Skip to main content

Dechrau yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

Cyn i ti ddod i dy ddiwrnod croeso, gwna’n siŵr dy fod yn sgrolio i lawr a chwblhau pob un o’r pum tasg angenrheidiol sydd i’w gweld isod:

  • Tasg 1 - Dod o hyd i dy fanylion personol y Coleg
  • Tasg 2 - Lawrlwytho 'GetEduroam'
  • Tasg 3 – Lawrlwytho Ap 'ENGAGE'
  • Tasg 4 - Lawrlwytho Ap ‘Microsoft Authenticator’
  • Tasg 5 - Cwblhau dy dri asesiad CENTURY. (Dysgwyr UG a Lefel 3 yn unig).
 

Tasg 1 - Dod o hyd i dy fanylion personol y Coleg

Bydd angen y rhain arnat ti er mwyn mewngofnodi i apiau a gweithgareddau amrywiol y Coleg.

 

Rhan 1: Rhif Adnabod y Coleg 

Mae dy rif adnabod myfyriwr y Coleg i’w weld ar dy fathodyn adnabod a dy ffurflen cadarnhau cofrestru. Bydd yn edrych yn debyg i: 23123456 (neu ABC123456 os ydych chi'n ddysgwr sy'n dychwelyd)

 

Rhan 2: Enw Defnyddiwr y Coleg 

Dy enw defnyddiwr y Coleg yw dy rif myfyriwr (fel uchod) wedi’i ddilyn gan yr olddodiad @stu.gcs.ac.uk

Bydd yn edrych yn debyg i: 23123456@stu.gcs.ac.uk (neu ABC123456@stu.gcs.ac.uk os ydych chi'n ddysgwr sy'n dychwelyd)

 

Rhan 3: Dy Gyfrinair y Coleg

Dylet ti fod wedi derbyn neges destun gyda dy gyfrinair Coleg dros dro ar y diwrnod gwaith nesaf ar ôl i dy gofrestriad gael ei gadarnhau. 

Gelli di newid y cyfrinair rwyt ti wedi’i dderbyn pan wnest ti fewngofnodi gyntaf.

 

Tasg 2 - Lawrlwytho 'GetEduroam'

Geteduroam Logo

Dylet ti osod yr ap hwn ar dy ddyfais CYN dod i’r Coleg. Bydd angen yr ap arnat ti i ddefnyddio Wi-Fi y Coleg. Mae’n bosibl y bydd data symudol/4G cyfyngedig ar gael ar y campws ar gyfer lawrlwytho a gosod yr ap.
Fyddi di ddim yn gallu defnyddio’r ap nes dy fod ti’n cyrraedd y Coleg. Byddwn ni’n rhoi manylion i ti ar sut i gysylltu â Wi-Fi y Coleg ar dy ddiwrnod cyntaf.

Chwilio am ‘GetEduroam’ ar Playstore neu App Store a lawrlwytho’r ap

Download on the App Store - GeteduroamGet it on Google Play - Geteduroam
 

Tasg 3 – Lawrlwytho Ap 'ENGAGE'

ENGAGE Logo

Ap ‘Bywyd Myfyriwr’ Coleg Gŵyr Abertawe.

Ap Engage yw dy ap gwybodaeth bersonol y Coleg. Yma gelli di wirio amserlenni, presenoldeb, negeseuon a llawer mwy.

Chwilia am ‘GCS Engage’ ar Playstore neu App Store a lawrlwytho’r ap

I fewngofnodi, clicia ar Azure AD ac yna rhoi dy e-bost coleg a dy gyfrinair, os gofynnir i ti wneud hynny.

Download on the App Store - ENGAGEGet it on Google Play - ENGAGE
 

Tasg 4 – Lawrlwytho Ap ‘Microsoft Authenticator’

Microsoft Authenticator Logo
 

Mae angen yr ap hwn arnat ti er mwyn cyrchu dy ffeiliau Coleg ac unrhyw gynnwys arall pan fyddi di gartref neu i ffwrdd o safle’r Coleg.

Chwilia am ‘Microsoft Authenticator’ ar Playstore neu App Store.

I fewngofnodi, dilyna’r camau syml hyn:

  • Agor ap Authenticator
  • Dewis y botwm +
  • Tapia ‘Ychwanegu cyfrif gwaith neu ysgol’
  • Dewis ‘Mewngofnodi’
  • Rho fanylion dy gyfrif Coleg – hynny yw dy enw defnyddiwr myfyriwr (e.e. dy rif adnabod myfyriwr wedi’i ddilyn gan @stu.gcs.ac.uk)
  • Cyfrinair: Dy gyfrinair uchod.
     
Download on the App Store - Microsoft AuthenticatorGet it on Google Play - Microsoft Authenticator
 

Cwestiynau Cyffredin

Dy ddiwrnod cyntaf fydd naill ai’r 1af neu’r 2il o fis Medi ond gall hyn amrywio yn dibynnu ar y campws. Dylet ti fod wedi cael llythyr gyda dy ddyddiad dechrau swyddogol arno.

Dylet ti fod wedi cael rhif ystafell ar gyfer dy ddiwrnod croeso. Os nad wyt ti’n siŵr ynghylch ble i fynd ar dy ddiwrnod cyntaf, cer i’r dderbynfa lle bydd staff wrth law i dy helpu i ddod o hyd i dy ystafell.

Mae dy ddiwrnod cyntaf yn gyfle i gwrdd â darlithwyr Coleg, ymgyfarwyddo â systemau’r Coleg a dysgu am yr holl gymorth sydd ar gael i ti. Byddwn ni’n mynd â ti ar daith o amgylch gwasanaethau’r Coleg a’r hybiau cymorth. Byddi di’n cwrdd â dy gydfyfyrwyr newydd a bydd yna gyfleoedd i ti gwrdd â phobl drwy gydol y dydd. Bydd gweithgareddau’n cael eu cynnal drwy gydol y dydd i dy helpu i ymgartrefu a chael hwyl. Mae gweithgareddau amser cinio tawelach ar gael yn y llyfrgelloedd ar bob campws.

Bydd amserlenni’n cael eu cadarnhau ar dy Ddiwrnod Croeso a byddwn ni’n rhoi gwybodaeth ynghylch sut i’w gweld ar y diwrnod.

Os hoffet ti newid dy gyfrinair, clicia’r ddolen isod a dilyn y camau.

Newid dy gyfrinair