Diploma Cenedlaethol Uwch - mewn Rheoli Busnes
Ffôn: 01792 284098 E-bost: he@gcs.ac.uk
Trosolwg
Corff llywodraethu: I'w gadarnhau
Mae busnes yn rhedeg popeth ac mae galw mawr am bobl sy’n deall sut mae’n gweithio ym mhob sector, o gyllid a marchnata i weithrediadau ac adnoddau dynol. Mae’r cwrs Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) hwn yn rhoi’r sylfeini i chi fentro i rolau ar lefel rheoli neu symud ymlaen i radd BA Rheoli Busnes lawn.
Un o’r manteision ychwanegol yw’r opsiwn i astudio tuag at gymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) heb unrhyw gost ychwanegol (gwerth £1000-£2000). Mae’r fantais sylweddol hwn yn golygu y gallwch adael gyda Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) a chymhwyster cyfrifyddu a gydnabyddir yn genedlaethol y mae cyflogwyr yn ei werthfawrogi.
P’un a ydych chi’n dod yn syth o gymwysterau Safon Uwch neu Alwedigaethol, Mynediad i AU, neu’n dychwelyd i fyd addysg ar ôl cyfnod yn gweithio, bydd y rhaglen hon yn agor drysau mewn amrywiaeth o sectorau.
Byddwch yn cael eich addysgu mewn grwpiau bach, rhyngweithiol yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti gan ddarlithwyr profiadol. Mae eich asesiad yn eich paratoi ar gyfer byd gwaith trwy adeiladu eich dysgu o amgylch prosiectau realistig, yn ogystal â gweithio ar aseiniadau byw yn y gwaith gyda chyflogwyr lleol. Darllenwch sut wnaeth myfyrwyr HND Rheoli Busnes Coleg Gŵyr Abertawe ddatblygu atebion busnes ar gyfer masnachfreintiau Dawsons a McDonalds yn Fforestfach a Phenllergaer: HND Rheoli Busnes | Gweithio gyda Diwydiant.
Mae graddedigion o’r rhaglen hon wedi mynd ymlaen i weithio i Deloitte, Bevan and Buckland, Mazuma Accounting, a Canada Lodge and Lake (Gwesty Moethus).
Gwybodaeth allweddol
- Safon Uwch = DD
- Pearson BTEC Diploma Estynedig L3 = PPP
- Pearson BTEC Diploma L3 = MP
- Mynediad = Pas
- AAT3 = Pas.
Byddwn yn ystyried profiad gwaith perthnasol.
Modiwlau
Blwyddyn 1 - Lefel 4:
- Rheoli Gwybodaeth Ariannol
- Bod yn Weithiwr Proffesiynol; Ymchwiliad Beiriniadol
- Entrepreneuriaeth a Dechrau Busnes
- Economeg, Y Gyfraith a’r Amgylchedd Busnes
- Pobl, Gwaith a Chymdeithas
- Marchnata ac Ymddygiad Prynwyr.
Blwyddyn 2 - Lefel 5:
- Rheoli Pobl mewn Gweithle Byd-eang
- Cyfathrebu Marchnata Creadigol
- Cyfrifeg i Reolwyr
- Dadansoddi Busnes Strategol
- Prosiect Ymchwil Byw
- Y Gweithle Digidol.
Fel rhan o’r cwrs hwn mae opsiwn i fod yn dechnegydd cyfrifon cymwysedig trwy AAT.
Ni fyddai unrhyw ffioedd dysgu ychwanegol i astudio AAT Diploma Lefel 2/3 ochr yn ochr â’ch HND ym mlwyddyn un ac AAT Diploma Lefel 3/4 ym mlwyddyn dau, yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad blaenorol.
Addysgir y cwrs dros dri diwrnod. Bydd rhaid i’r myfyrwyr sy’n dewis opsiwn AAT ddod am bedwar diwrnod. Mae opsiwn rhan-amser ar gael hefyd.
Ar ôl cwblhau, gall myfyrwyr symud ymlaen i flwyddyn olaf y cwrs BA (Anrh) Rheoli Busnes yng Ngholeg Gwyr Abertawe neu fel arall gallent symud ymlaen i gyrsiau BA (Anrh) ym Mhrifysgol De Cymru.
Costau’r cwrs
I dalu ffi dysgu yn cael eu cadarnhau
Mae’r Coleg yn cynnig bwrsari o £1,000 tuag at hyn ar gyfer cyrsiau amser llawn.
I gael gwybodaeth am gymorth ariannol – gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu – ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.
Hyd y cwrs
Addysgir y cwrs hwn dros ddwy flynedd academaidd ar Gampws Tycoch.
Ffioedd ychwanegol
- Teithio i’r Coleg, neu’r lleoliad ac yn ôl
- Costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. cofau bach)
- Argraffu a rhwymo
- Gynau ar gyfer seremonïau graddio.
Achredu Dysgu Blaenorol (APL)
Mae’n bosibl y bydd y myfyriwr yn gallu ennill cydnabyddiaeth ar gyfer dysgu blaenorol.