Tycoch
Mae Tycoch yn gampws prysur a bywiog i fyfyrwyr sy’n dilyn amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol.
Agorodd ein prosiect buddsoddi gwerth £4 miliwn, sydd wedi creu ystafelloedd dysgu a chymdeithasol modern, ar y campws ym mis Chwefror 2018.
Ar y llawr cyntaf mae Canolfan Brifysgol bwrpasol i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau lefel uwch. Mae’r ganolfan yn cynnwys ystafelloedd dosbarth, ystafell gyffredin a man dysgu arbenigol.
Mae’r campws o fewn pellter cerdded i Sgeti ac mae’r cysylltiadau cludiant i ac o ganol dinas Abertawe yn ardderchog.
I weld pob un o’n nosweithiau agored, ewch i’ntudalen Digwyddiadau a Nosweithiau Agored.
Rydym wedi gwneud gwelliannau cyffrous i Gampws Tycoch er mwyn cyfoethogi’ch profiad
Mae’r Atriwm wedi’i drawsnewid yn ganolfan fywiog, groesawgar sy’n hybu dysgu anffurfiol, gweithio ar y cyd a rhyngweithio cymdeithasol, gan greu argraff gyntaf bositif i ymwelwyr a myfyrwyr.
Mae gwaith ailwampio wedi gwella cyfleusterau a’r amgylchedd cyffredinol o ddydd i ddydd i ddysgwyr a staff.
Ochr yn ochr â’r newidiadau gweladwy hyn, rydym wedi cwblhau gwaith adferol hanfodol er mwyn hwyluso taith y Coleg at niwtraliaeth carbon a gwella cynaliadwyedd hirdymor y campws.
Gyda’i gilydd, mae’r buddsoddiadau hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarparu mannau o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y dyfodol ac sy’n hwyluso dysgu a bywyd ar y campws.
- Parthau newydd i gynorthwyo myfyrwyr ADY gyda mannau ar gyfer tawelwch, canolbwyntio, a chysur
- Paneli acwstig a dodrefn meddal i leihau sŵn a chreu amgylchedd tawelach
- Lliwiau ysgafn, croesawgar i wneud i’r atriwm edrych yn fwy cartrefol
- Parthau clir ar gyfer myfyrdod tawel, gwaith mewn grwpiau bach, ac astudiaethau annibynnol
- Gosodiad gwell i leihau sŵn a thorfeydd, a chefnogi ymddygiad cadarnhaol.



Manylion cyswllt
Heol Tycoch,
Abertawe
SA2 9EB
Ffôn: 01792 284000
ymholiadau@coleggwyrabertawe.ac.uk
Oriau agor
Yn ystod y tymor
Dydd Llun i Ddydd Iau - 8am tan 9pm
Dydd Gwener - 8.30am tan 4.30pm
Yn ystod y gwyliau
Dydd Llun i Ddydd Iau - 8.30am tan 5pm
Dydd Gwener - 8.30am tan 4.30pm
Archwiliwch ein campws mwyaf, Tycoch. Mae Tycoch yn cynnwys ystod eang o gyfleusterau modern megis ffug wardiau, caban awyren rhithwir a bwyty hyfforddi cwbl weithredol, sy’n cynnig amgylchedd gwaith realistig.
Edrychwch o gwmpas ein Canolfan Brifysgol a ddefnyddir gan ein myfyrwyr addysg uwch yn unig. Mae’r Ganolfan Brifysgol yn cynnwys sawl ystafell ddosbarth, llyfrgell ac ystafell gyffredin, gan roi lle a chymorth i chi lwyddo yn eich astudiaethau.
Darganfyddwch yr ystod eang o gyfleusterau sydd ar gael yng Nghanolfan Chwaraeon Tycoch, gan gynnwys campfa, ystafell droelli/beicio, ac Yr Efail; ystafell Olympaidd lle gallwch godi pwysau a derbyn hyfforddiant ymarferol. Bydd y daith Realiti Rhithwir hon yn dangos y mannau a ddefnyddir ar gyfer ein hyfforddiant a’n dosbarthiadau ffitrwydd.
Edrychwch o gwmpas ein Canolfan Arloesi Gyfrifiadurol, sy’n gartref i gyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer cyrsiau cyfrifiadura a thechnoleg. Mae’r Ganolfan hefyd yn bencadlys i Gwdihŵs CGA, lle maen nhw’n ymarfer ar gyfer Pencampwriaethau e-Chwaraeon Prydain.




