Diploma NVQ (City & Guilds) mewn Ymarfer Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol - Cymhwyster
Trosolwg
Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau wrth reoli iechyd a diogelwch yn y gweithle.
Bydd gan ddysgwyr gyfrifoldeb dros reoli polisi ac arferion iechyd a diogelwch eu sefydliad a byddant yn adrodd yn uniongyrchol i’r tîm rheol uwch neu yn rhan o’r tîm hwnnw. Byddant hefyd yn ymwybodol o gost y cwrs a rheolaethau cyllidebol.
Gwybodaeth allweddol
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cymhwyster hwn, fodd bynnag, byddwn yn trefnu cyfarfod byr i drafod cynnwys y cwrs er mwyn gweithio allan pa lefel sy’n addas ar gyfer y dysgwr.
Yn ystod y cyfarfod, byddwn yn trafod a fydd y dysgwr yn dangos y lefel ofynnol o gymhwysedd i gyflawni’r rôl, gan mai perfformiad yn y rôl yw’r brif sail ar gyfer asesu.
I gwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, bydd gofyn i ddysgwyr gwblhau’r unedau canlynol:
- Gweithdrefnau iechyd a diogelwch mewn argyfwng
- Archwiliadau Iechyd a diogelwch
- Diwylliant iechyd a diogelwch iach o fewn sefydliad
- Polisi iechyd a diogelwch o fewn sefydliad
- Datblygiad proffesiynol a moeseg mewn ymarfer iechyd a diogelwch
- Monitro systemau a rheoli risg
- Strategaethau iechyd a diogelwch sefydliadol
Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, gall dysgwyr symud ymlaen i swyddi addas, cymwysterau IOSH arbenigol, addysg uwch neu’r cymwysterau City & Guilds yma:
- NVQ mewn Rheoli Iechyd a Diogelwch - Lefel 6
- Cymwysterau NVQ mewn Rheoli (ILM)
Ffi’r cwrs hwn yw £2000, heb TAW.