Skip to main content

Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad Lefel 3 - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 3
C&G
Llys Jiwbilî
18 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae ein prentisiaethau Cyngor ac Arweiniad wedi’u hariannu’n llawn, ac maen nhw wedi’u hanelu’n bennaf at y rhai sydd wedi’u cyflogi mewn rolau sy’n darparu gwybodaeth ac arweiniad i eraill. Gallai dysgwyr fod yn gweithio ym maes arweinaid gyrfaoedd mewn sefydliadau fel undebau llafur, cymdeithasau tai, adnoddau dynol neu iechyd a gofal cymdeithasol. Gellir defnyddio'r brentisiaeth i uwchsgilio staff newydd neu bresennol. Rolau addas gan gynnwys swyddogion cyswllt, gweithwyr prosiect, cynghorwyr, cwnselwyr, athrawon neu ddarlithwyr, hyfforddwyr ffitrwydd a rolau mewn canolfannau galwadau.

Fel rhan o’r brentisiaeth, bydd yr unedau gorfodol a dewisol yn cael eu hasesu fel e-bortffolio seiliedig ar dystiolaeth, a fydd yn cynnwys gweithgareddau seiliedig ar wybodaeth a chymhwysedd. Gallai’r rhain gynnwys astudiaethau achos seiliedig ar waith, datganiadau gan dystion, arsylwadau, datganiadau personol a gofyn cwestiynau am wybodaeth.

Gwybodaeth allweddol

I fod yn gymwys i gael cyllid prentisiaeth, rhaid i chi gyflogi’r prentis am fwy na 16 awr yr wythnos a’ch bod wedi’ch lleoli yng Nghymru.

Gall y brentisiaeth ddechrau ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, ac fe’i haddysgir i grwpiau a/neu unigolion trwy ddull dysgu cyfunol ar Teams/Zoom/Skype fel y bo’n briodol. Bydd dysgwyr fel arfer yn cael sesiynau a chyfarfodydd gyda’r tiwtor/aseswr bob 3-4 wythnos.

Unedau gorfodol

  • Cynorthwyo cleientiaid i ddefnyddio’r gwasanaeth cyngor ac arweiniad
  • Rheoli baich achosion personol
  • Rheoli eich datblygiad proffesiynol eich hun mewn sefydliad
  • Cyfathrebu â chleientiaid
  • Ymarfer proffesiynol a gofynion deddfwriaethol proffesiynol, a gwasanaethau cysylltiedig â chyflogaeth yng Nghymru

Unedau dewisol

Bydd eich tiwtor/aseswr yn gweithio gyda chi i nodi pa unedau dewisol sy’n addas i’ch rôl a’ch cyfrifoldebau, ond rydyn ni’n argymell:

  • Cynorthwyo a pharatoi cleientiaid
  • Rhwydweithio
  • Cynllunio, dyrannu a monitro gwaith yn eich maes cyfrifoldeb eich hun 
  • Darparu a chynnal deunyddiau gwybodaeth
  • Deall sut i gynorthwyo grwpiau penodol o gleientiaid i oresgyn rhwystrau i ddysgu, hyfforddi a gweithio

Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad Lefel 4 - Prentisiaeth