Skip to main content

Cynnal a Chadw Gosodiadau Trydanol Sylfaenol - Cwrs

GCS Training
Lefel 1
Tycoch
Dau ddiwrnod
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Bwriedir y cwrs Cynnal a Chadw Gosodiadau Trydanol yn bennaf i’r rhai sydd heb lawer o brofiad neu ddim profiad o gwbl o gylchedau a chydrannau trydanol.

Bydd y cwrs yn darparu’r theori a’r ymarfer sydd eu hangen ar ddysgwyr i wneud gwaith cynnal a chadw trydanol sylfaenol yn eu heiddo eu hunain neu yn y gweithle, fel cysylltu top plwg, newid switsh golau neu ffitio neu wirio ar gyfer didoriant mewn cylched.

Ar ôl cwblhau, dylai dysgwyr allu:

  • Deall sut i ynysu offer yn ddiogel
  • Pennu’r risgiau o weithiau gydag offer trydanol a gwybod sut i’w lleihau

Gwybodaeth allweddol

Nid oes angen gwybodaeth drydanol benodol ar gyfer y cwrs hwn, ond rhaid bod ymgeiswyr yn gallu deall a chofio gwybodaeth dechnegol.

Bydd y cwrs yn cynnwys cyfarwyddyd ystafell ddosbarth ac ymarferion. 

Mae’n cwmpasu:

  • Gweithdrefnau ynysu diogel
  • Gweithdrefnau ac arferion gosod diogel
  • Nodi cydrannau
  • Nodi sefyllfaoedd trydanol anniogel
  • Gofynion daearu a bondio trydanol
  • Gosod a newid cydrannau trydanol
  • Technegau chwilio am namau sylfaenol
  • Gwirio gweithrediad cywir a diogel cydran drydanol osodedig

Gallai dysgwyr sy’n dilyn y cwrs hwn ystyried y canlynol hefyd:

  • Profi teclynnau cludadwy
  • Cwrs gosodiadau domestig
  • Gosod systemau ffotofoltäig

Nid oes asesiad ffurfiol ynghlwm wrth y cwrs hwn, ond mae’n cynnwys asesiad o wybodaeth lle bydd dysgwyr yn derbyn tystysgrif presenoldeb Coleg Gŵyr Abertawe.

Mae’r holl staff addysgu yn drydanwyr profiadol ac yn athrawon cymwysedig, sydd â chyfradd pasio uchel iawn am y cwrs hanfodol hwn.

Y cwrs yw £250 y pen, ac eithrio TAW.