Skip to main content

Arweinyddiaeth a Rheolaeth (CMI, ILM) Lefel 4 - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 4
CMI/ILM
Llys Jiwbilî
24 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn rhoi modd i ddysgwyr ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth i fod yn rheolwyr ac yn arweinwyr, neu ddatblygu eu hunain ymhellach i rolau rheolwyr canol neu uwch. Achredir ein rhaglenni gan ILM a CMI, a byddant yn cyflwyno arferion arweinyddiaeth a rheolaeth allweddol gyda’r nod o gynorthwyo dysgwyr i gymhwyso’r sgiliau a ddatblygwyd yn eu gwaith. 

Ar Lefel 4, mae’r brentisiaeth yn addas ar gyfer rheolwyr sefydledig, pennaeth swyddogaethau neu reolwyr maes. Addysgir y rhaglen fel cymhwyster annibynnol y gellir ei ariannu’n llawn, a gellir ei ddefnyddio i uwchsgilio staff newydd neu bresennol.

Gwybodaeth allweddol

I fod yn gymwys ar gyfer cyllid prentisiaeth, rhaid i’r prentis fod yn gyflogedig am fwy nag 16 awr yr wythnos ac wedi’i leoli yng Nghymru.

Bydd dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr penodedig, a fydd yn gweithio’n agos gyda nhw a’r cyflogwr i sicrhau bod y lefel a’r unedau a ddewisir yn addas ar gyfer eu rôl unigol a blaenoriaethau’r sefydliad. Gall yr addysgu fod o bell neu gall y tiwtor/aseswr gwrdd â’r dysgwr bob 4-6 wythnos mewn lleoliad sy’n gyfleus i’r dysgwr a’r aseswr. 

Bydd disgwyl i’r dysgwr fynychu seminarau neu weithdai a fydd yn canolbwyntio ar yr elfen wybodaeth o’r cymhwyster, a chymorth i ddatblygu dealltwriaeth a sgiliau. Bydd dysgwyr hefyd yn cael gwaith prosiect seiliedig ar yr unedau maen nhw wedi’u dewis, a byddant yn creu portffolio prosiect i ddangos y defnydd o’u sgiliau newydd.

Mae rhaglen Lefel 4 ar gael naill ai fel tystysgrif neu ddiploma mewn egwyddorion arweinyddiaeth a rheolaeth, neu fel diploma NVQ mewn rheolaeth. Mae’r dystysgrif yn gymhwyster byrrach, ac mae’n cynnwys dwy uned orfodol sy’n canolbwyntio ar ddealltwriaeth o’r rôl reoli a sut i arwain gweithgareddau cymhleth. Mae’r diploma yn cynnwys pedair uned orfodol gyda ffocws ar reoli newid a datblygu cysylltiadau.

Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 5 - Prentisiaeth

I gwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ymgymryd â phrosiect sy’n berthnasol i’w rôl unigol a’u hamgylchedd dysgu. Byddan nhw’n caffael yr wybodaeth, yr offer a’r technegau sy’n gysylltiedig â phob uned a byddan nhw wedyn yn eu rhoi ar waith yn eu hamgylchedd gwaith presennol.

Bydd y prosiect, y gwaith a roddwyd a’r dystiolaeth a gasglwyd yn cael eu hadolygu yn ystod y cyfarfodydd grŵp a’r cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda thiwtoriaid/aseswyr a’u defnyddio at ddibenion asesu. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio Aseswr Clyfar, sef offeryn rheoli prentisiaethau ar-lein sy’n rhoi modd i’r darparwr, y dysgwr a’r cyflogwr olrhain cynnydd dysgwyr yn effeithiol.