Technolegau Peirianneg (Amlsgiliau) Lefel 1 - Diploma
Trosolwg
Paratowch i blymio i fyd cyffrous peirianneg ar gwrs EAL Diploma Lefel 1 mewn Technolegau Peirianneg, cwrs ymarferol sy’n archwilio’ch diddordeb mewn gwneud, dylunio, a datrys problemau. Addysgir y cwrs ar Gampws Tycoch, ac mae’n rhoi blas i chi ar beirianneg y byd go iawn, o weldio ac argraffu 3D i electroneg a roboteg.
Byddwch yn dysgu sgiliau hanfodol a chael gwybodaeth am y llwybrau gyrfa niferus sydd i’w cael yn y sector peirianneg, gan eich helpu i wneud dewisiadau hyderus a gwybodus am eich dyfodol. P’un a ydych yn anelu at brentisiaeth neu astudiaethau pellach ym maes peirianneg, mae’r cwrs hwn yn rhoi gwybodaeth a phrofiad ymarferol i ddechrau arni.
Gwybodaeth allweddol
Pum gradd D neu uwch ar lefel TGAU.
Addysgir y cymhwyster trwy sesiynau gweithdy ac ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb.
Mae dulliau asesu o fewn y cymhwyster hwn yn cynnwys arholiad dewis lluosog ar-sgrin ar gyfer yr uned orfodol ac asesiadau ymarferol a theori a gaiff eu marcio gan y ganolfan ar gyfer yr unedau opsiynol. Arsylwi ymarfer yn uniongyrchol.
Uned orfodol:
- Cyflwyniad i weithio ym maes peirianneg.
Unedau opsiynol:
- Cyflwyniad i electroneg
- Cyflwyniad i bresyddu a sodro
- Cyflwyniad i argraffu 3D
- Cyflwyniad i dechnolegau wedi’u hawtomeiddio
- Cyflwyniad i dorri, ffurfio a chyfosod defnyddiau peirianneg
- Cyflwyniad i fathemateg a gwyddoniaeth sylfaenol a ddefnyddir ym maes peirianneg
- Cyflwyniad i CAD
- Cyflwyniad i MIG/MAG.
Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gallech symud ymlaen i unrhyw un o’n cyrsiau Peirianneg Lefel 2 neu lwybr i Brentisiaeth Lefel 2.
Cyfarpar diogelu personol sydd eu hangen ar gyfer y gweithdy:
- Esgidiau blaen dur
- Oferôls gwrthdan.