Skip to main content

Coginio ac Arlwyo Proffesiynol Lefel 1 - Diploma Available in Welsh

Amser-llawn
Lefel 1
C&G
Tycoch
Un flwyddyn
Cyfrwng Cymraeg neu Saesneg
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Dysgwch yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ennill cymhwyster a gydnabyddir ym myd diwydiant mewn coginio a gwasanaeth bwyty i ddechrau gyrfa mewn lletygarwch ac arlwyo. Bydd pob dysgwr yn paratoi ac yn gweini bwyd i gwsmeriaid ym mwyty hyfforddi’r Vanilla Pod.

Gwybodaeth allweddol

  • Tair gradd D neu uwch ar lefel TGAU gan gynnwys Mathemateg a/neu Saesneg
  • Bydd ymgeiswyr hefyd yn cael eu hystyried yn seiliedig ar gyfweliad
  • Mae llythrennedd a rhifedd yn rhan o’r amserlen.

Byddwch yn cwblhau asesiadau ymarferol yn y Vanilla Pod a’r ceginau masnachol.

Mae unedau theori yn cynnwys cwestiynau amlddewis, aseiniadau ysgrifenedig a phrofion byr.

Graddau’r unedau yw pasio / teilyngdod / rhagoriaeth.

Bydd gofyn i chi brynu gwisg ac offer arbenigol (tua £250).

Byddwn ni’n rhoi gwybodaeth a chostau i chi yn ystod eich cyfweliad.

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am gyllid. Darperir loceri (bydd angen blaendal arnom ond cewch eich ad-dalu).