Triniaethau Therapi Harddwch Lefel 3 - Diploma
Trosolwg
Mae VTCT Diploma Lefel 3 mewn Triniaethau Therapi Harddwch yn gwrs blwyddyn sylweddol a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa fel therapydd harddwch a bydd yn eich helpu i gael cyflogaeth fel therapydd harddwch, gan fod yr unedau yn y cymhwyster hwn yn cwmpasu’r holl sgiliau a gwybodaeth angenrheidiol ar gyfer y rôl hon.
Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys yr holl elfennau angenrheidiol i weithio’n effeithiol fel therapydd harddwch gan gynnwys: darparu triniaethau tylino corff, electrotherapi wyneb a chorff, iechyd a diogelwch a gofal cleientiaid.
Mae meysydd astudio yn cynnwys:
- Therapïau trydanol i’r wyneb a’r corff
- Microdermabrasion
- Therapi tylino’r corff
- Tylino cerrig poeth ac oer
- Triniaethau lliw haul
- Estyniadau amrannau unigol
- Anatomeg a ffisioleg
- Iechyd a diogelwch
- Gofal cleientiaid a chyfathrebu
- Gweithio mewn diwydiannau sy’n ymwneud â harddwch.
Gwybodaeth allweddol
- Cymhwyster Therapi Harddwch Lefel 2 llawn neu’r cyfwerth rhan-amser.
- Rhaid bod ymgeiswyr yn gallu gweithio fel aelod o dîm a meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog.
Byddwch yn dod i’r Coleg am 17 awr yr wythnos.
Asesiad ymarferol parhaus, arholiadau ac aseiniadau ysgrifenedig.
Gallai’r cymhwyster hwn arwain yn uniongyrchol at gyflogaeth fel therapydd harddwch uwch mewn salon/sba harddwch neu hunangyflogaeth. Mae cyfleoedd hyfforddi pellach yn cynnwys: