Byw’n Annibynnol
Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe mae ein cwricwlwm Sgiliau Byw’n Annibynnol (SBA) wedi’i gynllunio i dy helpu ennill sgiliau, magu hyder a datblygu annibyniaeth er mwyn byw bywyd llwyddiannus.
P’un ai a wyt ti am fyw bywyd mwy annibynnol, cael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth neu gymryd rhan weithredol yn dy gymuned leol, mae ein rhaglenni SBA wedi’u teilwra i gefnogi dy daith di. Rydyn ni’n canolbwyntio ar gyfathrebu, cyflogadwyedd a sgiliau bywyd, gan hybu iechyd, lles a chyfranogiad cymunedol.
Byddi di’n astudio un o’n tri chwrs, yn dibynnu ar dy anghenion a dy nodau ar gyfer y dyfodol.
Pwy sy’n addas i astudio’r cyrsiau hyn?
Mae ein cyrsiau SBA yn addas ar gyfer dysgwyr sy’n dod i’r coleg o ysgolion arbenigol neu ganolfannau cyfleusterau arbenigol sy’n dilyn Cynllun Datblygu Unigol (CUD) neu gynllun cyfwerth.
Byd fyddi di’n ei ddysgu?
Bydd pob dysgwr yn dilyn rhaglen unigol sy'n cyd-fynd â'u hamcanion a'u targedau personol. Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal yn yr ystafell ddosbarth ac yn y gymuned.
Mae pob rhaglen yn canolbwyntio ar:
- Sgiliau Byw'n Annibynnol
- Iechyd a Lles
- Cyflogadwyedd
- Cyfranogiad Cymunedol.
Cwricwlwm heb achrediad yw hwn, ond gall dysgwyr gwblhau achrediad penodol yn dibynnu ar yr angen i wneud hyn. Bydd dy gynnydd yn cael ei gefnogi a'i dracio drwy gydol y flwyddyn trwy ddiwrnodau cynnydd ac ati. Bydd dy gyflawniadau'n cael eu cydnabod a'u dathlu mewn seremoni wobrwyo diwedd blwyddyn.

Gwreiddiau
Mae’r cwrs Gwreiddiau wedi’i gynllunio i helpu dysgwyr i feithrin sgiliau bywyd hanfodol a hyder i fyw bywyd mor annibynnol ag sy’n bosib.
Trwy gynnig dulliau personol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gallwn helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau ymarferol, hunanymwybyddiaeth a hyder cymdeithasol, gan eu grymuso i ddatblygu ar eu cyflymder eu hunain mewn amgylchedd cefnogol.

Taith i Ddilyniant
Fel rhan o raglen Taith i Ddilyniant, rydym yn gweithio gyda’n gilydd i gefnogi a datblygu unigolion a dysgwyr ar hyd eu teithiau unigryw tuag at annibyniaeth, cyflogaeth neu ddilyniant llwyddiannus.
Trwy ddefnyddio dulliau dysgu sy’n canolbwyntio ar gyrchfannau personol, rydym yn cynnig cymorth a datblygiad personol, yn ogystal ag ysgogi dysgwyr i archwilio cyfleoedd, cyflawni twf a gwireddu eu huchelgeisiau.

Dyfodol Cynhwysol
Nod Dyfodol Cynhwysol yw ysbrydoli dysgwyr i gymryd camau ystyrlon tuag at annibyniaeth a magu hyder. Trwy ddefnyddio ymagwedd bersonol, rydym yn ffocysu ar ddatblygu sgiliau bywyd ymarferol sy’n paratoi dysgwyr ar gyfer heriau go iawn.
Ochr yn ochr â chwricwlwm sydd wedi’i deilwra ac opsiwn i astudio cyrsiau llythrennedd a rhifedd ar wahân neu yn integredig, gall dysgwyr ennill y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen i fyd gwaith, addysg bellach neu waith annibynnol. Mae’r cwrs hwn yn cynnig amgylchedd cefnogol lle gall unigolion archwilio cyfleoedd a diwallu eu nodau.

Camau
I fod yn gymwys ar gyfer ein rhaglen Camau, bydd dysgwyr eisoes wedi astudio cwrs o fewn yr adran SBA am flwyddyn o leiaf.
Mae’r cwricwlwm wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion ac uchelgeisiau amrywiol bob dysgwr, gan sicrhau bod yr holl ddysgu yn cyd-fynd â’u targedau a’u cyrchfannau personol. Trwy gynnig ymagwedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, bwriad y cwrs yw arwain a helpu dysgwyr i gyflawni dilyniant mewn perthynas â: chyflogaeth, interniaeth â chymorth neu gyrsiau Lefel un prif ffrwd.

