Skip to main content

Cyfrifeg ACCA FA – Cyfrifeg Ariannol

Rhan-amser
Lefel 4
ACCA
Sketty Hall
12 wythnos

Arolwg

Achredir ein cyrsiau cyfrifeg proffesiynol gan ACCA ac rydym yn Bartner Dysgu Cymeradwy Platinwm. Eu bwriad yw rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd proffesiynol a fydd yn datblygu gweithwyr proffesiynol i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus; p’un a ydynt yn gweithio yn y sector cyhoeddus neu breifat, yn ymarfer mewn sefydliad cyfrifyddu neu’n dilyn gyrfa mewn busnes. 
 

04/07/23

Gwybodaeth allweddol

Yn ddelfrydol, dylai myfyrwyr feddu ar un neu ddwy radd A-C ar lefel TGAU. Fodd bynnag, mae synnwyr cyffredin a dawn am rifau ac amcangyfrif yn bwysicach. Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran.

FA – Cyfrifeg Ariannol. Byddwch yn dysgu egwyddorion a chysyniadau sylfaenol cyfrifeg ariannol, technegau cyfrifeg a pharatoi datganiadau ariannol sylfaenol. Byddwch yn dangos hyfedredd technegol wrth ddefnyddio technegau cofnodi dwbl, gan gynnwys paratoi a dehongli datganiadau ariannol sylfaenol ar gyfer unig fasnachwyr, partneriaethau, cwmnïau a grwpiau syml o gwmnïau.

Addysgir y cwrs drwy ddarlithoedd ystafell ddosbarth gan aelodau staff cymwysedig a phrofiadol.

Cynigir arholiadau ffurfiol yn ôl y galw.

Bydd myfyrwyr yn gallu astudio a symud ymlaen at bapurau ACCA eraill AB, MA, LW, PM, FR, TX, AA, FM, SBL ac SBR, a phynciau dewisol. Ar ôl cwblhau FM, gellir cael gradd ddewisol trwy Brifysgol Brookes Rhydychen. Mae'r Coleg yn gallu cynnig gwasanaeth mentora ar gyfer y cymhwyster hwn sydd ar hyn o bryd yn £500. Cysylltwch â Emma Thomas - Emma.thomas@gcs.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth. Mae’r cwrs hefyd yn darparu cymhwyster y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.

Gellir ariannu’r cwrs hwn trwy ein Cynllun Sgiliau ar gyfer Diwydiant – gofynnwch am ragor o fanylion.

Os hoffech astudio’r cwrs hwn, cysylltwch â'r Tîm Cyfrifeg ar 01792 284097 neu e-bostiwch accountancy@gcs.ac.uk

FA (F3) - Financial Accounting
Cod y cwrs: PC002 PTF3
16/04/2024
12 weeks
Tue
9am - 1pm
£525
4