Skip to main content

Dilyniant i Addysg Bellach Lefel 1 - Dau Lwybr

Amser-llawn
Lefel 1
Tycoch
Un flwyddyn

Trosolwg

Mae ein cwrs Dilyniant i Addysg Uwch ar gyfer ymadawyr ysgol nad ydynt yn siŵr o’r llwybr galwedigaethol yr hoffen nhw ei ddilyn. Mae hwn yn opsiwn blwyddyn, amser llawn a leolir ar Gampws Tycoch.

Bydd dysgwyr yn dilyn cymhwyster BTEC Cyflwyniad i Astudiaethau Galwedigaethol. Cewch gyfle i roi cynnig ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys:

  •  Astudiaethau busnes 
  • Creu bwrdd hwyliau
  • Cynllunio a llywio llwybr
  • Cynorthwyo mewn gweithgareddau chwaraeon
  • Gofal Plant
  • Paratoi a choginio bwyd
  • Peirianneg
  • Teithio a thwristiaeth
  • Tyfu planhigion
  • Ymchwilio i dystiolaeth safle trosedd
  • a llawer mwy*

*gallai hyn newid.

Gwybodaeth allweddol

Bydd angen i ddysgwyr fod wedi ennill pedair gradd G neu uwch ar lefel TGAU gan gynnwys Saesneg a Mathemateg. Rhaid bod dysgwyr wedi dilyn amserlen ysgol lawn er mwyn gwneud cais.

Yn dibynnu ar eich graddau TGAU, efallai y cewch gyfle i ailsefyll arholiadau TGAU mewn Mathemateg, Saesneg Iaith neu Wyddoniaeth.

Bydd rhai o’r unedau craidd yn cael eu haddysgu yn yr ystafell ddosbarth a bydd rhai o’r unedau mwy ymarferol yn cael eu haddysgu yn y gweithdy neu’r gegin. Pan fyddant yn y gegin neu’r gweithdy, bydd disgwyl i’r myfyrwyr wisgo cyfarpar diogelu personol addas y bydd y Coleg yn ei ddarparu am tua £50.