Rhaglen Interniaeth â Chymorth
Our Supported Internship Programme is designed for post-16 learners with additional learning needs in their final year of College.
Mae’r Rhaglen Interniaeth â Chymorth wedi’i chynllunio ar gyfer dysgwyr ôl-16 ag anghenion dysgu ychwanegol yn eu blwyddyn olaf yn y Coleg. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar yr unigolyn, cyrchfannau unigol ac mae’n hwyluso’r broses bontio o’r Coleg i fyd gwaith. Bydd y dysgwyr wedi’u lleoli yn y gweithle yn bennaf, lle byddan nhw’n datblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol trwy brofiadau go iawn.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â ils@gcs.ac.uk
Newyddion

Seremoni graddio yn nodi blwyddyn arall o dwf, cyflawniad a dechrau newydd
Yn ystod yr haf, roedd pump o ddysgwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol yn dathlu ar ôl cwblhau rhaglen interniaeth â chymorth yn yr unig uned gyflenwi sydd gan Amazon yng Nghymru, wedi’i lleoli yn Abertawe.
Roedd y digwyddiad graddio yn benllanw blwyddyn o waith caled, twf a chydweithio, gyda chymorth trwy Brosiect Search DFN a Llwybr Dyfodol Cynhwysol.
Treuliodd Luke, Ed, Will, Leo a Josh y flwyddyn academaidd yn ymgymryd ag interniaeth â chymorth ar y safle i’w paratoi ar gyfer byd gwaith. Mewn partneriaeth ag Amazon, Prosiect Search DFN a Choleg Gŵyr Abertawe, cynigiodd yr interniaeth gyfuniad unigryw o ddysgu yn yr ystafell ddosbarth a phrofiad gwaith yn y byd go iawn.
Roedd effaith y rhaglen yn amlwg i’w gweld, nid yn unig yn hyder a phroffesiynoldeb y graddedigion, ond hefyd yn eu cynnydd rhyfeddol.
Mae Amazon Abertawe bellach wedi cadarnhau bod tri o’r graddedigion - Ed, Luke a Will - wedi cael cynnig rolau parhaol yn eu hadran brysur Dychweliadau Cwsmeriaid.

Anturiaethau bythgofiadwy
Ym mis Mehefin, aeth wyth myfyriwr dewr a phenderfynol o’n hadran Sgiliau Byw’n Annibynnol ar antur bythgofiadwy fel rhan o raglen Gwobr Dug Caeredin, gan gyfnewid ystafelloedd dosbarth am danau gwersyll a gwydnwch wrth iddynt gychwyn ar drip gwersylla preswyl yn harddwch godidog Penmaen, Bro Gŵyr.
Wedi'i drefnu gan yr ALAM Matthew Jones a’i gefnogi gan dîm anhygoel o staff ymroddgar - Michelle Williams, Sarah Leakey, Camilla Khassouani, Christina Palmer, Lisa Mitchell a Jo McClean - roedd y daith yn ddathliad o annibyniaeth, gwaith tîm, a thwf personol.

O gyffwrdd i gyswllt
O'r ystafell ddosbarth i’r cae rygbi rhyngwladol, mae Tomos Rees wedi profi unwaith eto bod ymroddiad, gwydnwch a chred yn gallu mynd â chi yn bellach nag yr oeddech chi erioed wedi’i ddychmygu.
Fe wnaeth Tomos ei ymddangosiad cyntaf yng Nghwpan y Byd yn Sbaen yn yr haf gyda Glads RFC, ac roedd yn falch o gynrychioli ei dîm yn Nhwrnamaint Rygbi Gallu Cymysg Rhyngwladol gan gyflawni perfformiad anhygoel a adawodd argraff barhaol ar chwaraewyr, hyfforddwyr a gwylwyr fel ei gilydd.
Ar ôl dechrau tymor 2024/25 fel chwaraewr rygbi cyffwrdd, cymerodd Tomos naid feiddgar i rygbi cyswllt, ac am dymor cyntaf y mae wedi bod! Gyda phlwc a phenderfyniad, nid yn unig y daliodd ei dir ar y llwyfan rhyngwladol ond fe ragorodd ar bob disgwyliad, gan sgorio pedwar cais anhygoel mewn dim ond pum gêm.
Mae'n ganlyniad sy'n dweud cyfrolau am ei egni, ei dwf a’i angerdd dros y gêm. Da iawn Tomos!