Skip to main content

Sgiliau Garwddwriaeth Ymarferol Lefel 2 - Diploma

Amser-llawn
Lefel 2
Diploma
Tycoch
Un flwyddyn
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi modd i chi brofi amrywiaeth eang o bynciau ymarferol fel adeiladu patio, codi waliau a phileri, a chynnal a chadw pwll. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol gan ennill profiad gwaith bywyd go iawn yn Cae Tan, lle byddwch yn dysgu am gynhyrchu bwyd, a Phrifysgol Abertawe lle byddwch yn cynorthwyo i gynnal y tiroedd a dylunio gerddi gan ddefnyddio’r dechnoleg deallusrwydd artiffisial ddiweddaraf.

Byddwch yn:

  • Dysgu am egwyddorion tirlunio, cysyniadau dylunio, ac elfennau sy’n creu lleoedd awyr agored cyfareddol
  • Datblygu technegau tirlunio caled a all gynnwys adeiladu llwybrau, waliau, patios a ffensys terfyn
  • Deall sut i dyfu a gofalu am blanhigion a llysiau
  • Dewis y planhigion cywir ar gyfer lleoliadau gwahanol a dysgu sgiliau cynnal a chadw gardd hanfodol
  • Dysgu sut i ddefnyddio offer a pheiriannau priodol mewn ffordd ddiogel ac effeithiol
  • Cael profiad o weithio gyda chwsmeriaid trwy brosiectau yn y gymuned, ffeiriau gwyrdd a digwyddiadau tymhorol.

Gwybodaeth allweddol

Un radd C ar lefel TGAU neu gymhwyster Lefel 1 cysylltiedig. Mae diddordeb brwd mewn garddwriaeth, a gweithio’n gorfforol yn yr awyr agored yn ofynnol.

Tri diwrnod yr wythnos am flwyddyn.

Asesu:

  • Arsylwi perfformiad ymarferol
  • Portffolio o dystiolaeth ffotograffig
  • Asesiadau ysgrifenedig byr.

Meini prawf graddio:

  • Pasio.

Mae dysgwyr blaenorol ar y cwrs hwn wedi cael cyflogaeth gyda chontractwyr tirlunio, cwmnïau adeiladu, canolfannau garddio, meithrinfeydd planhigion, a’r adran barciau. Mae rhai hyd yn oed wedi sefydlu eu busnesau cynnal a chadw gerddi eu hunain.

Cyfleoedd i symud ymlaen i gymwysterau Tirlunio a Garddwriaeth Lefel 3.

Lleolir ar Gampws Tycoch a Champws Gorseinon.

Bydd angen lefel sylfaenol o ffitrwydd corfforol ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gofyn i chi ddarparu a gwisgo esgidiau diogelwch, trwser gwaith, dillad diddos.

Bydd y Coleg yn darparu menig, sbectol diogelwch, amddiffynwyr clustiau a’r holl offer a chyfarpar.