Skip to main content

Egwyddorion Gwasanaeth Cwsmeriaid (WorldHost) Lefel 2 - Cymhwyster

GCS Training
Lefel 2
WorldHost
Llys Jiwbilî
Un diwrnod
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae’r dyfarniad hwn yn gwrs byr undydd, a fydd yn astudio egwyddorion hanfodol gwasanaeth cwsmeriaid ar gyfer y diwydiannau lletygarwch, hamdden, teithio a thwristiaeth, yn ogystal â nifer o ddiwydiannau eraill lle mae gwasanaeth cwsmeriaid yn allweddol i lwyddiant.  

Mae’n addas yn bennaf i’r rhai sy’n anelu at ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog i’r cyhoedd a/neu gydweithwyr. Mae’n ddelfrydol ar gyfer pob lefel cyflogaeth, a gellir ei ddefnyddio fel cwrs gloywi i’r rhai sydd eisoes â phrofiad o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel.

Gwybodaeth allweddol

Bydd dysgwyr yn mynd i weithdy undydd a addysgir gan hyfforddwr cymwysedig a chymeradwy WorldHost. Mae’r cwrs yn brofiad rhyngweithiol a difyr i staff, gan gynnwys senarios byd go iawn a chyfleoedd ar gyfer trafodaeth a gweithgareddau i rannu arferion gorau.

Mae’r cyrsiau fel arfer yn cael eu haddysgu yn yr ystafell ddosbarth, ond gellir trefnu addysgu o bell ar gyfer sesiynau grŵp pwrpasol. Mae’r hyfforddiant yn rhagweithiol, yn bleserus ac yn ddiddorol.

Asesir y dyfarniad trwy brawf amlddewis, yn seiliedig ar destunau a astudir yn ystod y dydd.

Unedau

  • Sut i greu argraff gyntaf gadarnhaol
  • Argraffiadau cyntaf
  • Elfennau gwasanaeth cwsmeriaid
  • Anghenion a disgwyliadau 
  • Grym y cyfryngau cymdeithasol
  • Pawb ar ei ennill
  • Pum ffordd i helpu i gofio enwau
  • Agwedd yw popeth 
  • Y broses gyfathrebu
  • Tair rhan i’r broses gyfathrebu
  • Gwrandawyr effeithiol 

Mae gan Goleg Gŵyr Abertawe gyfradd pasio lwyddiannus ar gyfer y cwrs hwn, sef 99%.