Skip to main content
Staff celebrating Wales

Cymraeg gwaith

Mae staff sy’n gweithio i Goleg Gŵyr Abertawe yn cael llawer o gyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ar bob lefel.

Os ydych chi’n ddechreuwr mae cyrsiau neu ddosbarthiadau ar-lein y gallwch chi eu mynychu neu os oes gennych chi sgiliau Cymraeg, ac eisiau magu hyder i’w defnyddio’n broffesiynol, gallwn ni gynnig dosbarthiadau, cyrsiau, a gweithgareddau i roi cyfle i chi ymarfer a defnyddio eich Cymraeg.

Mae ethos dwyieithog y Coleg yn datblygu’n barhaus a gallech chi gyfrannu at y twf hwnnw.