Skip to main content

Ymwybyddiaeth Asbestos - Cymhwyster

GCS Training
Llys Jiwbilî
Hanner diwrnod
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae’n ofynnol rhoi hyfforddiant asbestos i’r gweithwyr hynny y gallai eu gwaith ddod â nhw mewn cysylltiad ag asbestos, yn enwedig gweithwyr dymchwel a gweithwyr ailwampio, cynnal a chadw a chrefftau cysylltiedig, lle bydd eu gwaith yn tarfu ar yr adeiladwaith. 

Ar ôl cwblhau’r cyrsiau, bydd dysgwyr yn:

  • Fwy ymwybodol o natur a phriodweddau asbestos, yn ogystal â’i effaith ar iechyd
  • Bod yn gyfarwydd â’r mathau o asbestos, ei ddefnyddiau a’r mannau lle byddant yn debygol o’i ddarganfod mewn adeiladau, ac os yw’n briodol, mewn peiriannau
  • Gwybod sut i osgoi peryglon asbestos
  • Deall ble i gael gwybodaeth am asbestos mewn eiddo cyn dechrau gwaith
  • Bod yn ymwybodol o’r hyn sydd i’w wneud os darganfyddir defnyddiau amheus
  • Deall sut i ddefnyddio rhagofalon priodol yn y gweithle
  • Deall sut i gyflawni gweithgareddau gwaith yn ddiogel, heb beryglu eu hunain neu bobl eraill
  • Bod yn ymwybodol o’r agweddau allweddol ar reoliadau asbestos

Gwybodaeth allweddol

Dylai dysgwyr fod yn gyfarwydd â chanllawiau presennol yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch mewn perthynas ag asbestos.

Addysgir y cwrs hwn ar sail bwrpasol i sefydliadau, a bydd angen bwcio grŵp o ryw wyth dysgwr am ffi o £50 y pen. Nid oes TAW i’w thalu.

Gellir addysgu’r cwrs yn y Coleg neu yn eich gweithle eich hun.