Cafodd y Polisi Cwcis hwn ei ddiweddaru ar 30 Gorffennaf 2024 ac mae’n berthnasol i holl ddefnyddwyr y wefan.
Cyflwyniad
Mae ein gwefan https://gcs.ac.uk (“y wefan”) yn defnyddio cwcis a thechnolegau cysylltiedig eraill. Isod, rydym yn sôn am sut rydym yn defnyddio cwcis a thechnolegau eraill ar ein gwefan. Er hwylustod, cyfeirir at gwcis a thechnolegau fel “cwcis” o hyn ymlaen.
Beth yw Cwcis?
Ffeiliau testun bach sydd wedi’u lleoli ar borwr eich dyfais sy’n storio gwybodaeth benodol i’r wefan. Nid yw cwcis yn gallu lledu firysau ac nid ydynt yn faleiswedd (malware). Mae’r wefan yn defnyddio cwcis parti cyntaf a thrydydd parti.
Dylai fod gan eich porwr gwe (e.e. Firefox, Chrome, Microsoft Edge, Safari) opsiwn i ddangos y cwcis sy’n cael eu storio a byddwch yn medru dileu rhai/pob un ohonynt fel y dymunwch. Mae cwcis yn cynnwys gwybodaeth a ddefnyddir i wahaniaethu chi oddi wrth ddefnyddwyr eraill. Nid yw’r wybodaeth yn bersonol ond gellir ei ddefnyddio i gynnig profiad gwe personol i chi, gan gynnig gwybodaeth i ni am sut mae’r wefan yn cael ei defnyddio.
Rydym yn parchu eich hawl i breifatrwydd, felly gallwch ddewis i ganiatáu dim ond mathau penodol o gwcis. Bydd y wefan yn cofio eich defnydd dewisol o gwcis, ond, os ydych am gyrchu’r wefan gan ddefnyddio dyfais/porwr arall, bydd angen i chi nodi eich dewis eto.
Mathau o Gwcis
Cwcis Angenrheidiol
O bryd i’w gilydd, defnyddir y termau ‘cwcis technegol’ a ‘chwcis swyddogaethol’ i ddisgrifio cwcis angenrheidiol. Bwriad y cwcis hyn yw caniatáu i’r wefan weithredu ac ni ellir eu tynnu oddi ar ein system. Maent yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy, gan ganiatáu swyddogaethau sylfaenol megis symud o un dudalen i’r llall a chyrchu rhannau penodol o’r wefan yn ddiogel. Nid yw’r cwcis hyn yn storio data personol a gallwn eu defnyddio heb eich caniatâd.
Perfformiad a Marchnata
Mae cwcis perfformiad yn ein galluogi i gyfri ymweliadau i’r wefan fel y gallwn fesur a gwella perfformiad y wefan. Maent yn ein helpu i ganfod perfformiad tudalennau penodol, nodi gwallau a darganfod sut mae defnyddwyr yn defnyddio’r wefan yn gyffredinol. Mae'r holl wybodaeth a gesglir gan y cwcis hyn yn gydgasgledig a chyfrinachol.
Gellir gosod cwcis marchnata ar ein gwefan trwy ddefnyddio ein partneriaid hysbysebu. Gall y cwmnïau hyn eu defnyddio i greu proffil ar gyfer eich diddordebau er mwyn dangos hysbysebion perthnasol i chi ar wefannau eraill.
Nid ydynt yn storio gwybodaeth bersonol yn uniongyrchol ond maent yn medru adnabod eich porwr a’r ddyfais rhyngrwyd. Os ydych yn gwrthod y cwcis hyn, byddwch yn derbyn llai o hysbysebion personol.
Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth am y mathau o gwcis y gall y wefan eu defnyddio, ewch i wefannau ein partneriaid hysbysebu:
| Cwcis Trydydd Parti | Disgrifiad | Cyswllt Gwybodaeth Bellach |
| Meta Pixel | Yn casglu data ar gyfer hysbysebion Meta i dracio trosiadau, optimeiddio hysbysebion, adeiladu cynulleidfaoedd targedig ac ail-farchnata defnyddwyr presennol. | Polisi Preifatrwydd Meta |
Yn casglu data ar gyfer:
| Polisi Preifatrwydd Google | |
| TikTok | Mae cwcis TikTok yn caniatáu inni ddefnyddio hysbysebion ar TikTok, ac i helpu i dracio trosiadau, optimeiddio hysbysebion, adeiladu cynulleidfaoedd wedi'u targedu ac ail-farchnata i defnyddwyr presennol. |