Skip to main content

Cyfrifiadura Cymhwysol HND

Amser-llawn
Lefel 5
HND
Tycoch
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Cwrs amser llawn yw hwn ar gyfer myfyrwyr sydd am brofi ystod eang o Sgiliau Cyfrifiadura a TG a ddefnyddir yn helaeth ym myd diwydiant.

Dylai fod gan fyfyrwyr ddiddordeb mawr mewn Cyfrifiadura/TG ​​a bod yn awyddus i gadw i fyny â’r technolegau diweddaraf a deall lle maen nhw’n bwysig i fodel busnes cwmni. Gall myfyrwyr llwyddiannus symud ymlaen o’r rhaglen yn uniongyrchol i flwyddyn olaf gradd BSc sy’n gysylltiedig â Chyfrifiadura ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Mae’r cwrs yn cwmpasu modiwlau sy’n nodi’r prinder sgiliau mewn TG/Cyfrifiadura, gan gynnwys: sgiliau academaidd a chyflogadwyedd ar gyfer myfyrwyr AU, pensaernïaeth a rhwydweithiau cyfrifiadurol, datblygu meddalwedd, peirianneg gwybodaeth, dadansoddi data a delweddu, technolegau rhyngrwyd a diogelwch, cysyniadau llwybro a switsio, datblygu apiau, systemau rheoli cronfeydd ddata, technolegau gwe, rheoli prosiectau a dulliau ymchwil ac – i’r myfyrwyr hynny sydd â diddordeb mewn dechrau a rhedeg eu busnes eu hunain - mae modiwl menter/arloesi.

Addysgir y rhaglen trwy ddarlithoedd, astudiaethau achos, arddangosiadau ymarferol a sesiynau tiwtorial.

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad:

Tariff UCAS - 48 pwynt

Safon Uwch - DD/EEE

Pearson BTEC Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 - PPP 

Mynediad i Ddiploma AU - Pas

Pearson BTEC Diploma Cenedlaethol Lefel 3 - MP

Sylwch y gallai/dylai pynciau Safon Uwch, Pearson BTEC (Diploma Cenedlaethol/Diploma Estynedig) neu Fynediad i AU gynnwys TGCh, Cyfrifiadura neu debyg. Fodd bynnag, byddai cymwysterau perthnasol eraill yn cael eu hystyried yn amodol ar gyfweliad a phrofiad academaidd perthnasol. Byddwn yn ystyried myfyrwyr hŷn sydd â phrofiad perthnasol ac sydd heb y gofynion mynediad ffurfiol, yn amodol ar gyfweliad. Mae disgwyl i fyfyrwyr feddu ar radd C neu uwch mewn TGAU Mathemateg a Saesneg.

Asesir trwy arholiadau, profion ymarferol ac aseiniadau sy’n briodol i astudiaethau achos perthnasol.

Blwyddyn Un, modiwlau Lefel 4:

  • Pensaernïaeth Gyfrifiadurol a Systemau Gweithredu
  • Dadansoddi a Delweddu Data
  • Cyflwyniad i Gysyniadau Gwe a Chronfa Ddata
  • Sgiliau Academaidd a Chyflogadwyedd
  • Hanfodion Rhwydwaith a Diogelwch Seiber
  • Datblygu Meddalwedd

Blwyddyn Dau, modiwlau Lefel 5:

  • Rhwydweithio Uwch
  • Prosiect Grŵp Menter ac Arloesedd
  • Cronfeydd Data a Datblygu Cymwysiadau
  • Diogelwch Data a Chydymffurfio
  • Systemau a Gwasanaethau Gweithredu Rhwydwaith
  • Technolegau Gwe a Symudol

Ar ôl cwblhau’r cwrs, gall myfyrwyr symud ymlaen i flwyddyn olaf y cwrs BSc(Anrh) mewn Cyfrifiadura gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCDDS).

Sut i wneud cais

Bydd angen i chi wneud cais drwy UCAS (cod UCAS yw 1358)

Cliciwch yma i wneud cais

Achrediad Dysgu Blaenorol

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol. Mae rhagor o fanylion i’w gweld yn y Swyddfa Academaidd | PCDDS

Y ffioedd ar gyfer y cwrs hwn yw £9,000 y flwyddyn. Gwybodaeth bellach ar gyfer Cymru: http://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

Cael £1,000 bwrsari Coleg bob blwyddyn (yn amodol ar ddilyniant boddhaol)

Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs hwn, h.y.:

  • Teithio i ac o’r Coleg, neu’r lleoliad
  • Costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
  • Argraffu a rhwymo
  • Gynau ar gyfer seremonïau graddio.

*Sylwch fod y ffioedd dysgu a nodir ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24 a gallent gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol. Ewch i wefan y brifysgol i gael rhagor o wybodaeth.