Skip to main content

Asesiad Nwy ACS Domestig ERS - Cwrs

GCS Training
Tycoch
Tri diwrnod

Trosolwg

Mae tystysgrifau Nwy ACS yn dod i ben bob pum mlynedd. Bydd y cwrs hwn yn adnewyddu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth, gan ei fod yn hanfodol i chi fod yn aelod cofrestredig o’r cynllun personau cymwys i weithio’n ddiogel ar bibellau nwy naturiol domestig ac offer rhestredig.

Mae cyllid ar gael ar gyfer y cwrs hwn yn amodol ar ddiwallu meini prawf cymhwysedd.

Gwybodaeth allweddol

Bydd angen i ddysgwyr ddarparu prawf o’u cymhwyster ACS a rhaid iddo fod o fewn blwyddyn i ddod i ben. Hefyd, bydd angen cymryd rhan mewn cyfweliad byr gyda thiwtor y cwrs. 

Addysgir y cwrs dros dri diwrnod, gan gynnwys diwrnodau asesu yng Nghanolfan Ynni Coleg Gŵyr Abertawe, ar Gampws Tycoch.

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, gall dysgwyr symud ymlaen i:

  • Asesu Offer Domestig: DAH1, CPA1, MET1
  • Asesiadau LPG: CoNgLp1 (PD), CoNGLP1 (RPH), ConNGLP1 (LAV)
  • Rheoliadau Adeiladu: UVDHW, EnEff1, Rheoliad Dŵr
  • Trosiant Nwy Domestig ACS i Nwy Masnachol

Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu trwy arholiad ysgrifenedig amlddewis, yn ogystal ag asesiadau ymarferol sy’n cynnwys asesiad senario ac asesiad o fewn amgylchedd gwaith. 

ACS Domestic Gas re-assessment
Cod y cwrs: YA246 ST3
01/10/2024
Tycoch
3 days
Mon - Wed
8.30 - 5 pm
£0
ACS Domestic Gas re-assessment
Cod y cwrs: YA246 ST4
04/11/2024
Llys Jiwbilî
3 days
Mon - Wed
8.30 - 5 pm
£0