Skip to main content

Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) Lefel 3 – Cymhwyster

GCS Training
Lefel 3
ILM
Llys Jiwbilî
6-18 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae’r cymhwyster ILM Lefel 3 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn addas i’r rhai sydd â chyfrifoldebau rheoli ond heb gael unrhyw hyfforddiant ffurfiol, ac sydd am ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth.

Mae’r cymhwyster ar gael fel Dyfarniad cryno, Tystysgrif ehangach neu fel Diploma cynhwysfawr. 

Gwybodaeth allweddol

Mae’r cymhwyster yn addas ar gyfer arweinwyr tîm wrth eu gwaith sydd am symud ymlaen i’r lefel rheolaeth nesaf, yn ogystal â rheolwyr y mae gofyn iddynt arwain timau trwy newidiadau sefydliadol, toriadau cyllideb neu bwysau sefydliadol eraill.

Bydd dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr penodedig, a fydd yn gweithio’n agos gyda’r dysgwyr a’r cyflogwr i sicrhau bod cynnwys yr uned yn addas i’w rolau unigol, eu blaenoriaethau sefydliadol, a bodloni gofynion y cymhwyster. Gall yr addysgu ddigwydd o bell, neu gall y tiwtor/aseswr ymweld â’r dysgwr bob pedair i chwe wythnos mewn lleoliad sy’n gyfleus i’r dysgwr a’r aseswr.

Unedau

Rhennir yr unedau yn y cymhwyster hwn yn saith maes eang:

  • Sgiliau rheoli craidd
  • Perfformio tasgau rheoli
  • Arwain tîm
  • Newid ac arloesedd
  • Sgiliau cyfathrebu
  • Rheoli pobl a pherthnasau 
  • Arweinyddiaeth

Byddai ILM yn argymell y cymhwyster canlynol fel llwybr dilyniant posibl:

  • Rheolaeth (ILM) Lefel 4 – Cymwysterau

Mewn cydweithrediad â’r Sefydliad Arweinyddiaeth, bydd dysgwyr yn cael mynediad at aelodaeth astudio’r Sefydliad. Mae’r aelodaeth hon yn rhoi mynediad at amrywiaeth o adnoddau a fydd yn datblygu sgiliau arweinyddiaeth, rhoi hwb i hyder a gwella’r profiad dysgu.