Skip to main content

Gosod Mannau Gwefru Cerbydau Trydan - Cymhwyster

GCS Training
Lefel 3
EAL
Tycoch
Dau ddiwrnod
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Bydd y cwrs hwn yn rhoi cipolwg cynhwysfawr i ddysgwyr ar sut i ddefnyddio Cod Ymarfer IET ar gyfer Gosod Offer Gwefru ar gyfer Cerbydau Trydan.

Bydd yn cynnig cyfle i unigolion sy’n gweithio yn y sector electrodechnegol ddatblygu eu dealltwriaeth o osod mannau gwefru ar gyfer cerbydau trydan a bydd yn cwmpasu’r sgiliau craidd sydd eu hangen i osod ac archwilio mannau gwefru a darganfod unrhyw ddiffygion. 

Mae’r sector hwn yn newydd a gall drydanwyr ymgymryd â hyfforddiant i ddod yn osodwyr arbenigol.

Gwybodaeth allweddol

Rhaid i ddysgwyr fod yn drydanwyr cymwys a bydd angen iddynt feddu ar gymhwyster mewn Profi AM (e.e. AM2/S/E/D). Bydd angen iddynt hefyd fod wedi pasio cwrs Archwilio a Phrofi.  Bydd gofyn i ddysgwyr ddangos eu tystysgrif cyn ymgymryd â’r cwrs. 

Hefyd, bydd ganddynt ddealltwriaeth ymarferol o’r gofynion canlynol:

  • Gwybod sut i osod a therfynu cebl pvc/pvc (ceblau dwbl a daear) a cheblau dur.
  • Gwybod y gwahaniaeth rhwng gofynion gosod yn y ddaear e.e. TT, TNS, TNCS
  • Cynnal gwiriad cychwynnol (archwiliad a phrofi) ar osodiadau trydanol a chwblhau'r gwaith papur angenrheidiol

Mae angen y cymwyseddau yma ar gyfer yr asesiad ac ni fyddant yn cael eu haddysgu fel rhan o'r cymhwyster. Disgwylir i ddysgwyr feddu ar gymwysterau perthnasol a/neu fod â gwybodaeth ymarferol o'r diwydiant trydanol.

Ystyrir pob cais yn unigol ac efallai na fydd angen cymwysterau ffurfiol mewn rhai achosion. Bydd hyn yn dibynnu ar brofiad.

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno dros ddau ddiwrnod yng Nghanolfan Ynni Coleg Gŵyr Abertawe, Campws Tycoch. Bydd yn cynnwys gosodiad ymarferol o uned wefru cerbydau trydan, sesiynau o fewn ystafell ddosbarth, asesiad ymarferol yn ogystal ag arholiad llyfr agored awr ar-lein.

Bydd gofyn i ddysgwyr ddod â Chod Ymarfer IET ar gyfer Gosod Cyfarpar Gwefru Cerbydau Trydan+ (5ed argraffiad) i'r cwrs.