Skip to main content

Peirianneg Fecanyddol HND

Amser-llawn
Lefel 5
UoWTSD
Tycoch
two years
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg


 

Hyd: Dwy flynedd

Mae’r cwrs hwn yn addas i’r rhai sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn peirianneg fecanyddol, gyda chyfrifoldeb am ddylunio, gosod, comisiynu a gweithredu gwasanaethau peirianneg.

Diweddarwyd Rhagfyr 2022

   Cliciwch yma i lenwi ein ffurflen ymholiad Addysg Uwch    

Gwybodaeth allweddol

Cynnig nodweddiadol:

Safon Uwch = DD
BTEC Diploma Lefel 3 = MP
BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 = PPP
Mynediad = Pas

Yn ogystal, byddai disgwyl i fyfyrwyr feddu ar radd C mewn Mathemateg a phwnc Gwyddoniaeth ar lefel TGAU. Bydd rhaid i bob myfyriwr gael cyfweliad. 

Addysgir y cwrs dros ddwy flynedd academaidd.

Modiwlau’r flwyddyn gyntaf yw:

Lefel 4

  • mathemateg
  • cymwysiadau peirianneg a sgiliau astudio
  • defnyddiau a chyflwyniad i dechnoleg gweithgynhyrchu
  • gwyddor peirianneg 1
  • gwyddor peirianneg 2
  • dylunio ym maes peirianneg​

Modiwlau’r ail flwyddyn yw:

Lefel 5

  • prosiect grŵp
  • canfod namau a monitro cyflwr
  • egwyddorion mecanyddol peirianneg
  • rheoli, arloesi a chynaliadwyedd
  • gweithgynhyrchu, dylunio a thechnoleg
  • mecaneg thermohylif

Mae’r cymhwyster yn agor cyfleoedd gyrfa mewn ymgynghori, contractio a gweithgynhyrchu yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Bydd myfyrwyr hefyd yn gallu symud ymlaen i’r cwrs BEng ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Sut i wneud cais

Bydd angen i chi wneud cais drwy UCAS (cod UCAS yw 82NG)

Cliciwch yma i wneud cais

Achrediad Dysgu Blaenorol

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol. Mae rhagor o fanylion i’w gweld yn y Swyddfa Academaidd | PCDDS

Cod UCAS y cwrs yw 8N2G.

Y ffioedd dysgu yw £9,000 y flwyddyn. Bydd angen i fyfyrwyr gael benthyciad ffioedd dysgu ar gyfer y swm llawn. Mae’r Coleg yn cynnig bwrsari gwerth £1,000 y flwyddyn tuag at gyrsiau AU amser llawn (mae hyn yn dibynnu ar ddilyniant boddhaol ar y cwrs). I gael gwybodaeth am gymorth ariannol – gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu – ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs hwn h.y.:

  • teithio i’r Coleg, neu’r lleoliad, ac yn ôl
  • costau llungopïo, deunydd swyddfa ac offer (e.e. ffyn USB)
  • argraffu a rhwymo
  • gynau ar gyfer seremonïau graddio

*Sylwch fod y ffioedd dysgu a nodwyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24 a gallent gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol. Ewch i wefan y brifysgol i gael rhagor o wybodaeth.