Skip to main content

 Diweddariad i Rieni a Gofalwyr CGA

Croeso

Croeso cynnes iawn i holl rieni a gofalwyr ein dysgwyr UG newydd, a diolch i chi am ddewis Coleg Gŵyr Abertawe.

Wrth i ni ddechrau blwyddyn academaidd newydd, rydym wrth ein boddau o groesawu eich plant i’r Coleg ac yn edrych ymlaen at weithio gyda chi i’w helpu i lwyddo, magu hyder a gwneud y mwyaf o bob cyfle sydd ar gael iddyn nhw.

Mae hefyd yn bwysig dathlu llwyddiannau ein dysgwyr yn 2025/26. Rydym yn falch o fod wedi cyflawni canlyniadau Safon UG ac Uwch ardderchog, gyda dysgwyr yn perfformio yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol ar draws pob proffil gradd. Fe wnaethom gyflawni cyfradd lwyddo o 100% A*-E ar Safon Uwch a chyfradd lwyddo 94% A-E ar Safon UG.

Fe wnaeth ein dysgwyr gyflawni canlyniadau dilyniant rhagorol hefyd, gyda 202 yn sicrhau lleoedd mewn prifysgolion Russell Group. Fe wnaeth pob un o’r 12 cynnig gan Rydgrawnt arwain at leoedd llwyddiannus, ac fe wnaeth 21 dysgwr sicrhau lleoedd i astudio meddygaeth, deintyddiaeth neu filfeddygaeth.  

Rydym yr un mor falch o brofiad ehangach y dysgwr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. O wibdeithiau ac ymweliadau rhyngwladol i gyfoethogi academaidd, profiadau cyflogaeth, clybiau a chymdeithasau - mae nifer o gyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.

Wrth edrych ymlaen i 2026/27, rydym yn gobeithio y bydd eich plant yn cofleidio’r cyfleoedd hyn, yn mwynhau eu hamser gyda ni ac yn rhagori a ffynnu ar eu rhaglenni.

Jenny Hill

Jenny Hill 
Deon y Gyfadran

Bywyd Coleg

Mae ein cymuned Coleg yn gweithredu o gwmpas tair egwyddor yn ein Siarter y Dysgwr:

Bydd yn Barchus | Bydd yn Barod | Bydd yn Saff

Rydym yn disgwyl i bob dysgwr ddangos ymrwymiad, brwdfrydedd a pharch at yr egwyddorion hyn bob amser. Mae gennym ymagwedd dim goddefgarwch at ymddygiad amhriodol, gan gynnwys ysmygu neu fêpio y tu allan i ardaloedd dynodedig, diffyg parch tuag at gyfoedion neu staff, ac absenoldeb heb esboniad neu anawdurdodedig. Pan fydd pryderon yn codi, byddwn yn cysylltu â chi i’ch gwneud yn ymwybodol o’r sefyllfa. Gofynnwn am eich cefnogaeth i atgyfnerthu’r disgwyliadau hyn gartref. Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod pob dysgwr yn mwynhau amgylchedd dysgu diogel, parchus a chadarnhaol.

Cymorth Ychwanegol

Mae gennym amrywiaeth o gymorth arbenigol i helpu dysgwyr i oresgyn heriau a ffynnu yn y Coleg:

Swyddogion Cymorth i Fyfyrwyr – Yn darparu cymorth ymarferol, personol a chymorth mewn argyfwng, gan helpu dysgwyr i gael mynediad at wasanaethau lles priodol.  

Cynghorwyr Cyllid – Yn helpu dysgwyr i gael cymorth ariannol gan gynnwys LCA, CAWG, GDLlC a chyllid arall sydd ar gael i ddysgwyr cymwys.  

Cynghorwyr Iechyd Meddwl – Yn darparu cymorth, arweiniad ac ymyriadau iechyd meddwl ar gyfer myfyrwyr.

Cynghorwyr Iechyd – Yn cynnig cyngor ac arweiniad ar iechyd, gan hyrwyddo dewisiadau iach a lles cyffredinol.

