Skip to main content

Olwynion Sgraffinio - Cwrs

GCS Training
Llys Jiwbilî
Hanner diwrnod
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae’r cwrs hwn yn cydymffurfio â gofynion Rheoliadau Darparu a Defnyddio Cyfarpar Gwaith 1998, a chyhoeddiad Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch sef ‘Safety in the Use of Abrasive Wheels’ (HSG17).

Mae’n fwyaf addas ar gyfer:

  • Cyflogwr sydd wedi penodi aelod o staff i fod yn gymwys wrth osod olwynion sgraffinio
  • Rhywun sydd wedi gweithredu teclyn olwyn sgarffinio yn y gweithle, ac sydd angen deall sut i weithredu a gosod olwynion llifanu, a bod yn gyfarwydd â’r rheoliadau perthnasol

Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd myfyrwyr yn dysgu’r sgiliau gofynnol i osod olwyn sgraffinio mewn amgylchedd diogel a bydd ganddynt wybodaeth o’r gofynion cyfreithiol dan Reoliadau Darparu a Defnyddio Cyfarpar Gwaith 1998. 

Gwybodaeth allweddol

Dylai darpar ymgeiswyr fod yn gyflogedig mewn maes perthnasol, lle mae’r defnydd neu’r wybodaeth o olwynion sgraffinio yn rhan annatod o’r rôl.

Testunau

Trwy waith theori ac arddangosiadau ymarferol, mae’r cwrs yn rhoi sylw i’r gofynion ar gyfer defnyddio a gosod olwynion sgraffinio yn ddiogel, olwynion sgraffinio a ddefnyddir ar gyfer llifanwyr mainc ac offer llaw cludadwy.

  • Peryglon a rhagofalon
  • Marcio olwynion sgraffinio 
  • Storio, trafod a chludo
  • Arolygu a phrofi
  • Swyddogaethau’r holl gydrannau a ddefnyddir
  • Y dull cywir o drin olwyn
  • Addasu’r rest
  • Gofynion y rheoliadau
  • Deddfwriaeth berthnasol arall