Skip to main content

Gwallt a Cholur ar gyfer Theatr, Effeithiau Arbennig a’r Cyfryngau Lefel 3 - Diploma

Amser-llawn
Lefel 3
VTCT
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
One year
Ffôn: 01792 284049 (Broadway)

Trosolwg

Yn ystod y cwrs blwyddyn hwn byddwch yn datblygu’r sgiliau uwch wrth baratoi ar gyfer y diwydiant ffasiwn, teledu a ffilm.

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys:

  • Colur llunberffeithio
  • Colur cuddliwio
  • Colur y cyfryngau
  • Ffasiwn a cholur ffotograffig
  • Steilio a gosod wigiau
  • Defnyddio darnau prosthetig a chapiau moel.

Gwybodaeth allweddol

Mae asesiadau yn barhaus drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys arsylwadau ymarferol, profion ysgrifenedig, nawsfyrddau a dyddiaduron.

  • Cymhwyster uwch ar Lefel 4
  • Prifysgol
  • Cyfleoedd cyflogaeth yn y diwydiant theatr a ffilm.

Rhaid i ddysgwyr brynu cit, gwisg ac offer ysgrifennu. Byddwn yn trafod costau yn ystod y cyfweliad.

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.