Skip to main content

Gyrfaoedd, Gwybodaeth a Chyngor Lefel 4 - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 4
C&G
Llys Jiwbilî
18 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae ein prentisiaeth Gyrfaoedd, Gwybodaeth a Chyngor wedi’i hariannu’n llawn, ac mae ar gyfer y rheini sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor diduedd i gleientiaid ar gyfleoedd dysgu, hyfforddi a gyrfa. Gallai dysgwyr fod yn gweithio mewn rolau fel hyfforddwyr swyddi, cynorthwywyr gyrfaoedd, cymorth dysgu a datblygu, a gwasanaethau cysylltiedig â chyflogaeth.

Fel rhan o’r brentisiaeth, bydd yr unedau gorfodol a dewisol yn cael eu hasesu fel e-bortffolio sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a fydd yn cynnwys gweithgareddau sy’n seiliedig ar wybodaeth a chymhwysedd. Gall y rhain gynnwys astudiaethau achos seiliedig ar waith, datganiadau tystion, arsylwadau, datganiadau personol a chwestiynau am wybodaeth.

Gwybodaeth allweddol

Gall y brentisiaeth ddechrau ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, ac mae’n cael ei haddysgu i grwpiau a/neu unigolion gan ddefnyddio dull dysgu cyfunol drwy Teams/Zoom/Skype fel y bo’n briodol. Fel arfer bydd y dysgwyr yn cael sesiynau a chyfarfodydd gyda’r aseswr/tiwtor bob 3 i 4 wythnos.

Unedau gorfodol

  • Paratoi i weithio yn y sector datblygu gyrfa
  • Myfyrio ar ymarfer a datblygiad proffesiynol parhaus
  • Ateb anghenion gwybodaeth sy’n gysylltiedig â gyrfa cleientiaid
  • Damcaniaethau a chysyniadau dewis gyrfa i gefnogi cleientiaid
  • Rhyngweithio â chleientiaid i nodi eu hangen am arweiniad a datblygiad gyrfa

Unedau dewisol 

Bydd dy diwtor/aseswr yn gweithio gyda ti i nodi pa unedau dewisol sy’n gweddu i dy rôl a dy gyfrifoldebau, ond mae unedau dewisol yn cynnwys:

  • Cynorthwyo cleientiaid i adolygu cyflawniad gweithredoedd cysylltiedig â gyrfa
  • Cynllunio a darparu dysgu cysylltiedig â gyrfa mewn grwpiau
  • Archwilio a chytuno ar sut i ateb anghenion cysylltiedig â gyrfa cleientiaid
  • Cynorthwyo cleientiaid i wneud cais am ddysgu, hyfforddiant a gwaith
  • Deall sut i gefnogi grwpiau penodol o gleientiaid i oresgyn rhwystrau
  • Darparu cymorth parhaus i gleientiaid
  • Hyrwyddo dysgu cysylltiedig â gyrfa i gleientiaid
  • Cynllunio, darparu a gwerthuso cyflwyniadau
  • Ymgysylltu â phobl berthnasol eraill i helpu cleientiaid i ateb eu hanghenion datblygu gyrfa