Skip to main content

Dilyniant i Addysg Bellach Lefel 2

Amser-llawn
Lefel 2
Tycoch
Un flwyddyn

Trosolwg

Mae’r cwrs blwyddyn hwn yn addas i unrhyw un rhwng 16 ac 19 oed sy’n ansicr ynghylch y llwybr gyrfa yr hoffai ei ddilyn.

Bydd dysgwyr yn dilyn cymhwyster Agored Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach Lefel 2 a BTEC Sgiliau Gwaith Lefel 2. Ar y cwrs hwn cewch gyfle i roi cynnig ar amrywiaeth o bynciau gwahanol sy’n gallu cynnwys:

  • Cymdeithaseg trosedd a gwyredd
  • Dyled bersonol a benthyca
  • Electronig
  • Ffotograffiaeth ddigidol
  • Llythrennedd gwybodaeth
  • Seicoleg
  • Sgiliau cyflwyno
  • Systemau’r corff dynol
  • Trydanol
  • Ymchwiliad gwyddonol
  • a llawer mwy*

*gallai hyn newid.

Gwybodaeth allweddol

Gofynion mynediad sylfaenol ar gyfer Lefel 2 yw pedair gradd D neu uwch ar lefel TGAU (gan gynnwys Mathemateg neu Saesneg).

Addysgir y cwrs yn yr ystafell ddosbarth ac fe’i hasesir yn barhaus drwy aseiniadau. Does dim arholiadau. Bydd methu â dod i’r darlithoedd yn rheolaidd yn peryglu gallu’r myfyriwr i gwblhau’r cymhwyster llawn.

Cyrsiau Lefel 3 / cyrsiau Mynediad / prentisiaethau neu gyflogaeth.