Skip to main content

Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Lefel 3 - Diploma Estynedig Available in Welsh

Amser-llawn
Lefel 3
BTEC Extended Diploma
Gorseinon
Dwy flynedd
Cyfrwng Cymraeg neu Saesneg
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Trosolwg

Cwrs delfrydol i fyfyrwyr sydd wedi’u cyfareddu gan y ffordd y mae’r corff a’r meddwl yn perfformio mewn chwaraeon ac sydd am symud ymlaen i’r sector gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff. Wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sy’n anelu at yrfaoedd fel seicoleg chwaraeon, maeth chwaraeon, gwyddor chwaraeon a ffisiotherapi (sylwch y gall gofynion mynediad prifysgol ar gyfer ffisiotherapi fod yn wahanol yng Nghymru).

Mae’r rhaglen yn darparu sylfaen academaidd gref tra’n cadw dysgu yn gymhwysol, yn ddiddorol ac yn berthnasol. Byddwch yn datblygu’r wybodaeth, yr hyder a’r ddealltwriaeth arbenigol sydd eu hangen i gymryd y cam nesaf i Addysg Uwch, tra hefyd yn cynyddu’r arbenigedd a’r sgiliau proffesiynol a fydd yn cynorthwyo cyflogaeth yn y dyfodol mewn diwydiant sy’n tyfu’n gyflym.     

Mae meysydd astudio yn gallu cynnwys:

  • Anatomeg
  • Ffisioleg ymarfer corff
  • Seicoleg chwaraeon
  • Biomecaneg
  • Maeth chwaraeon
  • Ymchwil chwaraeon
  • Anafiadau chwaraeon.

Gellir addysgu elfennau o’r cwrs hwn drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gwybodaeth allweddol

Saith gradd C neu uwch ar lefel TGAU mewn Saesneg Iaith, Mathemateg, a Gwyddoniaeth Ddwbl (Bioleg yn ddelfrydol). Byddwn yn ystyried gradd Rhagoriaeth mewn pynciau cyfwerth.

Asesir y cwrs trwy brosiectau parhaus ac aseiniadau ymarferol. Yn y flwyddyn olaf bydd myfyrwyr yn gweithio ar brosiect mawr sy’n cynnwys gweithgareddau ymchwil.

Bydd pob myfyriwr yn cymryd rhan mewn rhaglenni profiad gwaith.

Os dewiswch aros yn y Coleg, gallwch symud ymlaen i’r cwrs Gradd Sylfaen mewn Datblygu a Rheoli Chwaraeon.

Bydd y cymhwyster hwn yn darparu’r sylfaen ar gyfer astudio ar lefel gradd er mwyn datblygu gyrfa mewn galwedigaethau cysylltiedig â gwyddor chwaraeon megis seicolegydd, biomecanydd, maethegydd, cinesiolegydd, therapi chwaraeon a ffisiotherapi. Byddai’n briodol i fyfyrwyr a hoffai addysgu addysg gorfforol.

Archwiliwch rai o’r gyrfaoedd y gallech eu dilyn ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, a’u cyflog cysylltiedig.

Mae rhagor o gyfleoedd i’w gweld ar wefan Gyrfaoedd mewn Chwaraeon.

Ffioedd ychwanegol:

Bydd rhaid i fyfyrwyr ar y cwrs hwn dalu am wiriad DBS sy’n costio £40.

Rhaid i fyfyrwyr brynu crys-T, crys polo a hwdi ar gyfer y cwrs sy’n costio £70.

Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i brynu tracwisg coleg a chit cysylltiedig â chwaraeon trwy’r timau chwaraeon a ddewiswyd.

Mae’n bosibl y bydd costau bach ychwanegol ar gyfer ymweliadau addysgol lleol.