
  • gynau ar gyfer seremonïau graddio

*Sylwch fod y ffioedd dysgu a nodwyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24 a gallent gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol. Ewch i wefan y brifysgol i gael rhagor o wybodaeth.