Mae Coleg Gŵyr Abertawe ("y Coleg") yn Goleg Addysg Bellach a leolir yn gyfan gwbl yn y Deyrnas Unedig. Lleolir campysau'r Coleg yn Abertawe, Cymru ac mae'r Coleg yn darparu addysg a hyfforddiant ar draws y DU. Mae gan y Coleg oddeutu 4,500 o fyfyrwyr amser llawn, 2,500 o brentisiaid a 3,500 o ddysgwyr rhan-amser.
Mae'r Coleg yn credu ei bod hi'n hollbwysig, wrth gaffael nwyddau a gwasanaethau, bod hyn yn cael ei wneud heb achosi niwed i eraill, ac mae wedi ymrwymo i weithredu'n foesegol a chydag unplygrwydd yn ei holl drafodion a chysylltiadau busnes.
Wrth wneud hynny, mae'r Coleg yn cefnogi ymagwedd Llywodraeth y DU at weithredu Egwyddorion Arweiniol y Cenhedloedd Unedig ar Fusnes a Hawliau Dynol trwy roi gwybod i'n staff, ein myfyrwyr, ein llywodraethwyr a’n rhanddeiliaid am ein polisi ar gaethwasiaeth fodern, masnachu pobl, llafur dan orfod a rhwymedig, ac ymyriadau â hawliau llafur yn ei gadwyni cyflenwi.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cod Ymarfer – Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi i helpu i roi sylw i faterion caethwasiaeth fodern. Mae'r Coleg wedi nodi nifer o gamau gweithredu o fewn y 12 Ymrwymiad a nodwyd yn y Cod.
Mae'r Coleg yn prynu llawer o'i nwyddau a'i wasanaethau gan gonsortia prynu sector cyhoeddus. Y prif gonsortia a ddefnyddir gan y Coleg yw:
- Y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (NPS)
- Consortiwm Caffael Crescent (CPC)
- Consortiwm Caffael Addysg Uwch Cymru (HEPCW)
- Sefydliad Arlwywyr Prifysgol (TUCO)
Mae'r consortia hyn yn datblygu prosesau i reoli risgiau i gadwyni cyflenwi sy'n ymwneud â chaethwasiaeth a masnachu pobl. Yn ogystal, mae’r consortia wedi cyhoeddi eu Datganiadau Caethwasiaeth a Masnachu Pobl eu hunain sy’n datgan sut maen nhw’n bwriadu mynd i’r afael â’r materion hyn trwy’r prosesau caffael maen nhw’n eu rheoli.
Mae'r Coleg wedi nodi'r categorïau canlynol fel rhai lle mae risg uchel - Dillad, Bwyd ac Offer TGCh.
Gan edrych tua'r dyfodol, mae'r Coleg yn mynegi ei ymrwymiad i:
- Ddeall ein cadwyni cyflenwi yn well a gweithio tuag at sicrhau mwy o dryloywder a chyfrifoldeb ar gyfer y bobl sy'n gweithio ynddynt.
- Monitro meysydd sy'n cynrychioli risg, gweithio gyda chyflenwyr, sefydliadau fframwaith a deiliaid rhyddfraint.
- Lleihau'r risg o gaethwasiaeth a masnachu pobl yn digwydd yn ein cadwyni cyflenwi, a chymryd camau priodol os oes angen.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei wneud yn unol ag adran 54(1) o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015 ac mae'n cynrychioli datganiad caethwasiaeth a masnachu pobl y Coleg am y flwyddyn ariannol yn diweddu 31 Gorffennaf 2025.
Cymeradwywyd y datganiad hwn gan Fwrdd Corfforaeth Coleg Gŵyr Abertawe yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2025.
Ian Price OBE,
Cadeirydd Bwrdd Corfforaeth Coleg Gŵyr Abertawe
11 Rhagfyr 2025