Skip to main content

Effeithiolrwydd Ynni mewn Anheddau Domestig - Cwrs

GCS Training
Tycoch
Un diwrnod

Ffôn 01792 284400   E-bost: training@gcs.ac.uk

Trosolwg

Nod y cwrs hwn yw galluogi gosodwyr gwres canolog i ddatblygu’r ddealltwriaeth a’r ymwybyddiaeth sydd eu hangen i ddiwallu Rhan L o’r gofynion adeiladu, sef gofyniad cyfreithiol i unrhyw un sy’n gweithio ar systemau dŵr poeth a gwresogi domestig. 

Mae’r cwrs yn bennaf yn seiliedig ar theori ac mae disgwyl i chi fod â dealltwriaeth dda o systemau gwresogi cyn dilyn y cwrs.

Gwybodaeth allweddol

Dylai ymgeiswyr fod yn osodwyr systemau gwres canolog profiadol.

Mae’r cwrs yn costio £220, ond mae cyllid ar gael yn amodol ar gymhwystra. 

Cwrs undydd sy’n cynnwys asesiad yn ein Canolfan Ynni.