Skip to main content

Dadansoddwr Data Lefel 4 - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 4
AGORED
Llys Jiwbilî
24 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae’r brentisiaeth hon wedi’i hariannu’n llawn ac mae ar gyfer dysgwyr sydd â gwybodaeth, profiad neu gymwysterau TG ac sydd wedi bod yn gyflogedig yn y diwydiant technoleg am nifer o flynyddoedd. Dylai dysgwyr fod mewn rôl addas sy’n gweithio gyda data mawr neu setiau data mawr. Mae prentisiaeth Lefel 4 ar gyfer staff sydd am ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth rheoli data i gyflawni tasgau uwch a darparu atebion. 

Gellir defnyddio’r brentisiaeth i uwchsgilio staff newydd neu bresennol. Mae rolau addas yn cynnwys dadansoddwyr data, rheolwyr data, peirianwyr data, gwyddonwyr data neu reolwyr cydymffurfio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau.

Gwybodaeth allweddol

I fod yn gymwys ar gyfer cyllid prentisiaeth, rhaid i’r prentis fod yn gyflogedig am fwy nag 16 awr yr wythnos ac wedi’i leoli yng Nghymru.

Bydd y dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr penodedig, a fydd yn gweithio’n agos gyda nhw a’r cyflogwr i sicrhau bod y lefel a’r unedau a ddewisir yn addas ar gyfer eu rôl unigol a blaenoriaethau’r sefydliad. Bydd y tiwtor/aseswr yn cwrdd â’r dysgwyr bob 4-6 wythnos i asesu cynnydd a gosod amcanion ar gyfer y cyfnod nesaf.

Bydd y dysgwyr yn cael gwaith prosiect seiliedig ar yr unedau maen nhw wedi’u dewis, a bydd disgwyl iddyn nhw gasglu tystiolaeth o’u rôl i ddangos y defnydd o’u sgiliau newydd. Mae’n bosibl y bydd disgwyl i’r dysgwr fynychu seminarau neu weithdai yn ogystal â dysgu seiliedig ar waith a fydd yn canolbwyntio ar yr elfen wybodaeth o’r cymhwyster, a chymorth i ddatblygu dealltwriaeth, sgiliau a phrofiad yn y maes hwn.

Unedau gorfodol

  • Dadansoddi data: offer
  • Dadansoddi data: gwyddor data
  • Datblygu’ch effeithiolrwydd a’ch proffesiynoldeb eich hun
  • Egwyddorion seilwaith rheoli data

Unedau dewisol

  • Dadansoddiad ystadegol o setiau data
  • Profi systemau TG a thelathrebu
  • Profi diogelwch systemau gwybodaeth
  • Rhaglennu ar gyfer dadansoddiad data
  • Cynrychioli a thrin data uwch
  • Seilwaith rheoli data
  • Diffinio ac ymchwilio i ofynion cwsmeriaid ar gyfer systemau TGCh
  • Egwyddorion rheoli a sicrhau gwybodaeth

I gwblhau’r cymwysterau yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ymgymryd â thasgau seiliedig ar waith i fodloni meini prawf y cymhwyster, sy’n berthnasol i’w rôl unigol a’u hamgylchedd dysgu. Byddan nhw’n caffael yr wybodaeth, yr offer a’r technegau sy’n gysylltiedig â phob uned a byddan nhw wedyn yn eu rhoi ar waith yn eu hamgylchedd gwaith presennol.

Bydd y prosiect, y gwaith a roddwyd a’r dystiolaeth a gasglwyd yn cael eu hadolygu yn ystod y cyfarfodydd grŵp a’r cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda thiwtoriaid/aseswyr a’u defnyddio at ddibenion asesu. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio Aseswr Clyfar, sef offeryn rheoli prentisiaethau ar-lein sy’n rhoi modd i’r darparwr, y dysgwr a’r cyflogwr olrhain cynnydd dysgwyr yn effeithiol.