Gwyddor Feddygol Lefel 3 - Tystysgrif/Diploma Cymhwysol
Trosolwg
Byddwch yn dilyn y cwrs hwn ochr yn ochr â chyrsiau Safon Uwch. Ar y cwrs dwy flynedd hwn, bydd dysgwyr yn dysgu cysyniadau sylfaenol bioleg ac iechyd. Rhennir y cwrs yn chwe uned sy’n rhoi sylw i gysyniadau gwyddonol allweddol. Mae’r unedau hyn yn cynnwys:
- Uned 1: Iechyd dynol ac afiechyd
- Uned 2: Technegau mesur ffisiolegol
- Uned 3: Dulliau ymchwil gwyddor feddygol
- Uned 4: Meddyginiaethau a thrin afiechyd 49
- Uned 5: Technegau labordy clinigol
- Uned 6: Astudiaeth achos feddygol.
Addysgir pob uned gan ddarlithwyr arbenigol. Asesir dwy uned gan ddefnyddio arholiadau; asesir y gweddill gan ddefnyddio aseiniadau. Oherwydd y ffocws ar asesiadau dros arholiadau yn y cwrs hwn mae llawer o gyfleoedd i ymgymryd â gweithgareddau ymarferol, a fydd yn helpu i ddatblygu sgiliau gwyddonol.
Gwybodaeth allweddol
- Saith gradd C neu uwch ar lefel TGAU
- Gradd B mewn TGAU Saesneg Iaith a gradd C mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth.
Asesir y cwrs trwy waith ymarferol, aseiniadau ac arholiadau allanol. Mae’r asesiadau mewnol ac allanol yn cael eu graddio yn A-U.
Mae cwblhau a phasio’r cwrs hwn yn rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth wyddonol i chi, yn ogystal â sgiliau ymarferol a fyddai’n eich cynorthwyo i symud ymlaen i amrywiaeth o rolau swydd o fewn gofal iechyd a’r gwyddorau ffisiolegol. Pan gaiff ei ategu gan gymwysterau priodol eraill, bydd y dystysgrif/diploma cymhwysol lefel 3 mewn gwyddor feddygol yn rhoi modd i chi symud ymlaen i addysg uwch i amrywiaeth o raglenni gwyddoniaeth gymhwysol.
Bydd yn ofynnol i ddysgwyr sydd heb gyflawni gradd C mewn Mathemateg a gradd B Saesneg Iaith ailsefyll y pynciau hyn, ochr yn ochr â’r cwrs Gwyddoniaeth Gymhwysol Lefel 2.