Skip to main content

Gorseinon

Mae mwy na 2000 o fyfyrwyr amser llawn yn astudio ar Gampws Gorseinon, lle mae ganddynt ddewis o bron 40 o bynciau Safon Uwch ac amrywiaeth eang o gyrsiau galwedigaethol. Mae cymorth i fyfyrwyr yn ganolog i’n gweithgareddau ac mae cyfleusterau’r Campws yn cael eu huwchraddio’n gyson i greu amgylchedd sy’n rhoi modd i fyfyrwyr gyrraedd eu potensial.

Ymhlith y cyfleusterau arbenigol a ddarperir mae labordai gwyddoniaeth, ystafelloedd cerbydau modur a chanolfan ar gyfer y celfyddydau perfformio a chreadigol.

Ailddatblygu Campws Gorseinon

Mae Coleg Gŵyr Abertawe a’i bartner adeiladu, Kier Group, yn falch o gyhoeddi prosiect datblygu sylweddol ar gampws Gorseinon a fydd yn nodi buddsoddiad arwyddocaol mewn addysgu a dysgu myfyrwyr.

Mae’r prosiect yn cynnwys buddsoddiad gwerth £20.6 miliwn, a gefnogwyd gan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Darllen rhagor

Photograph of the new social space in Gorseinon. A big open plan area with new seating and a high roof with skylights

Manylion Cyswllt

Heol Belgrave
Gorseinon
Abertawe
SA4 6RD
Ffôn: 01792 890700

Oriau Agor yn ystod y Tymor

Dydd Llun i Ddydd Iau - 8.30am i 5pm
Gwener - 8.30am i 4.30pm

Cer ar daith rithwir o amgylch Campws Gorseinon i gael cip ar yr ystafelloedd dosbarth, ardaloedd cyffredin a’r cyfleusterau sydd ar gael i’n myfyrwyr amser llawn.

Cer am dro o amgylch cartref ein myfyrwyr ar gampws Gorseinon. Mae gan y Bloc Celfyddydau gyfleusterau ar gyfer celfyddydau cain, celfyddydau perfformio, cerddoriaeth, ffotograffiaeth yn ogystal â Chanolfan Ffasiwn a Thecstilau.

Cer am dro o amgylch Theatr Einon, ein llwyfan ar gyfer myfyrwyr celfyddydau perfformio a chynhyrchu theatr.

Arddangosfeyd Celf Rithwir

Lefel 3

Addysg Oedolion