Cwnsela - Yn darparu cymorth therapiwtig cyfrinachol ar gyfer iechyd meddwl, lles emosiynol, heriau personol a gwydnwch, gan weithio ochr yn ochr â gwasanaeth cwnsela The Exchange a CAMHS.  

Cyflogadwyedd - Yn helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau hyder a chyflogadwyedd, archwilio cyfleoedd a pharatoi ar gyfer eu camau nesaf.  

Cymorth niwroamrywiaeth - Yn darparu cymorth i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol a niwroamrywiaeth.

Mae’r tîm Niwroamrywiaeth ar gael i gynorthwyo dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae’r tîm yn gweithio gyda dysgwyr i ddatblygu Cynlluniau Datblygu Unigol a sicrhau bod cymorth priodol ac addasiadau rhesymol yn cael eu rhoi ar waith yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael.

Er mwyn galluogi’r tîm i awdurdodi trefniadau mynediad at arholiadau ac asesu, dylai dysgwyr ddarparu tystiolaeth ategol berthnasol erbyn 30 Medi. Rydym yn darparu hyn cyn gynted â phosibl, cysylltwch os oes gennych unrhyw gwestiynau Carley.Hughes@gcs.ac.uk

Ymestyn a Herio

Mae llawer o ddysgwyr eisoes wedi cofrestru ar gyfer ein Rhaglen Anrhydeddau CGA nodedig, rhaglen gyfoethogi academaidd sydd wedi’i chynllunio i gefnogi ceisiadau i brifysgolion a rhaglenni cystadleuol.  

Mae’r rhaglen yn cynnwys:  

  • Sesiynau Tiwtorial Rhydgrawnt  
  • Rhaglen Meddygaeth, Deintyddiaeth a Milfeddygaeth 
  • Aelodaeth o Academi Seren  
  • Sesiynau Tiwtorial Meddwl Beirniadol  
  • Cyfleoedd cyfoethogi academaidd ehangach.  

Os yw’ch plentyn yn dal i fod â diddordeb mewn cymryd rhan ac yn academaidd chwilfrydig, nid yw’n rhy hwyr i ymuno. I wybod rhagor, e-bostiwch  Emma.Smith@gcs.ac.uk

Newid nid Gollwng

Mae Safon UG/Uwch yn rhaglen ddwy flynedd, felly mae’n bwysig bod dysgwyr yn teimlo’n hapus ac yn hyderus gyda’u dewisiadau pwnc. Rydym yn deall y gallai rhai dysgwyr benderfynu yr hoffent newid neu ollwng pwnc, ac rydym yn gallu helpu gyda’r broses hon.  

Mae sicrhau bod eich plant yn hapus gyda’u rhaglen yn bwysig ar gyfer eu profiad Coleg cyffredinol. Felly, byddem yn gwerthfawrogi’ch cefnogaeth i’w hannog i siarad â ni cyn gynted â phosibl os oes ganddynt unrhyw bryderon am eu dewisiadau (7 Hydref yw’r dyddiad cau terfynol).  

Dyddiadau Tymhorau 2026/27 

Tymor 1

1 Medi – 23 Hydref
Hanner Tymor: 26 – 30 Hydref
2 Tachwedd - 11 Rhagfyr
Bydd arholiadau ffug yn cael eu cynnal yn ystod yr hanner tymor hwn. 

Tymor 2

4 Ionawr – 5 Chwefror
Hanner Tymor: 8 – 12 Chwefror
15 Chwefror – 19 Mawrth

 

Tymor 3 – Tymor yr Arholiadau

5 Ebrill – 28 Mai
Hanner Tymor: 31 Mai – 4 Mehefin
7 Mehefin – 25 Mehefin
  

Gweithio gyda chi

Rydym yn edrych ymlaen i gydweithio â chi drwy gydol y flwyddyn i gynorthwyo’ch plant i wneud y mwyaf o’u cyfleoedd, cyflawni eu nodau a chyrraedd eu potensial llawn.

Gobeithio y cân nhw flwyddyn wych a llwyddiannus gyda ni!