Skip to main content

Cymorth Gofal Iechyd Sylfaenol Lefel 3 - Cymhwyster

GCS Training
Lefel 3
AGORED
Llys Jiwbilî
15 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae’r cymhwyster hwn yn addas yn bennaf ar gyfer gweithwyr cymorth sy’n gweithio ym meysydd gofal yng Nghymru ac sy’n cynnig cymorth i unigolion sy’n cyrchu gwasanaethau iechyd sylfaenol dan gyfarwyddyd ymarferydd proffesiynol a chofrestredig megis Meddyg Teulu neu Nyrs Gofrestredig. Mae’n gymhwyster craidd sy’n cydnabod rolau a gyflawnir gan weithwyr cymorth gofal iechyd sy’n gweithio gydag unigolion o fewn y sector gofal sylfaenol.

I ymgymryd â’r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr fod yn gyflogedig mewn rolau gofal sylfaenol a chymunedol  lle mae sgiliau clinigol yn rhan hanfodol o’u dyletswyddau. Cafodd y cymhwyster ei ddatblygu i wella llywodraethu arfer yng Nghymru trwy sicrhau ansawdd allanol.

Disgwylir i holl staff cymorth sylfaenol a chymunedol gael cyfle i gwblhau’r cymhwyster a/neu gyflawni elfennau ohono at ddibenion datblygiad proffesiynol parhaus. Gallant yna hwyluso unrhyw newidiadau mewn ymarfer dros amser.

Gwybodaeth allweddol

Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18+ i astudio’r cymhwyster hwn a bydd angen iddynt fod yn gweithio mewn rôl lle mae gofal iechyd clinigol naill ai'n rhan o'u gwaith neu’n ymwneud yn llwyr ag ef.

Cyflwynir y cymhwyster trwy gefnogaeth 1:1 gydag aseswr. 

Bydd angen i ddysgwyr gwblhau portffolio cyfun o unedau gorfodol a dewisol, gan gwblhau o leiaf 60 credyd.

Bydd gofyn i ddysgwyr greu portffolio tystiolaeth i arddangos eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u cymhwysedd wrth ymarfer.  

Bydd ystod o ddulliau asesu yn cael eu defnyddio, megis:

  • Arsylwadau uniongyrchol o ymarfer
  • Aseiniadau ysgrifenedig
  • Cwestiynau / trafodaethau proffesiynol

Learners will undertake a set of mandatory units which provide the core skills for the role, and they will be able to select optional units which are appropriate for their setting.

Unedau gorfodol

  • Profi mannau lle rhoddir gofal
  • Anatomeg a ffisioleg dynol
  • Ymarfer proffesiynol
  • Diogelu

Unedau Dewisol

  • Mesuriadau ffisiolegol
  • Casglu samplau gwaed gwythiennol
  • Gofalu am glwyfau
  • Ymwybyddiaeth o strociau

  • Bydd dysgwyr sy'n cyflawni'r cymhwyster hwn yn gymwys i weithredu rolau gofal iechyd sylfaenol Lefel 3
  • Datblygwyd y cymhwyster hwn i gynnig pwynt mynediad i gynorthwywyr/ymarferwyr  i addysg a hyfforddiant Lefel/band 4