Skip to main content

Sylfaen Systemau Diogelwch Electronig a Brys - Prentisiaeth

Prentisiaeth
Lefel 2/3
C&G
Tycoch, Llys Jiwbilî
Approx. 18 months
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch), 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Bydd y brentisiaeth hon yn datblygu’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i osod systemau diogelwch – gallwch arbenigo mewn unrhywbeth o larymau tresmaswyr i synhwyro tân. 

Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddechrau gweithio yn y diwydiant systemau argyfyngau a diogelwch, diwydiant cyffrous sy’n tyfu. Mae’n rhan o’r fframwaith prentisiaeth ac iddo’r strwythur canlynol:

Addysgir y cymhwyster 1853/02/03 (Gwybodaeth Sylfaenol) yn ein gweithdai electronig arbenigol. Mae’r elfen hon o’r cwrs yn cynnwys yr unedau canlynol:

  • Uned 001: Egwyddorion trydanol ac electronig electrodechnoleg
  • Uned 002: Gweithio’n effeithiol ac yn ddiogel mewn amgylcheddau electrofecanyddol
  • Uned 004: Systemau larymau tân

Mae’r cymhwyster 2882-02/03 (Tystysgrif/Diploma mewn Darparu Systemau Argyfyngau a Diogelwch Electronig) yn cynnwys sawl uned a ddewisir i gyd-fynd â gofynion y lleoliad prentisiaeth.

Diweddarwyd Hydref 2021

Gwybodaeth allweddol

Rhaid eich bod yn gyflogedig mewn rôl addas yn y diwydiant. Byddai gwybodaeth o systemau argyfyngau a diogelwch electronig yn fanteisiol, ond bydd yr holl elfennau’n cael eu haddysgu yn ystod diwrnodau astudio a byddwch yn ennill y gofynion ymarferol yn eich lleoliad gwaith.

Addysgir y cwrs trwy ddull dysgu cyfunol. Bydd hwn yn cynnwys sesiynau theori ac ymarferol yn y gweithdy.

Mae asesu yn y gweithle yn elfen sylweddol o’r rhaglen. Mae hwn yn atgyfnerthu perthnasedd ac addysgu arbenigol yn sector y diwydiant larymau.

Mae rhaglen diwrnodau astudio llawn yn cael ei defnyddio i sicrhau bod gan y dysgwr yr wybodaeth sylfaenol angenrheidiol i ychwanegu gwerth at y lleoliad prentisiaeth. Mae tiwtor aseswr penodedig yn darparu hyfforddiant ac asesu yn y gweithle.

Prentisiaeth Systemau Argyfyngau a Diogelwch Electronig (Lefel 3)

Bydd y cwrs yn cynnwys cymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau electronig (Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a WorldSkills). Yn ogystal, bydd gwibdeithiau ac ymweliadau â chyfleusterau gweithgynhyrchu larymau a sioeau masnach.